Cyflogi Prentis
Ardoll Prentisiaethau
Cyllid Prentisiaethau
Cyflogi prentis yng nghymru
Rydym yn ddarparwr prentisiaethau allweddol yng Nghymru ac rydym yn gweithio gyda nifer o sectorau diwydiant ledled y rhanbarth ac ymhellach na hynny.
Mae nifer y cyflogwyr sy’n dewis prentisiaethau ar gyfer eu gweithwyr presennol a newydd yn cynyddu ac mae rhagor o fusnesau’n sylweddoli manteision cefnogi datblygu sgiliau trwy raglenni prentisiaethau.
Gweld pob Maes Pwnc
Popeth sydd angen i chi ei wybod
Mae prentisiaid yn ennill sgiliau gwerthfawr wrth weithio, ochr yn ochr ag astudio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd cyfwerth â 5 TGAU
Mae prentisiaid yn ennill sgiliau gwerthfawr wrth weithio, ochr yn ochr ag astudio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd cyfwerth â 2 Safon Uwch
Ar lefel Prentisiaethau Uwch, mae unigolion yn gweithio tuag at gymhwyster sy’n gyfwerth â HND / HNC, gradd sylfaen neu radd anrhydedd. Mae Prentisiaethau Uwch ar gael ar draws ystod o sectorau o Awyrennau i Gyfrifeg i Adeiladu.
Siaradwch â'n tîm heddiw
Siaradwch â’n tîm cyfeillgar heddiw i ddysgu rhagor am brentisiaethau – 0300 30 30 006, neu cliciwch ar y botwm sydd gyferbyn i anfon e-bost at y Tîm Prentisiaethau.
Cyflogi prentis yn Lloegr
Rydym yn ddarparwr cymeradwy yn Lloegr ar gyfer Busnesau sy’n Talu’r Ardoll. Mae nifer y cyflogwyr sy’n dewis prentisiaethau ar gyfer eu gweithwyr presennol a newydd yn cynyddu ac mae rhagor o fusnesau’n sylweddoli manteision cefnogi datblygu sgiliau trwy raglenni prentisiaethau.
Mewn partneriaeth â
Llywodraeth Cymru
.
Strwythur Prentisiaethau
Twf Swyddi Cymru+
Lefel 1
Cymwysterau Cyfwerth
Dysgu Galwedigaethol
Lefel Cyflogaeth
Cyn-brentisiaeth
Prentisiaethau Sylfaen
Lefel 2
Cymwysterau Cyfwerth
5 TGAU (Gradd A-C)
Lefel Cyflogaeth
Technegydd rhannol gymwys
Prentisiaethau
Lefel 3
Cymwysterau Cyfwerth
3 Chymhwyster Safon Uwch
Lefel Cyflogaeth
Technegydd Cymwys / Arweinydd Tîm
Prentisiaeth Uwch
Lefel 4/5
Cymwysterau Cyfwerth
Gradd Sylfaen (HNC / HND)
Lefel Cyflogaeth
Rheolwr
Prentisiaethau Gradd/Uwch
Lefel 5/6
Cymwysterau Cyfwerth
Gradd Baglor / Gradd Meistr
Lefel Cyflogaeth
Uwch Reolwyr / Partner / Cyfarwyddwr
Cwestiynau Cyffredin
CYMRU
Rhaid i chi fod: Yn 16 oed neu’n hŷn. Wedi gweithio o leiaf 16 awr Gwaith 51% o’r amser yng Nghymru am gyfnod eich prentisiaeth. Ddim mewn addysg amser llawn.
Mae hyd prentisiaeth yn dibynnu ar y math o gymhwyster a’r lefel. Gall prentisiaeth gymryd rhwng 1 a 4 blynedd i’w chwblhau.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yn llawn gan Lywodraeth Cymru.
Byddwch yn cael eich talu yn unol â chanllawiau cyflog cenedlaethol – Dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Mae’r ddarpariaeth yn dibynnu ar y diwydiant y mae’r brentisiaeth ynddo. Mae rhai rhaglenni’n cael eu cyflwyno yn y gweithle yn unig, mae eraill angen mynd i un o safleoedd ein coleg.
Ydyn – mae prentisiaethau yn agored i weithwyr presennol a gweithwyr newydd.
Yn Amodol ar Gymhwysedd.
Mae cyflogwyr yn hysbysebu cyfleoedd prentisiaeth ar eu cyfryngau eu hunain a / neu drwy Wasanaeth Paru Prentisiaethau Gyrfa Cymru
LLOEGR
Yn 16 oed neu’n hÿn Yn gweithio 30 awr yr wythnos o leiaf Gweithio 50% o’r amser yn Lloegr am gyfnod eich prentisiaeth Ddim mewn addysg amser llawn.
Mae hyd prentisiaeth yn dibynnu ar y math o gymhwyster a’r lefel. Gall prentisiaeth gymryd rhwng 1 a 4 blynedd i’w chwblhau.
Gall prentisiaethau gael eu hariannu gan daliadau ardoll cyflogwyr, cyd-fuddsoddi a ariennir rhwng cyflogwyr a’r ESFA neu eu hariannu’n llawn gan yr ESFA (yn dibynnu ar feini prawf).
Byddwch yn cael eich talu yn unol â chanllawiau cyflog cenedlaethol – Dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Rhaid i leiafswm o 20% o’r dysgu fod ‘i ffwrdd o’r swydd’ a bydd hyn yn cael ei gytuno gyda’ch cyflogwr yn y cyfnod ymsefydlu.
Ydyn – Mae prentisiaethau yn agored i weithwyr presennol a recriwtiaid newydd
Yn Amodol ar Gymhwysedd.
Mae cyflogwyr yn hysbysebu cyfleoedd Prentisiaeth ar eu sianeli eu hunain a/neu drwy’r gwasanaeth Darganfod Prentisiaeth
Cyflogwyr sy'n talu’r ardoll yng Nghymru
Mae Cambria ar gyfer Busnes mewn lleoliad perffaith i'ch helpu i baratoi ac i ddeall sut y bydd y Brentisiaeth Ardoll newydd yn effeithio ar gyllid hyfforddiant ar gyfer staff newydd a phresennol. Rydym yn darparu gwasanaeth recriwtio i Brentisiaethau AM DDIM i bob cyflogwr sy'n talu’r ardoll, yn ogystal â chyflogwyr nad ydynt yn ei thalu yng Nghymru.
Mae cyfraniadau’r ardoll yn cael eu casglu gan CThEM fel canran o'ch bil cyflogau cyfan. Dim ond cwmnïau gyda chyflogres dros £3 miliwn sy’n gorfod talu’r ardoll. Mae sut y cewch eich ad-dalu am hyfforddi prentisiaid yn dibynnu ar ble mae eich gweithwyr yn gweithio. Mae cyflogwyr nad ydynt yn talu’r ardoll yn gallu cael cyllid ar gyfer hyfforddi prentisiaid hefyd. Cysylltwch ag employers@cambria.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Pwy sy'n gymwys am gyllid yng Nghymru?
Unigolion 16-24 oed sy'n dilyn prentisiaethau, ar unrhyw lefel.
Nid oes ots chwaith pa mor hir y mae’r dysgwr wedi bod yn ei swydd.
Dysgwyr 25+ oed sy'n dilyn prentisiaethau ar bob lefel. Mae cyfyngiad ar y nifer o ddysgwyr sy'n ymgymryd â phrentisiaeth Lefel 2- dim ond Gweinyddu Busnes, Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Manwerthu ac Arwain Tîm. Mae'n rhaid iddynt ddechrau eu prentisiaeth o fewn 12 mis i ddechrau eu swydd.
Eisiau gwybod rhagor? Cysylltwch â'n tîm
Datblygwch eich gweithlu gyda rhaglenni Prentisiaeth wedi'u hariannu'n llawn.
Ydych chi am wella sgiliau eich gweithlu presennol? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi elwa o newidiadau diweddar yng nghyllid Llywodraeth Cymru? Fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i greu Cymru ‘Llewyrchus a Diogel’, gall gweithwyr o unrhyw oedran a hyd gwasanaeth elwa ar y rhaglen Brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn.
Os ydych chi eisiau ehangu eich busnes, datblygu gweithlu medrus, lleihau costau hyfforddi a recriwtio, heddiw ydy’r amser gorau.
Cysylltwch â thîm Cambria ar gyfer Busnes am ragor o wybodaeth ar 0300 30 30 006.
Taliad cymell prentisiaid ar gyfer cyflogi pobl anabl
I helpu busnesau i recriwtio prentis sy’n anabl, mae Llywodraeth Cymru sy’n cynnig taliadau cymhelliant tan 31 Mawrth 2024.
Dyma fanylion y taliadau cymhelliant:
- Bydd cyflogwyr sy’n recriwtio prentis anable o 1 Ebrill 2022 neu’n ddiweddarach yn gymwys i gael taliad cymhelliant o £2,000 fesul dysgwr
- Cyfyngir taliadau i 10 dysgwr anabl fesul busnes
- Mae taliadau cymhelliant yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar lefelau 2 i 5 yn unig ac nid ydynt yn berthnasol i brentisiaethau gradd.
Ni allwch wneud cais os:
- Ydych chi’n recriwtio ar gontract dim oriau
- Ydych chi’n defnyddio model prentisiaeth a rennir
- Nodir bod gan ddysgwr anabledd ar ôl iddo gael ei recriwtio.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch dîm Cambria ar gyfer Busnes ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk.
Bwriadu cyflogi Prentis?
Cadarnhau Cymhwysedd
Cysylltwch â Cambria ar gyfer Busnes trwy anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk neu ffonio 0300 30 30 006 i gael rhagor o wybodaeth neu i gadarnhau cymhwysedd.
Partneriaid
Prentisiaethau
.
Llywodraeth Cymru
.