main logo

CHWARAEON A FFITRWYDD

Play Video

Hoffech chi droi eich angerdd am chwaraeon yn yrfa? P’un a ydych chi eisiau bod yr athletwr nesaf gorau, ffisiotherapydd medrus neu unrhyw beth arall yn y diwydiant cyffrous ac amrywiol hwn, mae gennym gwrs i chi yng Nghanolfan Brifysgol Cambria.

Mae ein cyrsiau’n cael eu dylunio’n ofalus i’ch annog i wthio eich hunain yn gorfforol a meddyliol, wrth i chi ddysgu amrywiaeth o sgiliau y gallwch eu defnyddio yn eich gyrfa yn y dyfodol. Fel myfyriwr Chwaraeon Canolfan Brifysgol Cambria, byddwch yn gallu defnyddio rhai o’r cyfleusterau gorau yng Nghymru, gan gynnwys Canolfan Athletau Dan Do Gogledd Cymru (NWIAC). Beth am gyflawni eich nodau drwy wneud cais heddiw.

Pa Gyrsiau Sydd Ar Gael

Nid oes gennym unrhyw gyrsiau ar gael ar hyn o bryd.

Chwilio am GyrsiauCofrestrwch eich Diddordeb

Cyfleusterau Chwaraeon a Ffitrwydd

Trac Athletau

Neuadd Chwaraeon

Stiwdio Troelli

Play Video

A oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n Galeri

Dewch i gael cip o amgylch y safle a gweld sut beth yw astudio gyda ni yng Nghanolfan Brifysgol Cambria neu dysgwch ragor am Ganolfan Brifysgol Cambria a’n cyfleusterau o’r radd flaenaf.

Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.

“Ar ôl astudio cyrsiau Safon Uwch yn wreiddiol yn y coleg roeddwn i’n chwilio am gyfle i newid cyfeiriad a gwnes i benderfynu dilyn cwrs Lefel 2 mewn Hyfforddwr Ffitrwydd. Ar ôl blwyddyn o astudio gwnes i sylweddoli mod i’n ei fwynhau’n fawr.

O’r cwrs lefel 2 gwnes i ddechrau gweithio yn Energie Fitness ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwnes i benderfynu ymgymryd â gradd FdSc mewn Hyfforddi Chwaraeon, wrth astudio am gymhwyster Lefel 3 mewn Hyfforddwr Personol hefyd. Roedd hyn yn gweithio i mi oherwydd roeddwn i’n gallu helpu eraill ddeall sut i gyflawni eu nodau ffitrwydd yn fwy effeithlon.

Unwaith yr ydw i wedi cwblhau’r cwrs FdSc mewn Hyfforddi Chwaraeon dwi am astudio BSc mewn Gwyddor Ymarfer Corff a Chwaraeon ym Mhrifysgol Caer. Dwi’n edrych ymlaen at hyn gan y bydd yn datblygu fy ngwybodaeth yn rhagor ac yn galluogi i mi ganolbwyntio ar faes gwahanol yn y diwydiant, sef cryfder a chyflyru a gobeithio canolbwyntio ar MMA.

Ond, dydw i ddim eisiau rhoi’r gorau i ddysgu ac felly dwi’n gobeithio ennill gradd Meistr Ymchwil mewn Gwyddorau Ymarfer Corff a Chwaraeon yn y pen draw.”

Dangos Rhagor

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost