Background Splash

Gan Alex Stockton

BiggerBoat3

Llwyddodd y tîm o 12 o safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam i gwblhau Sialens Y Gwch Fwy.

Y dasg – sy’n cyfeirio at y ffilm o 1975, Jaws – oedd yr un anoddaf eto i Karl Jackson a’i gydweithwyr wrth iddynt gaiacio o amgylch Llyn Efyrnwy a Llyn Tegid a cherdded 22 cilomedr, wrth wersylla dros nos mewn tywydd garw, i gyd er budd Dementia UK.

“Rydyn ni wedi mynd ar anturiaethau mawr ar gyfer nifer o ymgyrchoedd ar hyd y blynyddoedd, ond roedd yr her yma yn lladdfa yn enwedig, ac roedd y tywydd yn ofnadwy ar y dechrau,” meddai Karl, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer y Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Safle Ffordd y Bers.

“Fe ddechreuodd y tywydd wella ac fe wnaethon ni gadw gyda’n gilydd i gadw’r morâl yn uchel, hyd yn oed pan oedd y gwyntoedd cryfion yn ei gwneud hi’n anodd i gaiacio ar y llynnoedd.

“Yn y diwedd, fel bob amser, wnaethon ni ddim gadael i unrhyw beth sefyll yn ein ffordd ni ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni nid yn unig wedi gorffen y daith ond hefyd wedi curo ein targed codi arian.”

Hyd yn hyn, mae Sialens y Gwch Fwy wedi codi mwy na £1200, er mawr lawenydd i Joanna Sullivan, Pennaeth Codi Arian Cymunedol, Digwyddiadau ac Arloesi Dementia UK.

Bydd yr arian yn cefnogi’r elusen a’i nyrsys – a elwir yn ‘Nyrsys Admiral’ – sy’n rhoi cyngor, cefnogaeth a dealltwriaeth arbenigol am ddim i unrhyw un y mae’r cyflwr yn effeithio arno, pryd bynnag y bydd ei angen.

“Llongyfarchiadau i Karl a’i gydweithwyr gan bawb yn Dementia UK am gwblhau eu her codi arian. Rydyn ni’n ddiolchgar am eu holl waith caled,” meddai Joanna.

“Mae byw gyda diagnosis o ddementia yn gallu bod yn flinedig, nid yn unig i’r person sydd gydag o ond i’r rhai o’u cwmpas hefyd.

“Gyda’r gefnogaeth bwrpasol gan godwyr arian fel Karl, fe allwn ni sicrhau nad oes rhaid i unrhyw deulu wynebu dementia ar ei ben ei hun a gallwn ni gyrraedd mwy o deuluoedd nag erioed gyda’n Nyrsys Admiral.”

Hwn oedd yr antur ddiweddaraf mewn cyfres o anturiaethau dan arweiniad Karl; yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae o a’i gydweithwyr Coleg Cambria wedi cwblhau’r Her Skye is the Limit, y Tri Chopa Cymru a’r Crazy 7 ar gyfer Cerrig Camu Gogledd Cymru. Fe wnaethon nhw gasglu dros £1,000 ar gyfer Prosiect Iechyd Mislif (MHP) trwy gwblhau her 4000 y Cairngorm, yn ogystal â choncro’r daith pedwar diwrnod ‘Freezing Fingers’ mewn amodau llwm, gaeafol dros fynyddoedd Rhinogydd yn Eryri.

Ewch i Hafan – Dementia UK am ragor o wybodaeth am yr elusen.

Gallwch chi barhau i gefnogi Sialens Y Gwch Fwy. Ewch i www.justgiving.com/page/karl-jackson-1726470628182.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost