Safon uwch

A level Science students using

Byddwn ni’n eich ysbrydoli chi i gyflawni, ni waeth pa gyrsiau Safon Uwch y byddwch chi’n dewis eu hastudio gyda ni. Mae tiwtor profiadol a llawn gwybodaeth ym mhob ystafell ddosbarth a fydd yn rhoi hyder i chi, y sgiliau perthnasol, a’r cymhelliant i gyflawni eich potensial llawn.

Fel myfyriwr chweched dosbarth yng Ngholeg Cambria, byddwch chi’n cael eich gwerthfawrogi fel unigolyn ac yn cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnoch chi i sicrhau eich gyrfa ddelfrydol neu gwrs addysg uwch. Mae yna reswm pam fod gennym ni enw da rhagorol am lwyddiant.

Yn ogystal â’r pynciau Safon Uwch y byddwch chi’n eu dewis eich hunain, byddwn ni’n eich cynorthwyo chi i gyflawni eich potensial yn rhagor wrth eich cofrestru chi ar gyfer gymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch y byddwch chi’n ei astudio fel cymhwyster Safon Uwch ychwanegol. Bydd hyn yn eich cynorthwyo chi i ddatblygu sgiliau academaidd a chyflogadwyedd ychwanegol.

I gofrestru ar gwrs Safon Uwch mae gofyn bod gennych chi o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith gyntaf a Mathemateg. Yn ogystal, bydd angen i chi wirio’r gofynion mynediad pwnc-benodol yn y proffiliau cwrs isod’.

Mae mwyafrif y myfyrwyr UG a Safon Uwch bellach wedi’u hamserlennu am 4 diwrnod yr wythnos yn hytrach na 5 diwrnod yr wythnos.

Nid ydy faint o amser gwersi a neilltuir i bob pwnc wedi newid, ond bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gweld y byddan nhw mewn gwersi am y rhan fwyaf o’r amser y maen nhw ar y safle, yn cael llai o gyfnodau rhydd.

I fod yn llwyddiannus yn eich Safon Uwch mae’n hanfodol eich bod chi’n neilltuo cryn dipyn o amser i astudio y tu allan i wersi ac felly bydd angen i chi gydbwyso’n ofalus unrhyw ymrwymiadau eraill sydd gennych chi – gwaith rhan-amser neu chwaraeon cynrychioliadol, er enghraifft – gyda’r amser ychwanegol sydd gennych chi i’w neilltuo i astudio ar gyfer eich pynciau.  Mae neilltuo awr o astudio y tu allan i wers am bob awr o ddosbarth yn rheol dda.

Os byddwch chi’n penderfynu astudio pwnc ychwanegol, mae’n debygol iawn y bydd eich amserlen yn cynnwys 5 diwrnod.

Mae croeso bob amser i ddysgwyr fynd i’r Coleg ar y diwrnod nad ydyn nhw wedi’u hamserlennu i ddod i mewn, byddai’n amser perffaith i astudio y tu allan i wersi neu i ofyn am ragor o arweiniad gan staff.

Pa Gyrsiau Sydd Ar Gael

Addysg Gorfforol - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Addysg Gorfforol - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Astudiaethau Busnes - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Astudiaethau Busnes - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Astudiaethau Crefyddol (Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd) - Safon Uwch

  • 02/09/2025
  • Iâl

Astudiaethau Cyfryngau - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Astudiaethau Cyfryngau Safon Uwch

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Astudiaethau Drama a Theatr Safon Uwch

  • 02/09/2025
  • Iâl

Astudiaethau Ffilm - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Astudiaethau ffilm Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd) - Safon Uwch

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Bioleg - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Bioleg - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Celf a Dylunio (Celf, Crefft a Dylunio) - Safon Uwch

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth/Digidol) - Safon Uwch

  • 02/09/2025
  • Iâl

Celf, Crefft a Dylunio (Celf, Crefft a Dylunio, Celfyddyd Gain, Dylunio Tecstiliau, Dylunio 3D a Dylunio Graffeg) - Safon Uwch

  • 02/09/2025
  • Iâl

Cemeg - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Cemeg - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Cerddoriaeth - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Cerddoriaeth - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Cyfrifadureg - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Cyfrifadureg - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Cymdeithaseg - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Cymdeithaseg - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Cymraeg (Ail Iaith) - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Cymraeg (Ail Iaith) - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Cymraeg (Iaith Gyntaf) - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Cymraeg (Iaith Gyntaf) - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Daearyddiaeth - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Daearyddiaeth - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Dinasyddiaeth Glasurol - Safon Uwch

  • 02/09/2025
  • Iâl

Drama ac Astudiaethau Theatr - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Economeg - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Economeg - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Ffiseg - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Ffiseg - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Gwyddor yr Amgylchedd - Safon Uwch

  • 02/09/2025
  • Iâl

Hanes - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Hanes - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Cyfunol - Safon Uwch

  • 02/09/2025
  • Iâl

Iaith Saesneg - Safon Uwch

  • 02/09/2025
  • Iâl

Iaith Saesneg - Safon Uwch

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Llenyddiaeth Saesneg - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Llenyddiaeth Saesneg - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Llywodraeth a Gwleidyddiaeth - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Llywodraeth a Gwleidyddiaeth - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Mathemateg - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Mathemateg - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Mathemateg Bellach - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Mathemateg Bellach - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Seicoleg - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Seicoleg - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Technoleg Ddigidol - Lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Technoleg Ddigidol - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Tystysgrif Lefel 3 CBAC mewn Troseddeg

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy

Y Gyfraith - lefel A

  • 02/09/2025
  • Iâl

Y Gyfraith - Lefel A

  • 01/09/2025
  • Glannau Dyfrdwy
Abby Cooper IMG_1611

Abby Cooper

Astudiodd – Safon Uwch Bioleg, Cemeg, Mathemateg, Mathemateg Bellach a Tystysgrif Her Sgiliau Uwch

Ar hyn o bryd – Ar fin dechrau ar ei thrydedd flwyddyn yn astudio’r Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caergrawnt.

“Mi wnaeth astudio Safon Uwch yn 6ed Glannau Dyfrdwy fy ngalluogi i gael gafael ar amrywiaeth o gyfleoedd a chymorth i ddysgu a llwyddo a rhoi’r offer oedd eu hangen arna’i i wneud cais i Brifysgol Caergrawnt, lle dwi wedi cael modd i fyw yn astudio dros y ddwy flynedd ddiwetha! Gyda chyfleusterau gwych, staff hynod o gefnogol a phwyslais ar gymryd rheolaeth o’ch dysgu, mi wnaeth y ddwy flynedd a dreuliais yng Ngholeg Cambria roi paratoad gwych i mi ar gyfer mynd i addysg uwch a thu hwnt.”

Dangos Rhagor
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Astudiodd – Safon Uwch mewn Saesneg, Drama, Mathemateg a Ffrangeg

Ar hyn o bryd – Mae’n gyflwynydd ac yn ohebydd newyddion i’r BBC 

“Doeddwn i ddim yn siŵr beth oeddwn i eisiau ei wneud yn y dyfodol, felly mi wnes i ddewis ystod o wahanol bynciau i astudio yn Safon Uwch. Erbyn hyn dwi’n cael fy nghyflogi gan y BBC fel Cyflwynydd a Gohebydd Newyddion a rhoddodd astudio yn Chweched Iâl yr hyder a’r sgiliau i mi fynd ymlaen i’r brifysgol. Mi wnes i ffrindiau anhygoel, roedd gen i athrawon gwych na wna’i byth eu hanghofio ac fe ges i amser gwych yn Wrecsam! 

“Dwi’n edrych yn ôl ar fy amser yn Iâl gyda balchder a hoffter a wna’i byth anghofio’r profiad!”

Dangos Rhagor
Play Video
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

A oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost