Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

TilhillPresentation

Mae Rhiannon, o Wrecsam, yn astudio yn Llysfasi ar hyn o bryd, ac wedi cael tlws wedi’i gerfio yn arbennig a gwobr o £250. Cafodd y wobr ei chyflwyno gan John Ferguson, Uwch Reolwr Coedwigaeth Tilhill.

Mae Rhiannon sy’n 29 oed, hefyd yn gweithio i gwmni Ecological Land Management yn Wrecsam, dywedodd: “Mae wedi bod yn ddwy flynedd anhygoel yn Llysfasi a dwi’n ddiolchgar fy mod i wedi treulio blynyddoedd y pandemig gyda myfyrwyr o’r un natur a mi a thiwtoriaid ysbrydoledig.

“Dwi’n gyffrous i barhau i weithio i gwmni cadwraeth leol, ac adfer fy arbedion ac ehangu fy sgiliau wrth deithio’r wlad, gweithio a gwirfoddoli gydag ac ar gyfer prosiectau a sefydliadau amgylcheddol.”

Ychwanegodd John: “Dwi wrth fy modd i gyflwyno’r wobr yma i Rhiannon. Cafodd Diploma Tilhill ei greu ar gyfer pobl fel hi, sy’n cynnig angerdd a brwdfrydedd ar gyfer rheoli tir. Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddi yn ei gyrfa, a fydd heb os nag oni bai yn un disglair iawn.”

Dywedodd Andy White, cydlynydd Diploma Tilhill yn Llysfasi, mae hi’n annhebygol y byddwch chi’n cyfarfod ag unrhyw un sydd mor ymroddedig a phenderfynol â Rhiannon.

“Mae hi’n gosod safonau eithriadol o uchel i’w hun ac yn anelu at gyflawni rhagoriaethau ym mhopeth y mae hi’n ei wneud. Pe bai’r wobr am gyflawniad academaidd yn unig, byddai’n enillydd teilwng iawn, ar y sail honno’n unig,” meddai.

“Fodd bynnag, mae hi wedi cyflwyno rhywbeth llawer pwysicach i fywyd y coleg yn gyfan gwbl, ac i’r myfyrwyr eraill ar ei chwrs, hynny yw ei brwdfrydedd anhygoel ar gyfer popeth, a’i natur hael a chymdeithasgar.”

Mae Elin Roberts sef pennaeth Llysfasi yn cytuno, dywedodd: “Rydyn ni’n hynod o falch o Rhiannon, mae hi’n glod i’r coleg a’i chyflogwr – rydyn ni’n dymuno bob llwyddiant iddi yn y dyfodol.”

Cafodd Diploma Tilhill ei lansio yn 2018 gyda’r nod o gyflwyno llwybr unigryw i yrfa yn y diwydiant coedwigaeth.

Mae’r diploma wedi’i ddylunio er mwyn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o reolwyr a gweithredwyr wrth gyflwyno cyfuniad unigryw o addysg, profiad diwydiannol, a hyfforddiant wedi’i deilwra. Canlyniad hynny yw datblygu gweithlu blaenllaw sy’n gallu dechrau eu profiad gwaith yn gynharach yn eu gyrfa.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan; www.cambria.ac.uk/employers/tilhill 

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost