IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Mae’r galw am weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy nag erioed. Mae’r GIG a’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn chwilio am bobl dosturiol a gweithgar i ymuno a nhw. Ydy hyn yn rhywbeth rydych chi’n angerddol amdano? Yna byddai gyrfa ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn addas i chi.

Ruth Jones - HSC

Ruth Jones

Astudiodd – Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Erbyn hyn – Nyrsio Plant ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam

Mae’n rhyfeddol gweld sut dwi wedi symud yn fy mlaen dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn dwi’n astudio fy nghwrs delfrydol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam! Buaswn i ddim yn berson mor wydn heb y cymorth a’r anogaeth ragorol a chadarn gan fy nhiwtoriaid yn y coleg – roedden nhw’n anhygoel.

Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi agor cymaint o ddrysau i mi fel myfyriwr nyrsio ar hyn o bryd – Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw gwrs gwell, a doedd dim coleg gwell, i’m helpu i gyrraedd lle ydw i heddiw. Dwi wedi dysgu am gymaint o wahanol gysyniadau ac agweddau o fewn iechyd a gofal cymdeithasol, a dwi wedi bod wrth fy modd!

Fy nghyngor i unrhyw darpar fyfyrwyr yw, ewch amdani! Mae’r tiwtoriaid yn y coleg eisiau i chi wneud eich gorau glas, gwrandewch arnyn nhw – maen nhw’n arbenigwyr!

Dangos Mwy
Placeholder image of a headshot

Amy Jones

Erbyn hyn – Myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chadét Gofal Iechyd 

“Y profiad dwi’n ei gofio fwyaf yw golchi gwallt tair merch hyfryd a oedd wedi bod ar y ward am dros bedair wythnos. Roedd hwn yn brofiad bythgofiadwy gan ei fod yn weithred mor syml ond gwnaeth gymaint o wahaniaeth iddyn nhw a sut oedden nhw’n teimlo yn eu hunain. Hefyd roedd yn wych cael helpu’r unigolion mewn ffordd mor fawr gyda gweithred mor fach ac fe ddangosodd i mi cymaint y mae’r cleifion yn dibynnu ar y staff nyrsio o’u cwmpas am gysur a sicrwydd.”

Dangos Rhagor
Play Video about Health & Social Care
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

A oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost