Wrth i’ch person ifanc ddechrau yn y coleg am y tro cyntaf, bydd bywydau y ddau ohonoch yn newid, yn ogystal â’r ffyrdd y byddant eich angen chi. Y peth pwysicaf yw y byddant eich angen chi o hyd. Byddwn ni yng Ngholeg Cambria yn cynorthwyo eich plentyn i ennill y sgiliau a’r cymwysterau cywir i’w paratoi nhw ar gyfer bywyd ar ôl y coleg, ond ar gyfer datblygu personol, annibyniaeth a sefydlogrwydd, byddant yn chwilio am gymorth gennych chi.
Gall dysgu i lywio’r rhan newydd yma o’u bywyd fod yn frawychus ac yn heriol, i chi yn ogystal ag iddyn nhw, a dyna pam rydym yma i’ch cynorthwyo chi a’ch plentyn.
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn annog eich plentyn i gyflawni eu potensial llawn, gan gynyddu eu hyder a rhoi profiadau go iawn iddynt i sicrhau pan fyddant yn gadael y coleg eu bod yn barod ar gyfer eu camau nesaf.
Bydd myfyrwyr yn astudio mewn cyfleusterau gwych, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a byddant yn cael eu haddysgu gan staff arbenigol, a fydd yn rhoi’r offer angenrheidiol iddynt ar gyfer addysg uwch, prentisiaeth neu yrfa wych.
Bydd pob myfyriwr yn cael cymorth anogwr cynnydd a fydd yn cyflwyno ein rhaglen MADE sef Cynyddu Cyrhaeddiad a Datblygu Pawb i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn i lwyddo a byddant yn cael sesiynau hyfforddi grŵp a thiwtorialau un i un rheolaidd.
Mae ein perthynas gyda myfyrwyr yn cynnwys chi fel eu rhiant neu warcheidwad, felly mae pob croeso i chi gysylltu â gwasanaethau myfyrwyr os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau ynghylch cynnydd eich plentyn yn y coleg. Byddwn yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda chi drwy adroddiadau a nosweithiau rhieni hefyd i roi gwybodaeth i chi ynglŷn â’u cynnydd.
Hoffwn glywed eich safbwyntiau ar brofiad eich plentyn yn Cambria. Er mwyn i ni gael yr wybodaeth bwysig hon, bob blwyddyn rydym yn cysylltu â rhieni trwy ein Harolwg Rhieni blynyddol.
Rydw i wrth fy modd bod eich plentyn yn bwriadu ymuno â ni yn fuan fel myfyriwr llawn amser neu ran amser, neu fel prentis.
Mae dod i le newydd i astudio yn newid mawr ym mywyd eich plentyn, mae cymaint o wybodaeth i’w chofio a nifer fawr o bethau gwahanol i’w hystyried. Rydw i’n siŵr y bydd gennych chi nifer o gwestiynau i ni, ac rydym wrth law ar gyfer unrhyw beth ydych chi ei angen.
Cofiwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen Cysylltwch â Ni. Wrth gwblhau’r ffurflen hon, bydd eich ymholiad yn cael ei anfon yn syth at ein tîm a fydd yn cysylltu’n ôl â chi cyn gynted â phosibl.
Rydym eisiau i’ch plentyn deimlo’n gyffrous am ymuno â ni ac rydym eisiau i chi deimlo’n ddiogel wrth eu gweld nhw’n dod yma bob dydd. Anfonwch e-bost atom os ydych yn poeni neu’n teimlo’n bryderus. Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni.
Rydw i a phawb yng Ngholeg Cambria yn edrych ymlaen at eich cyfarfod chi a’n myfyriwr newydd yn fuan.
Sue Price
Pennaeth
Coleg Cambria
Diogelwch a lles eich plentyn yw ein prif flaenoriaeth, a dyna pam rydym yn falch o ddweud ein bod yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr bod ein myfyrwyr a’n staff yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod rhag unrhyw niwed. Mae Tîm Diogelu Cambria yn cynnig cymorth ac arweiniad i blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed, neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol.
Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed rhag bygythiad syniadau eithafol, dylanwad grwpiau terfysgol a pheryglon radicaleiddio. Mae ein Strategaeth Prevent yn nodi ein dulliau a’n cyfrifoldebau. Mae’n canolbwyntio ar addysg, parch a darparu lle diogel i’n myfyrwyr i drafod materion, holi cwestiynau a rhannu safbwyntiau a nodau i helpu pobl warchod eu hunain.
Gallwch chi neu eich plentyn gysylltu â’r tîm unrhyw bryd ar 0300 30 30 009 neu anfon e-bost at safeguarding@cambria.ac.uk. Fel arall galwch heibio’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar unrhyw un o’n safleoedd.