Mae Coleg Cambria yn bwriadu datblygu ei gampws Llysfasi ymhellach ar ôl cwblhau canolfan amaethyddiaeth ac addysg gwerth £10m, sy’n cynnwys llyfrgell, ystafelloedd dosbarth, wal ddringo, labordai, siop goffi, mannau cyfarfod, atriwm, a hybiau llesiant ac AU.
Wedi’i ddylunio gan TACP Architects, byddai’r datblygiad newydd yn cael ei adeiladu gan Read Construction – dau gwmni sydd wedi’u lleoli yn Wrecsam.
Dywedodd Pennaeth Llysfasi, Elin Roberts, fod cynnydd yn nifer y myfyrwyr yn y blynyddoedd diwethaf a thwf mewn partneriaethau diwydiant gyda phobl fel AGCO a Kubota – sy’n gweld dysgwyr o bob rhan o’r DU yn ymweld â safle Sir Ddinbych yn rheolaidd ar gyfer darlithoedd fel rhan o gymwysterau yn y gwaith – wedi creu’r galw am fwy o ardaloedd byw o ansawdd uchel.
“Mae nifer y myfyrwyr wedi cynyddu 70% felly mae angen mwy o lety, yn enwedig i’r prentisiaid sy’n dod yma mewn blociau tair wythnos o bob cwr o’r wlad,” meddai.
“Mae’r rhain yn ychwanegol at ein cyfleusterau hostel presennol ac yn ategu’r ganolfan amaethyddiaeth ac addysg newydd o’r radd flaenaf a wnaeth agor yma ychydig wythnosau yn ôl.
“Bu gwaith ailwampio gwahanol rannau o safle Llysfasi yn ddiweddar ac mae cynlluniau pellach ar y gweill ond am y tro rydyn ni’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r cyfleusterau blaengar sydd gennym ni a darparu’r lleoliad o’r ansawdd gorau i’n dysgwyr, ein staff a’r gymuned.”
Mae’r bloc llety a’r ganolfan addysg ac amaethyddiaeth yn dilyn dadorchuddio canolfan addysg wledig gwerth £1.2m bedair blynedd yn ôl, a oedd yn cynnwys ystafelloedd TG ac amlgyfrwng, lle ar gyfer gweithdai, ystafelloedd dosbarth, mannau ymneilltuo, cegin, swyddfeydd, ac ystafelloedd cyfarfod i ddarparu gwasanaethau dwyieithog a theuluol a chymunedol.
“Bydd y bloc llety newydd yn cyd-fynd â’r datblygiadau yma ac yn dangos ein safle fel un o golegau amaethyddiaeth mwyaf blaenllaw’r wlad, gyda chyfleusterau modern a dysgu o ansawdd uchel mewn partneriaeth ag enwau mwyaf y sector,” meddai Elin.
“A hyn i gyd yn un o ardaloedd mwyaf prydferth Cymru, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn Nyffryn Clwyd.”
Ychwanegodd: “Mae ein cynlluniau’n cefnogi’r economi leol, wledig, gan ein galluogi ni i addysgu a helpu i lunio’r genhedlaeth nesaf o weithwyr amaethyddol a choedwigaeth yn Sir Ddinbych a thu hwnt.
“Yn ogystal â mannau byw cyfoes o’r radd flaenaf ac ystafelloedd gwely gydag ystafelloedd ymolchi en-suite, bydd ‘mannau ymneilltuo’ i ganiatáu myfyrwyr i gymdeithasu.
“Mae’n brosiect cyffrous iawn ac rydyn ni’n gobeithio cael y caniatâd, i barhau gyda’n rhaglen fuddsoddi a chryfhau ein hymrwymiad i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid ymhellach yng ngogledd ddwyrain Cymru a ledled y wlad.”