Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

HUNDREDS of learners and staff at Coleg Cambria joined a celebration of business and innovation.

Roedd y coleg wedi cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ar ei safleoedd yn Llaneurgain, Wrecsam, a Glannau Dyfrdwy i gydnabod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.

Roedd Cambria wedi trefnu gweithdai a sesiynau rhyngweithiol gydag arweinwyr diwydiant, mentoriaid Syniadau Mawr Cymru a pherchnogion busnes adnabyddus. Roedd y rhain yn cynnwys Prif Swyddog Gweithredol Tanya Whitebits, Shoned Owen, yr artist Liz Williams a Beatriz Albo sydd wedi sefydlu cwmni sawsiau Sbaenaidd, Sabor de Amor.

Dywedodd y Cydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth Judith Alexander fod y rhaglen yn darparu cyfleoedd i ddatblygu a chymhwyso sgiliau fel llythrennedd ariannol, creadigrwydd, meddylfryd rhagweithiol, arloesi, datrys problemau, rheoli amser a gwydnwch.

“Mae Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang (GEW) yn ymgorffori llawer o’r sgiliau a’r profiadau rydyn ni’n eu meithrin yn ein myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn,” meddai Judith.

“Ein nod ydy ymgysylltu â chymaint o ddysgwyr â phosibl, naill ai ar leoliadau gwaith ac ymweliadau â rhai o’r cwmnïau mwyaf blaengar yn yr ardal, neu drwy ddod a busnesau i mewn i rannu cyngor a chynnig arweiniad, ac rydyn ni mor ddiolchgar iddyn nhw am hynny.

“Cafodd ein hymdrechion i godi ymwybyddiaeth mentergarwch ac agor cyfleoedd newydd eu cryfhau gan y digwyddiadau hyn, ac rydw i’n ddiolchgar i bawb a ymunodd â ni am eu cyfraniad.”

Cafodd nifer o ddigwyddiadau eu cynnal. Roedd y rhain yn cynnwys cyfres o weithdai Financial Foundations gan NatWest, y ‘siop cyfnewid’ Money Matters flynyddol – siop cyfnewid dillad sy’n annog unigolion i gael gwared ar ddillad nad ydyn nhw eu hangen i greu incwm ychwanegol – a siop wib gyda myfyriwr Celf a Dylunio Lefel 3, Seren Hughes.

Roedd Seren yn gwerthu gemwaith wedi’i gwneud â llaw ac anifeiliaid wedi’u crosio, a oedd yn boblogaidd iawn gyda chwsmeriaid.

Dywedodd Seren: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i werthu fy nghynnyrch yn uniongyrchol i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.

“Rydw i wedi cyfarfod â llawer o bobl ac wedi cael adborth gwerthfawr am fy nghynnyrch a phrisiau. Bydd hyn yn fy helpu i ddatblygu fy musnes bach.”

Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn brofiad gwych sydd wedi fy helpu i feithrin hyder a sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid. Byddwn ni’n argymell yn gryf fod myfyrwyr eraill yn manteisio ar y cyfleoedd masnachu prawf sy’n cael eu cynnig gan y coleg gyda chefnogaeth Judith a’r tîm Menter.”

Dywedodd Judith fod dysgwyr Lefel 3 Menter ac Entrepreneuriaeth erbyn hyn yn paratoi ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gyfer Menter, gan gynnwys Alfie Wintin, sy’n datblygu prototeipiau ar gyfer hwdis a chrysau-t wedi’u printio gyda chefnogaeth adran Celf a Dylunio’r coleg.

“Mae gennym ni gymaint o fyfyrwyr dygn, creadigol ac arloesol yma yng ngholeg Cambria,” ychwanegodd.

“Roedd GEW yn gyfle iddyn nhw arddangos eu syniadau, yn llwyfan i ddangos eu cariad at fusnes ac entrepreneuriaeth – roedd yn llwyddiant enfawr.”

I gael rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch Goleg Cambria ar y cyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost