Cwestiynau Cyffredin

Dewch i ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin isod

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau’n dal i fod, cysylltwch â ni:

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

mail svg

E-bost

Cadarnhau eich lle

(O ddiwrnod canlyniadau TGAU cyn i chi ddechrau ym mis Medi)
Dydw i heb gael y graddau gofynnol i ddechrau fy nghwrs a dydw i heb gadarnhau fy lle, beth ddylwn i ei wneud?

Peidiwch â phoeni, gallwch chi lenwi’r cwrs amgen ar y ddolen cadarnhau eich lle a bydd aelod o staff yn cysylltu â chi.

Dwi angen i chi anfon y ddolen eto er mwyn i mi gadarnhau fy lle

Anfonwch e-bost at welcome@cambria.ac.uk neu ffoniwch 01978 267184 neu sgwrsiwch gyda ni drwy ddefnyddio’r nodwedd sgwrs fyw ar wefan y coleg.

Dwi'n cael trafferth cadarnhau fy lle, beth ddylwn i ei wneud?

Dwi angen i chi anfon y ddolen eto fel y galla' i uwchlwytho fy llun

Dechrau yn y coleg

Pa ddyddiad ydw i'n dechrau yn y coleg?

Byddwch chi’n cael eich dyddiad dechrau ar ôl i chi gadarnhau eich lle ar ddiwedd mis Awst. Os na allwch chi ddod o hyd i’ch e-bost, cysylltwch â welcome@cambria.ac.uk

Beth ddylwn i ei wisgo ar fy niwrnod cyntaf yn y coleg?

Gwisgwch rywbeth cyfforddus ac ymarferol.

Pryd fydda' i'n cael fy amserlen?

Bydd amserlenni ar gael ar ap Cambria ar ôl y cyfnod ymsefydlu. Ni allwn ni gadarnhau amserlenni cyn hynny, oherwydd nifer y dysgwyr a’r nifer o grwpiau sy’n dal i gael eu cwblhau.

Ble alla' i ddod o hyd i restr offer/cyfarpar?

Mae rhestrau offer/cyfarpar ar ein gwefan. Chwiliwch am eich cwrs a bydd dolen o dan y teitl “Rhestr Offer” yno.

Ble alla' i weld dyddiadau'r tymor?

Cliciwch yma i weld dyddiadau’r tymor.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Sut alla' i gyfarfod pobl lo fy nghymuned yn y coleg?

Dros yr haf byddwn ni’n cynnal diwrnodau pontio ar gyfer myfyrwyr o’r Gymuned LHDTC+, a dysgwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Bydd hyn yn galluogi i chi ddysgu am y cymorth sydd ar gael yn y coleg, wrth gyfarfod pobl o’ch cymuned chi hefyd i wneud ffrindiau cyn i chi gyrraedd yma ym mis Medi.

Unwaith i chi gyrraedd yma, rydyn ni’n cynnal clybiau a grwpiau ar gyfer cymunedau. Mae gennym ni Glwb LHDTC+ ar y rhan fwyaf o safleoedd.

Os hoffech chi ymuno ag unrhyw un o’r rhain, cysylltwch â cydraddoldebacamrywiaeth@cambria.ac.uk.

Oes llefydd i mi weddïo?

Mae gennym ni Ystafelloedd Gweddïo penodol ar ein safleoedd Iâl a Glannau Dyfrdwy, a bydd yn bosib trefnu mannau gweddïo ar ein safleoedd eraill. Ar ôl cyrraedd, gofynnwch i unrhyw aelod o staff ble mae’r rhain. Cysylltwch â caplaniaeth@cambria.ac.uk i gael rhagor o gymorth gydag ysbrydolrwydd, ffydd, crefydd neu gref.

Dwi'n drawsryweddol/anneuaidd, a hoffwn i'r Coleg ddefnyddio fy enw a'm rhagenwau dewisol. Ydy hyn yn bosibl?

Byddwn ni bob amser yn parchu enwau a rhagenwau yr hoffech chi gael eich cyfeirio atynt. Gallwn ni ddiweddaru ein systemau i adlewyrchu eich enw a rhagenwau dewisol. Os na wnaethoch chi ddarparu ‘enw adnabod’ ar eich cais ond hoffech chi roi gwybod i ni rŵan, cysylltwch â cydraddoldebacamrywiaeth@cambria.ac.uk

Alla' i gael cymorth am faterion sy'n ymwneud â fy hunaniaeth?

Fel rhan o’n cefnogaeth ehangach i chi, rydyn ni’n cynnig cymorth ar faterion sy’n ymwneud â’ch hunaniaeth a’ch nodweddion. Cysylltwch â cydraddoldebacamrywiaeth@cambria.ac.uk os hoffech chi gael gwybod rhagor am hyn.

Cymorth Dysgu a Chymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dwi angen cyngor/cymorth gyda chymorth Dysgu/ADY

Mae gennym ni ystod o gyngor ac arweiniad ar gael, ewch i drafod gyda’ch tiwtor arbenigol neu anfonwch e-bost at ein Tîm Cymorth Dysgu cymorth.dysgu@cambria.ac.uk.

Os oes gennych chi IDP/EHCP gallwch chi gysylltu â IDP@cambria.ac.uk.

Oes rhaid i mi ddatgelu fy anghenion ychwanegol?

Mae rhoi gwybod i ni am eich anghenion unigol yn gynnar yn golygu y gallwn roi cymorth ar waith yn syth. Gallwch ddatgelu eich anghenion ar unrhyw adeg o’ch taith ddysgu.

A Fydd Cymorth Coleg Fel Cymorth Ysgol?

Yn y coleg bydd eich anghenion cymorth yn cael eu diwallu gan dîm o bobl o’r enw Tîm Cynhwysiant. Bydd eich anghenion cymorth personol yn cael eu nodi a gall eich cefnogaeth fod yn yr ystafell ddosbarth neu ei gyflwyno fel sesiwn ychwanegol y byddwch yn mynychu gyda Darlithydd neu Fentor Arbenigol.

Sut ydw i'n cysylltu â'r tîm cymorth dysgu?

Mae sawl ffordd i gysylltu â’r tîm.

Os ydych wedi dweud wrthym eich bod wedi cael cefnogaeth o’r blaen, byddwn yn cysylltu â chi.

Os ydych wedi dechrau ar eich cwrs, gallwch siarad â’r staff addysgu ar eich cwrs a gallant eich cyfeirio at y tîm.

Fel arall, gallwch chi ddod o hyd i ni yn y meysydd Cynhwysiant ar bob safle a thrafod yn uniongyrchol gyda’r tîm am gyngor ac arweiniad. Mae gan bob maes cwricwlwm diwtor arbenigol parthol.

Pa gymorth sydd ar gael yn y coleg ar gyfer fy anghenion dysgu?

Mae gan y coleg lawer o gefnogaeth i chi. Mae gennym ni gefnogaeth ar gael i bawb, mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan ddarlithwyr arbenigol a chefnogaeth benodol.

Hefyd mae gennym ni gefnogaeth bwrpasol. Gall hyn gynnwys Gweithiwr Cymorth Cyfathrebu neu Weithiwr Gofal a Gweithiwr Cymorth Annibyniaeth.

Caiff hyn ei alw’n ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol a Chyffredinol.

Mae gen i Gynllun Datblygu Unigol (CDU)/Cynllun Iechyd a Gofal Addysg (EHCP) neu Gynllun Sgiliau Dysgu (LSP).
Beth sydd angen i mi ei wneud?

Rhowch wybod i’ch ysgol neu’ch awdurdod lleol eich bod yn dymuno mynd i Goleg Cambria a gofynnwch iddynt anfon copi o’ch IDP/EHCP/LSP atom ni cyn gynted â phosibl.

Os oes gennych IDP / EHCP gallwch chi hefyd gysylltu â IDP@cambria.ac.uk.

Pan fyddwn ni’n cael eich cynllun, gall y Tîm Cynhwysiant wedyn ddechrau cynllunio sut y gallwn eich cefnogi chi ar eich cwrs orau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal i wneud cais i’r Coleg fel y gallwn sicrhau mai eich cwrs dymunol yw’r cwrs cywir a’r lefel gywir i chi.

Unwaith y byddwch chi wedi cael cynnig lle, bydd aelod o’r Tîm Cynhwysiant yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion a llunio cynllun cymorth.

Dwi'n awtistig, pa gymorth sydd ar gael?

Mae gennym ni ystod o gymorth ar gael, gan gynnwys mentoriaid ASD, amgylcheddau synhwyraidd isel a mannau cynhwysiant amgen lle bo angen.

Dwi wedi cael trefniadau mynediad i arholiad o'r blaen, gyda phwy ydw i'n siarad â nhw am hyn yn y coleg?

Nid yw trefniadau mynediad i arholiadau yn parhau o’r ysgol yn awtomatig felly mae’n bwysig cysylltu â’r Tîm Cynhwysiant. Gallwch chi wneud hyn drwy roi gwybod i’ch tiwtoriaid, siarad â’ch Anogwr Cynnydd neu drwy siarad â’ch tiwtor arbenigol parthol yn uniongyrchol.

Llyfrgell a Chymorth Academaidd

Ble alla' i gael fy enw defnyddiwr a chyfrinair?

Byddwch chi’n cael hyn ar eich diwrnod cyntaf. Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau neu angen ei newid gallwch chi alw heibio’r llyfrgell ar eich safle neu anfon e-bost at llyfrgell@cambria.ac.uk.

Does gen i ddim cyfrifiadur gartref, alla' i fenthyg gliniadur?

Mae gennym ni Chromebooks ar gael i chi eu benthyg am gyfnod o dair wythnos ar y tro. Galwch heibio’r llyfrgell ar eich safle a gallwn ni eich helpu chi. Hefyd mae gennym ni ddigon o gyfrifiaduron personol a Chromebooks y gallwch chi eu defnyddio pan ydych chi yn y llyfrgelloedd.

Dwi wedi cael gwybod fy mod i angen llyfrau ar gyfer fy nghwrs, o ble alla' i gael rhain?

Mae’r llyfrgelloedd ar eich safleoedd yn llawn llyfrau sydd eu hangen arnoch chi a lle bynnag y gallwn, rydyn ni’n darparu e-Lyfrau a gallwch chi eu cyrchu gartref. Efallai y bydd gennych chi hawl i gael cyllid i brynu eich copïau personol. I gael rhagor o wybodaeth am gyllid, gofynnwch i rywun yn eich llyfrgell neu cysylltwch â’r gwasanaethau myfyrwyr.

Dwi'n poeni am gadw ar ben fy ngwaith coleg, a fydda' i'n cael cefnogaeth gyda hyn?

Mae’r coleg yn darparu llawer o gefnogaeth wrth i chi astudio. Ynghyd â’ch tiwtoriaid a’ch Anogwyr Cynnydd, mae gan bob safle dîm o Hwyluswyr Sgiliau Academaidd ac Ymgynghorwyr a allai eich helpu chi gyda’ch sgiliau astudio fel gwneud nodiadau, rheoli amser a deall eich aseiniadau. Byddwch chi’n cael sesiynau grŵp fel rhan o’ch dosbarthiadau ond gallwch chi drefnu cymorth un i un gan y tîm hefyd.

Dydw i heb fod ym myd addysg ers tro, alla' i gael cymorth i wella fy sgiliau digidol?

Gallwch! Gall y timau llyfrgell eich helpu chi gyda hyn hefyd. Helpu i fewngofnodi, helpu gyda chyfrineiriau a’ch cysylltu chi gyda Wi-Fi y coleg, gall hyn oll gael ei wneud yn y llyfrgelloedd.

Llesiant

Sut ydw i'n cysylltu â'r tîm llesiant?

Gallwch chi gysylltu â’r tîm llesiant drwy anfon e-bost at llesiant@cambria.ac.uk neu gallwch chi ddod i un o’n Hybiau Llesiant a sgwrsio gyda’n hymgynghorydd Llesiant a fyddai’n hapus i helpu.

Oes angen i mi ddatgelu fy anghenion iechyd meddwl?

Does dim angen i chi ddatgelu eich heriau iechyd meddwl gyda ni, ond mae rhoi gwybod i ni am y rhain yn gynnar yn golygu y gallwn ni roi’r cymorth cywir yn ei le i chi cyn gynted â phosibl.

A Fydd Cymorth Coleg Fel Cymorth Ysgol?

Yng Ngholeg Cambria mae gennym ni ystod eang o gymorth iechyd meddwl a llesiant ar gael. Mae hyn yn amrywio o’n Swyddog Pontio Iechyd Meddwl a Llesiant a all eich helpu chi yn ystod eich cyfnod pontio i’r coleg (ac i Addysg Uwch), ein Hymgynghorwyr a allai fod yno i’ch helpu a’ch cynorthwyo chi pan ydych chi’n teimlo’n isel neu eisiau rhywun i siarad â nhw am eich pryderon, Anogwyr Gwytnwch a’n Cwnselwyr.

Mae gen i orbryder am ddod i'r coleg, alla' i gyfarfod gyda rhywun cyn i mi ddod a chael cip o amgylch y safle?

Rydyn ni’n deall y gall coleg fod yn amser cyffrous ond nerfus hefyd. Gallwn ni drefnu i’r Swyddog Pontio Iechyd Meddwl a Llesiant roi taith un i un i chi a chael sgwrs am ba gymorth sydd ar gael yma i chi yng Ngholeg Cambria.

Sut alla' i ddweud wrth fy nhiwtoriaid pa gymorth sydd ei angen arna' i ar gyfer fy iechyd meddwl?

Gallwch chi siarad ag aelod o’r Tîm Llesiant i greu cynllun cymorth a fydd yn cael ei rannu gyda’ch tiwtoriaid. Gall hyn eich helpu i ddweud wrth eich tiwtoriaid beth yw eich heriau a’r hyn gallan nhw ei wneud i’ch cefnogi chi. Gall hyn gynnwys pethau fel; ble fyddai’n well gennych chi eistedd yn yr ystafell ddosbarth, os ydych chi angen 5 munud o seibiant pan ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch llethu, neu os ydych chi angen defnyddio teganau ffidlan i’ch helpu chi ganolbwyntio yn y dosbarth. Mae ein Tîm Llesiant yn fwy na hapus i drafod ffyrdd y gallwn ni eich helpu chi yn ystod eich cyfnod yn y coleg.

Cymorth Cyffredinol i Fyfyrwyr

Dwi angen cyngor/cymorth am gyllid. Pwy ddylwn i gysylltu â nhw?

Anfonwch e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.

Dwi angen cyngor/cymorth gyda lleoliadau mewn meithrinfa. Pwy ddylwn i gysylltu â nhw?

Os ydych chi’n astudio ar ein safle Glannau Dyfrdwy, anfonwch e-bost at toybox@cambria.ac.uk neu ffoniwch 01978 267159. Ar gyfer yr holl safleoedd eraill, cysylltwch â gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.

Dwi angen cyngor/cymorth gyda chludiant i'r coleg ac oddi yno. Pwy ddylwn i gysylltu â nhw?

Anfonwch e-bost at cludiant@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.

Dwi angen cyngor/cymorth gyda llety yn Llysfasi. Pwy ddylwn i gysylltu â nhw?

Dwi angen gwiriad DBS ar gyfer fy nghwrs. Ble alla' i gael rhagor o wybodaeth?