Home > Cynhwysiant a Chymorth Dysgu
Yma yn Cambria, rydym wedi ymrwymo i gynhwysiant. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb yn weithredol ac yn dathlu amrywiaeth.
Dewch i ymuno â ni ar un o’n rhaglenni addysg a hyfforddiant. Mae ein hymagwedd gynhwysol, yn ogystal â’r cymorth a’r addasiadau rydym yn eu cynnig, yn golygu ein bod yn gallu diwallu unrhyw un o’ch anghenion. Gweler ein darpariaeth dysgu cyffredinol/ychwanegol i gael rhagor o wybodaeth.
Cynigir cymorth cynhwysiant ar draws pob un o’n pum safle. Bydd ein dull yn cael ei deilwra i chi a’ch anghenion unigol. Gellir rhannu unrhyw un o’ch anghenion dysgu gyda ni cyn i’ch cwrs ddechrau neu ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs astudio.
Cydlynydd Cymorth Dysgu
Cydlynydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cydlynydd Iechyd Meddwl a Llesiant
yng Nglannau Dyfrdwy a Llysfasi
Mae’r Tîm Cynhwysiant yn cynnwys pobl llawn gwybodaeth mewn swyddi amrywiol, fel:
Gallwn helpu gyda’r canlynol:
Gyda Beth Allwn Ni Helpu?
Trefniadau mynediad i arholiadau
Caledwedd a meddalwedd cynorthwyol
Cymorth addysgu arbenigol
Cymorth yn y dosbarth
Pontio
Asesu a sgrinio
Gall ein darlithwyr profiadol gynnig cymorth un i un ac asesiadau personol i’ch helpu gyda dysgu annibynnol. Byddant hefyd yn darparu gwersi i gyflwyno ffyrdd newydd o weithio i chi ac yn cytuno ar gynllun dysgu ychwanegol gyda chi i sicrhau eich bod yn cyflawni eich nodau.
Mae sesiynau grŵp ar gael i chi gyda Darlithwyr Arbenigol, Mentoriaid Cynhwysiant a Mentoriaid ASD. Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio ar eich cyfer chi i feithrin sgiliau yn y meysydd canlynol:
Cymorth yn y dosbarth
Cymorthyddion Cymorth Dysgu sy'n darparu cymorth yn y dosbarth. Mae ar gael i chi os ydych chi ar unrhyw gwrs Sylfaen a Lefel 1.
Cymorth pwrpasol
Rydyn ni'n hapus i gynnig cymorth un i un i chi, ar gyfer pethau fel gofal personol neu gymorth cyfathrebu, ni waeth pa gwrs rydych chi'n ei astudio.
Technoleg gynorthwyol
Mae meddalwedd darllen ac ysgrifennu ar gael i chi pryd bynnag y bydd ei angen arnoch chi, ar ba bynnag gwrs y mae ei angen arnoch chi a bydd wrth eich ochr chi i'ch helpu chi ar eich taith i lwyddiant.
Dysgu effeithiol
Rydyn ni yma i gynorthwyo eich dysgu mewn unrhyw ffordd y gallwn ni. Mae ein tîm profiadol yn cynnig cefnogaeth un i un i sicrhau ei fod yn benodol ar gyfer yr unigolyn.
Mae meddalwedd darllen ac ysgrifennu ar gael i chi unrhyw bryd, ar unrhyw gwrs.
Yn dilyn cyfarfod ac asesiad cychwynnol, efallai byddwn yn darparu adnoddau i gynorthwyo eich dysgu, fel benthyg:
Mae’n bosibl y bydd angen Darpariaeth Dysgu Ychwanegol ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) na chaiff eu hanghenion eu diwallu gan Ddarpariaeth Gyffredinol y coleg, sydd ar gael i bob dysgwr. Pan fydd dysgwr angen ALP, mae’n debygol y bydd Cynllun Datblygu Unigol (CDU) wedi’i baratoi cyn i ddysgwr bontio i’r coleg, yn amlinellu’r ALP sydd ei angen.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Anghenion Dysgu Ychwanegol, Darpariaeth Dysgu Ychwanegol neu Gynlluniau Datblygu Unigol, siaradwch â’ch Tiwtor Arbenigol neu anfonwch e-bost at idp@cambria.ac.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Anghenion Dysgu Ychwanegol ar y dolenni isod:
Gallwch gael gwybodaeth gan eich Awdurdod Lleol hefyd:
Byddwn yn cynnal asesiad cychwynnol yn cynnwys trafodaeth 30 munud am eich anghenion dysgu. Bydd yr wybodaeth y byddwn yn ei chasglu yn ein galluogi i drafod cymorth addas neu sgrinio ychwanegol.
Mae sgrinio yn cynnwys nifer o dasgau bychain sy’n creu proffil i ni o’ch cryfderau presennol a rhai heriau. Nid yw’n asesiad na diagnosis ffurfiol. Mae’n rhaid eich bod chi wedi cael prawf llygaid yn ystod y ddwy flynedd diwethaf cyn cael eich sgrinio ar gyfer dyslecsia, trefniadau mynediad i arholiadau, neu gwblhau holiadur straen gweledol. Gallwch gael eich sgrinio ar gyfer ADHD, Dyspracsia ac ASD hefyd
Efallai bydd y broses sgrinio yn arwain at gynnig:
Trefniadau mynediad i arholiadau
Addysgu arbenigol gan ddarlithydd
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Cyfarpar arbenigol
Darparu technoleg gynorthwyol
Atgyfeirio at weithdy ADY
Atgyfeirio at
wasanaethau eraill yn y coleg
Atgyfeirio at asiantaeth allanol Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Mynediad i waith
Os ydych yn ddysgwr gydag Anawsterau Dysgu Penodol, corfforol, neu anghenion meddygol, gallwch wneud cais am drefniadau Mynediad i Arholiadau. Mae’r trefniadau hyn yn galluogi dysgwyr i gael mynediad cyfartal i arholiadau, heb newid gofynion yr asesiad.
Dyma rai enghreifftiau o drefniadau mynediad i arholiadau:
Os gawsoch chi drefniadau mynediad i arholiadau yn y gorffennol, a wnewch chi nodi hynny wrth gofrestru. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’ch gwahaniaeth dysgu neu anghenion meddygol i’ch darlithydd ADY. Byddant yn trefnu i gyfarfod â chi yn ystod eich tymor cyntaf i weithredu’r trefniadau hyn.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, ewch i’r dudalen gyswllt i gael manylion pwy yw’r Cydlynwyr Cymorth Dysgu ar gyfer eich safle.
Fel myfyriwr Addysg Uwch (AU) sydd ag anabledd, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth trwy Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen Cynhwysiant Canolfan Brifysgol.
Mae’r DSA yn eich helpu i dalu unrhyw gostau ychwanegol a allai fod gennych chi wrth astudio ar eich cwrs, o ganlyniad uniongyrchol i’ch anhawster. Mae rhagor o wybodaeth am y Lwfansau Myfyrwyr Anabl a sBrifysgol.ut i wneud cais ar gael trwy fynd i: https://www.yourdsa.com/
Gwnewch gais am DSA cyn gynted â phosibl i sicrhau bod eich cymorth ar gael cyn gynted ag y bo modd.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, ewch i’r dudalen gyswllt i ddod o hyd i fanylion y Cydlynwyr Cymorth Dysgu ar gyfer eich safle.
Dyma gymorth sydd ar gael i chi yn eich gwaith os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol.
Mae gwybodaeth am sut i gymhwyso, faint allwch chi ei gael a sut i wneud cais am y lwfans, ar gael i gyflogwyr a dysgwyr ar y wefan yma.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, ewch i’r dudalen gyswllt i ddod o hyd i fanylion y Cydlynwyr Cymorth Dysgu ar gyfer eich safle.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn rhoi cymorth i’n dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen o’r ysgol i’r coleg. Os oes angen dull wedi’i bersonoli arnoch, gallwn gynnig cymorth trwy gydol y broses bontio. Mae’r holl benderfyniadau ynghylch cymorth yn seiliedig ar dystiolaeth a bydd ein Panel Cynhwysiant wythnosol yn penderfynu arnynt.
Gallwn eich helpu cyn i chi ddechrau yn y coleg mewn nifer o ffyrdd. Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad, yn ogystal â nifer o gynlluniau dysgu gwahanol. Isod mae rhagor o ffyrdd y gallwn eich helpu yn ystod eich proses bontio i Goleg Cambria.
Bod yn bresennol mewn adolygiadau ysgol
Teithiau Rhithwir
Teithiau unigol o amgylch y coleg ac ymweliadau
Ymweliadau a chyfarfod â’r tiwtoriaid
Digwyddiad Agored
Digwyddiadau ‘Sgwrs a Thaith’ hygyrch
Cymorth mewn cyfweliadau
Diwrnodau rhagflas
Academi Haf (Sgiliau Byw’n Annibynnol yn unig)
Hoffai tîm y coleg barhau i’ch cefnogi chi yn eich dyddiau cynnar yn y coleg wrth i chi ymgartrefu. Rydym yn gwneud hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
Gweithio gyda mentoriaid cynhwysiant a mentoriaid ASD
Cymorth gyda defnyddio cludiant y coleg
Clybiau
Byddwn yn eich cynorthwyo i gymryd eich camau nesaf ar ôl y coleg wrth eich helpu gyda:
Adolygiadau amlasiantaethau
Eich atgyfeirio at asiantaethau allanol
Rhoi cyngor ar Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA)
Grantiau Mynediad i Waith
Mae rhoi gwybod i ni am eich anghenion unigol yn gynnar yn golygu y gallwn roi cymorth ar waith ar unwaith. Gallwch ddatgelu eich anghenion ar unrhyw gam o’ch taith ddysgu.
Yn y coleg bydd eich anghenion cymorth yn cael eu diwallu gan dîm o bobl o’r enw Tîm Cynhwysiant. Bydd eich anghenion cymorth personol yn cael eu nodi a gallwn roi cymorth i chi yn yr ystafell ddosbarth neu ei gyflwyno fel sesiwn ychwanegol y byddwch yn ei mynychu gyda Darlithydd neu Fentor Arbenigol.
Gallwch ddefnyddio’r feddalwedd hon i’ch cynorthwyo i ddarllen testun ysgrifenedig, neu i deipio wrth i chi siarad. Mae’n gysylltiedig â’ch cyfrif e-bost coleg a gellir ei gyrchu o bell o’ch cartref.
Dylech, os ydych am i ni roi trefniadau cymorth a/neu fynediad at arholiadau ar waith yng Ngholeg Cambria.
Dim ond os ydych wedi rhoi caniatâd i ni neu wedi gofyn i ni wneud hynny y byddwn yn trosglwyddo’r wybodaeth. Er enghraifft, caniatâd ar gyfer trefniadau mynediad at arholiad. Fodd bynnag, gall fod yn syniad da gwneud sefydliadau eraill yn ymwybodol o’ch anghenion fel y gellir rhoi cymorth perthnasol ar waith.
Na, eich gwybodaeth chi yw hyn. Fodd bynnag, os byddwch yn ei chael hi’n anodd yn ddiweddarach, ac nad ydych wedi datgelu, efallai na fydd eich cyflogwr yn ymwybodol o’r cymorth sydd ei angen arnoch.
Ydy. Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gwrs siaradwch â’r Darlithydd Arbenigol ADY ar gyfer eich maes a all esbonio’r broses i chi.
Mae’r Tîm Cynhwysiant yn darparu cymorth cymdeithasol yn ystod adegau anstrwythuredig yn ystod y dydd, fel amser cinio ac egwyl drwy glybiau fel NGAGE (niwroamrywiaeth) a SensAbility (nam ar y synhwyrau).
Os nad ydych wedi dechrau yn y coleg eto, cysylltwch â Chydlynydd Cymorth Dysgu a byddant yn trafod eich anghenion cymorth ac yn eich cyfeirio at y person gorau i’ch helpu.
Os ydych wedi dechrau ar eich cwrs, siaradwch â’ch anogwr cynnydd/tiwtor personol neu unrhyw staff addysgu ar eich cwrs. Gallant eich cyfeirio.
Mae Darlithwyr Arbenigol yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu annibyniaeth dysgu. Bydd Darlithydd Arbenigol yn cyflwyno eu hunain i’ch grŵp yn y cyfnod ymsefydlu ar gyfer pob cwrs. Fel arfer mae hyn yn ystod eich wythnos gyntaf yn y coleg. Fodd bynnag, os bydd angen i chi gysylltu â nhw cyn i chi gofrestru, bydd ein Cydlynwyr Cymorth Dysgu yn gallu eich cyfeirio at yr aelod o staff perthnasol.
Niwroamrywiaeth yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio a dathlu pwysigrwydd gwahaniaethau gwerthfawr yr ymennydd dynol.
Cymerwch gip ar y fideo YouTube hwn gan Gymdeithas Dysclecsia Prydain i gael rhagor o wybodaeth am beth yw niwroamrywiaeth.
Mae rheoliadau presennol yn nodi na ellir cwblhau sgrinio heb brawf llygaid diweddar (o fewn y 2 flynedd diwethaf). Mae hefyd yn diddymu anawsterau darllen ac ysgrifennu a achosir gan olwg gwael.
Nac ydy. Nid yw sgrinio yn ddiagnosis ffurfiol. Fodd bynnag, mae’n caniatáu i ni ddatblygu proffil o’ch cryfderau a rhai heriau y gallech eu hwynebu. Gall cwblhau sgrinio roi rhai strategaethau i ni a fyddai’n eich cefnogi yn y dosbarth, neu, i lywio asesiad pellach megis trefniadau mynediad at arholiadau, neu atgyfeirio ar gyfer asesiadau ffurfiol.
Na, eich gwybodaeth chi yw hon ac eich cyfrifoldeb chi yw ei rhannu. Bydd yn cael ei rhoi ar systemau’r coleg er mwyn i’ch darlithwyr a’ch aseswyr yn y gwaith gael mynediad i’r wybodaeth.
Rhowch wybod i’ch ysgol neu awdurdod lleol eich bod yn dymuno mynd i Goleg Cambria a gofynnwch iddynt anfon copi o’ch IDP/EHCP/LSP atom cyn gynted â phosibl. Pan fyddwn yn cael eich cynllun, yna gall y Tîm Cynhwysiant ddechrau cynllunio sut y gallwn eich cefnogi orau ar eich cwrs.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal i wneud cais i’r coleg fel y gallwn eich cyfweld i wneud yn siŵr mai eich cwrs dymunol yw’r cwrs cywir a’r lefel gywir i chi. Unwaith y byddwch wedi cael cynnig lle, bydd aelod o’r Tîm Cynhwysiant yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion ac i lunio cynllun cymorth.
Mae gennym dîm ymroddedig o staff gofal sy’n gallu cynnig cymorth gyda gofal personol i’r rhai sydd ei angen. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am eich anghenion, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i lunio Cynllun Gofal Personol i sicrhau y caiff eich anghenion eu diwallu yn y coleg.
Isod, mae rhestr o rai gwefannau sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau a allai fod yn berthnasol i chi.
Cyfeiriwch unrhyw wybodaeth drwy’r post at:
Pennaeth Cynhwysiant
———————-
Coleg Cambria
Ffordd y Celstryn
Cei Connah
Glannau Dyfrdwy
Sir y Fflint
CH5 4BR