Mae grŵp o gynrychiolwyr myfyrwyr o’r coleg – yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi – wedi cael eu gwahodd i’r Senedd yng Nghaerdydd gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vicki Howells AS.
Yno dyma nhw’n ymuno ag aelodau NUS Cymru i glywed cyhoeddiad y Gweinidog ar y trothwy incwm cartref sy’n arwain at gynydd yn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg sy’n golygu hwb i deuluoedd ledled y wlad.
Mae’r Lwfans yn grant wythnosol o £40 sydd ar gael i gefnogi pobl ifanc 16 i 18 oed o gartrefi cymwys gyda chostau addysg ychwanegol fel cludiant neu brydau bwyd.
Ar hyn o bryd mae mwy na 16,000 o fyfyrwyr yn derbyn y Lwfans ond yn y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi mae disgwyl y bydd 3,500 o fyfyrwyr ychwanegol yn manteisio ar y cynnydd.
I gartrefi gydag un plentyn dibynnol bydd yn codi o £20,817 i £23,400 sy’n golygu bod teuluoedd gydag incwm cartref o £23,400 neu lai yn gymwys ar gyfer y Lwfans.
Mae’r trothwy ar gyfer cartrefi gydag un neu fwy o ddibynyddion ar hyn o bryd yn £23,007 a bydd hynny’n cynyddu i £25,974, gan olygu bod teuluoedd gydag incwm cartref o £25,974 neu lai yn gymwys ar gyfer y Lwfans.
Ymysg y rheiny oedd yn dyst i’r newyddion oedd Cydlynydd Ymgysylltiad Llais Myfyrwyr Cambria, Mark-Ryan Hughes a ddywedodd: “Rydym yn falch o fod wedi cael ein gwahodd i’r Senedd i wylio’r Gweinidog yn cyhoeddi’r cynnydd yn y trothwy incwm cartref ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
“Roedd yn gyfle gwych i Gynrychiolwyr Myfyrwyr Coleg Cambria i weld datblygiad allweddol a fydd yn golygu y bydd miloedd mwy o fyfyrwyr mewn colegau a chweched dosbarth yn cael manteisio ar gefnogaeth ariannol hanfodol.”
Meddai’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: “Mae Cymru eisoes yn cynnig y Lwfans Cynhaliaeth Addysg fwyaf hael yn y DU gan helpu dysgwyr ôl-16 i allu parhau i astudio cyrsiau academaidd neu alwedigaethol ac mae’r newid hwn yn golygu y byddwn yn gallu cynnig cymorth i filoedd mwy o fyfyrwyr.”
Ychwanegodd Deio Owen, Llywydd NUS Cymru: “Mae codi’r trothwy incwm cartref ar gyfer y Lwfans yn galluogi i fwy na 3,500 o bobl ifanc i ddilyn addysg ôl-16.
“Rydym wedi bod yn ymgyrchu am hyn am gryn amser ac rydym mor falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando o’r diwedd ar ein myfyrwyr.”
Cafodd myfyrwyr Coleg Cambria gyfle hefyd i gwrdd â’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch a Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan i drafod y newidiadau i’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a chludiant i fyfyrwyr mewn cymunedau ledled gogledd ddwyrain Cymru
Am fwy o wybodaeth: Mwy o ddysgwyr i gael cymorth ariannol drwy Lwfans Cynhaliaeth Addysg | LLYW.CYMRU
Ewch at www.cambria.ac.uk i gael mwy o wybodaeth ar gefnogaeth i fyfyrwyr a’r newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.