Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

THE proof is in the pudding for a talented baker loving life in the kitchens of a leading college restaurant.

Yn dilyn ei buddugoliaeth fel Rising Star yn seremoni Gwobrau’r Diwydiant Pobi (BIA), mae Naomi Spaven yn gwneud ei marc fel prif bobydd a chef patisserie ym Mecws Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam.

Mae hi a’r pobydd a’r chef cynnyrch crwst, Ella Muddiman – cydweithiwr a enwebwyd yn yr un categori – wedi denu cwsmeriaid newydd i leoliad yr Hafod gyda detholiad o gacennau, bara a bisgedi blasus, a mwy.

Wrth sôn am ei champ, flwyddyn ar ôl iddi ennill y categori Cacen Ffrwythau yng nghystadleuaeth Cacen Orau Prydain, dywedodd Naomi: “Mae’n anodd mynegi pa mor falch oeddwn i o ennill y wobr Rising Star, heb sôn am fod yn andros o sioc.

“Rydw i wedi bod yn pobi’n broffesiynol ers tair blynedd bellach ac mor ddiolchgar am yr holl brofiadau rydw i wedi’u cael ers ymuno â’r diwydiant.

“Rydw i’n falch dros ben ’mod i wedi ennill y wobr ac yn methu aros i adeiladu ar hynny. Mae bod yn bobydd wedi trawsnewid fy mywyd yn y ffordd orau bosib ac rydw i wrth fy modd gyda pha mor amrywiol a phleserus ydy fy mywyd gwaith.”

Ychwanegodd: “Rydw i wedi bod yn gweithio ym Mecws Iâl ers tri mis ac yn caru pob munud ohono.

“Mae’r swydd yn amrywiol, ac mae gen i ryddid mawr o ran creu cynnyrch newydd a datblygu rhagor ar y becws.

“Rydw i ac Ella’n gwneud tîm gwych, ac mae pawb ym Mwyty Iâl wedi bod yn hynod groesawgar a chefnogol.”

Mae Naomi eisiau parhau i ledaenu ei chariad at bobi ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i’r sector, gan wneud hynny trwy ei chyfrif @LittleWelshFoodie poblogaidd ar Instagram.

“Rydw i wrth fy modd yn rhannu ryseitiau a syniadau a gweld pobl eraill yn rhoi cynnig arnyn nhw, mae’n rhoi llawer o foddhad,” meddai.

“Ac ym Mecws Iâl mae gennym ni gynlluniau cyffrous dros ben gan gynnwys ein cystadleuaeth Bake Off cyntaf i staff a myfyrwyr i godi arian i elusen.

“Rydyn ni wedi ymestyn ein hystod gyfanwerthol ac wedi dechrau gwerthu ein bara ein hunain yn y siop goffi a’r bwyty, mae ’na gymaint o bethau ar y gweill.”

Mae Gwobrau’r Diwydiant Pobi yn cydnabod rhagoriaeth yn y sector, a dewiswyd y bobl, y cynhyrchion a’r busnesau buddugol ar ôl misoedd o feirniadu, oedd yn cynnwys ymweld â safleoedd, cyfweliadau a phrofi cynnyrch i sicrhau eu bod yn deilwng o’r anrhydeddau hyn.

Yn y seremoni, a gynhaliwyd yng ngwesty’r Royal Lancaster yn Llundain, dosbarthwyd tlysau mewn 13 categori, a dywedodd golygydd British Baker, Amy North, mai dyma oedd un o’r digwyddiadau gorau iddyn nhw ei gynnal erioed.

“Mae’r gwobrau hyn wedi bod yn mynd am bron i 40 mlynedd ac yn cydnabod y goreuon a’r mwyaf disglair sydd gan y diwydiant i’w gynnig, o bobyddion artisan medrus i wneuthurwyr ar raddfa fawr, manwerthwyr cenedlaethol, a brandiau becws llawn addewid,” ychwanegodd.

“Wedi rhai blynyddoedd anodd, mae Bakery wedi hawlio’i le fel un o hoelion wyth y diwydiant bwyd a diod. Mae ein casgliad diweddaraf o enillwyr yn dangos pam ei fod yn gymaint o sbardun wrth iddyn nhw arddangos meddwl arloesol, strategaeth lwyddiannus ar bob graddfa, ac angerdd heb ei ail dros y nwyddau pob y maen nhw’n eu cynhyrchu, boed hynny’n fara beunyddiol y genedl neu’n ambell drît bach ganol pnawn.”

Ceir rhagor o wybodaeth am enillwyr y BIA yn: www.BritishBaker.co.uk

Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Am ragor o wybodaeth am Fwyty iâl | Bwyty Ciniawa Cyfoes yng Nghanol Tref Wrecsam a Becws Iâl, ewch i’r wefan a dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost