Home > Cyflogwyr > Gweld Pob Maes Pwnc > Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Pam dewis Prentisiaeth?
Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.
Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.
Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.
Mae Prentisiaeth yn un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o ddechrau yn y diwydiant cyfrifeg.
Os ydych chi wrth eich bodd yn yr awyr agored, yn sefyll o dan ganopi o goed neu’n cerdded drwy goetir â’r ddaear wedi’i orchuddio â mwsogl, yna byddai Prentisiaeth mewn Coed a Phren yn ddelfrydol i chi.
O ddatrys dirgelion gwahanol rywogaethau coed i ddeall sut maen nhw’n ffynnu mewn ecosystemau amrywiol, byddwch yn ymchwilio i galon y goedwig ac yn dysgu celfyddyd coedyddiaeth, meistroli’r sgiliau i ofalu am goed a’u trin mewn tirweddau trefol a naturiol.
Paratowch i gael eich dwylo yn fudr gyda gwaith ymarferol drwy gydol y flwyddyn a’r angen am sgiliau tîm a chyfathrebu da.
Diploma Lefel 2 mewn Coed a Phren yn y Gwaith
Gofyniad Mynediad – Gweithio mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 18 mis
Dull Astudio ac Asesiad – Asesiad yn y gwaith, gweithlyfrau a gwaith theori
Lleoliad – Gweithle
Diploma Lefel 3 mewn Coed a Phren yn y Gwaith
Gofyniad Mynediad – Gweithio mewn diwydiant perthnasol, cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth
Hyd Arferol – 21 mis
Dull Astudio ac Asesiad – Asesiad yn y gwaith, gweithlyfrau a gwaith theori
Lleoliad – Gweithle
A wyddech chi?
Mae gan y sector coedwigaeth yng Nghymru Werth Ychwanegol Gros blynyddol o £499.3 miliwn ac mae’n cyflogi rhwng 8,500 ac 11,300 o bobl.
[Cyfoeth Naturiol Cymru, Mehefin 2023]
Awgrym Gwerth Chweil
Cysylltwch â busnesau lleol a rhowch gopi o’ch CV iddyn nhw, efallai nad ydyn nhw erioed wedi meddwl am logi Prentis o’r blaen!
Mae’r Holl Brentisiaethau’n Cynnwys Y Canlynol:
- Asesiadau Cychwynnol a Diagnostig
- Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
- Cymhwyso Rhif
- Cyfathrebu Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi ddechrau prentisiaeth, gallwch chi gael cyflogaeth eich hun neu gallwch chwilio trwy ein swyddi gwag, neu siarad â’n tîm ymroddedig. Pa bynnag lwybr rydych chi’n penderfynu sy’n iawn i chi, rydyn ni yma i’ch helpu chi i lwyddo.