Cafodd yr Arddangosfa Sgiliau Gweithgynhyrchu Digidol gyntaf ei chynnal yn Medru – Y Ffatri Sgiliau a chroesawodd goreuon diwydiant y DU.
Yn eu plith nhw oedd cwmnïau fel Universal Robots, Manchester Metrology, Alpha 3 Manufacturing, KUKA, Innovative Physics, Broetje Automation, RARUK Automation, Advanced Manufacturing Research Centre (AMRC Cymru), Croft Additive Manufacturing Ltd, WHM-Robotics, Omnia-NW Ltd, Mark 3D Ltd, V360 Group, Wittenstein, Measurement Solutions Ltd, ALRAD Instruments and Metlase Ltd.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu mewn partneriaeth â Nu-Tech Exhibitions and Events, y Brifysgol Agored a Phrifysgol Bangor, roedd y rhaglen am ddim ac yn arddangos Diwydiant 4.0 – y pedwerydd chwyldro diwydiannol – a Thechnoleg Glyfar.
Dywedodd Nigel Holloway, Cyfarwyddwr Darysiadau Busnes Cambria: “Roedd hi’n ddiwrnod gwych gyda chymaint o enwau blaenllaw yn bresennol.
“O berspectif academaidd, busnes a thechnoleg roedd y digwyddiad yn llwyddiannus, a rydyn ni’n gobeithio y bydd rhagor o arddangosfeydd yn cael eu cynnal yn Cambria yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”
Roedd arddangosfeydd, gweithdai rhyngweithiol, cyflwyniadau technegol, ‘trosglwyddo technoleg’ a rwydweithio yn ystod y dydd.
Dywedodd Dr Daniel Roberts, Swyddog Cyswllt Medru ar gyfer Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Drydanol Prifysgol Bangor: “Roedd hi’n wych gweld cymaint o gynrychiolwyr ac arddangoswyr yn dod i’r digwyddiad a oedd yn arddangos ystod ragorol o offer, gan arddangos sut all cwmnïau baratoi ar gyfer Diwydiant 4.0.”
Ychwanegodd Rheolwr Cyfarwyddwr Nu-Tech Lisa Jones-Taylor: “Roedd hi’n anhygoel gweld cymaint o enwau mawr yn y Ffatri Sgiliau, yn arddangos eu galluoedd Diwydiant 4.0 arloesol ac yn rhannu gwybodaeth ac arferion gorau gyda’u cyfoedion – diolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad.”
Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria ewch i www.cambria.ac.uk