Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

PaulFisher1

Fe wnaeth y talentog Paul Fisher, o Wrecsam, berfformio rhai o’i gyfansoddiadau newydd i gyd-ddysgwyr yng Ngholeg Cambria Iâl yr wythnos hon.

Roedd Paul, a dreuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa’n dysgu yn Ysgol Sant Christopher y ddinas, yn canu ac yn chwarae gitâr glasurol, gan gynnwys ei draciau ei hun, Où Sont Passés Ces Jours (Ble mae’r dyddiad hynny wedi mynd), a Mon Coeur est Ouvert (Mae fy nghalon ar agor).

Ar ôl chwarae harmonica, bysellfwrdd a gitâr gyda bandiau lleol dros y blynyddoedd dychwelodd yn ddiweddar i’w “angerdd mawr” ac mae’n bwriadu rhyddhau deunydd unigol eleni.

Fe wnaeth cariad Paul at ieithoedd gael ei atgyfnerthu – mae hefyd yn perfformio alawon yn Eidaleg a Sbaeneg – ar raglen rhan-amser Ffrangeg Sgyrsiol yn Cambria, a wnaeth arwain at roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol.

“Wrth weithio i lunio rhestr set o safon sy’n cynnwys rhai o fy nghaneuon fy hun, dwi wedi gallu dysgu ac ychwanegu nifer ohonyn nhw’n Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg,” meddai.

“Dwi hefyd wedi llogi neuaddau pentref lleol ar gyfer fy sesiynau ymarfer ac wedi gweithio i ddatblygu fy sgiliau lleisiol gyda’r soprano broffesiynol Jayne Wilson, felly roedd yn wych gallu codi o flaen myfyrwyr a staff y coleg a pherfformio rhai o’m cyfansoddiadau ar eu cyfer nhw.”

Ychwanegodd Paul: “Y gân iaith dramor gyntaf i mi roi cynnig arni oedd mewn Ffrangeg a’i recordio yn Amp Studios yn Wrecsam, a dyna lle wnes i fy recordiad cyntaf erioed flynyddoedd yn ôl.

“Gyda dim ond gwybodaeth sylfaenol o’r dafodiaith – digon i archebu baguette a pain au chocolat – ro’n i’n gwybod bod gwallau ynganu yn fy llais, felly ar ôl cofrestru ar gyfer Ffrangeg yng Ngholeg Cambria i baratoi ar gyfer fy ‘vacances en France’ nesaf roedd yn gyfle gwych i chwilio am y gefnogaeth yr oeddwn ei hangen i wella.

“Fe wnaeth y tiwtor roi’r help a’r anogaeth yr oeddwn i’n chwilio amdano ac roedd yn allweddol wrth fy ngalluogi i ddechrau ysgrifennu fy nghaneuon fy hun yn Ffrangeg, ac ro’n i’n gweld bod canu a chwarae yn ffordd dda iawn o ddysgu’r iaith.

“Roedd hwn yn ddatblygiad creadigol na fyddwn i wedi’i wneud oni bai am y cwrs yma a’r awyrgylch cefnogol yn y coleg, yn ogystal â’r cyfle i ddysgu a rhyngweithio gyda’r holl fynychwyr eraill – merci i Pam a’r tîm i gyd!”

Dywedodd Mel Henry, Cyfarwyddwr Cwricwlwm a Dirprwy Bennaeth yn Chweched Iâl, bod eu rhaglenni ieithoedd yn parhau i fod yn boblogaidd gyda dysgwyr oedolion a rhan-amser.

“Rydyn ni wedi gweld mwy a mwy o bobl yn cofrestru i wersi Ffrangeg a Sbaeneg, gan fod pobl yn cael eu denu at natur hyblyg, gefnogol y cyrsiau yma,” meddai.

“Mae stori Paul yn anhygoel, mae’n ysbrydoliaeth ei hun felly mae’r ffaith ei fod o wedi cael ei ysbrydoli gan ein tîm gwych a’i gyfoedion yn hyfryd i’w glywed.

“Fe wnaethon ni fwynhau ei berfformiad yn fawr iawn a dydyn ni methu aros i glywed mwy ganddo – mewn ieithoedd gwahanol! – dros y blynyddoedd nesaf.”

Gwyliwch y fideo yma: https://www.youtube.com/watch?v=BB3Wmx4MnCU

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer cyrsiau ieithoedd dysgu i oedolion neu ran-amser yng Ngholeg Cambria, ewch i Ieithoedd < Coleg Cambria a https://www.cambria.ac.uk/french-part-time-course-register-your-interest/?lang=cy.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost