main logo
A student services officer smiling whilst speaking with a student at their desk in Yale

Ydych chi wedi newid eich meddwl ac eisiau newid eich cwrs?

Rydyn ni’n deall fod pobl yn newid eu meddyliau ac mae hynny’n iawn gennym ni.

Cysylltwch â’r tîm Derbyniadau trwy anfon e-bost at derbyniadau@cambria.ac.uk neu ffonio 0300 30 30 007 ac mi fyddwn ni’n newid eich cais ar eich rhan.

Os ydych chi’n dechrau eich cwrs ym mis Medi ac yn canfod ar ôl ychydig o wythnos nad ydy o’n iawn i chi, peidiwch â phoeni. Byddwch chi’n gallu siarad â’ch Anogwr Cynnydd a byddan nhw’n eich helpu chi i ystyried cyrsiau eraill  sydd o fwy o ddiddordeb i chi. Yna byddwn nhw’n eich cyfeirio at y Gwasanaethau Myfyrwyr a fydd yn newid eich cwrs i chi, a byddwch chi’n gallu dechrau eich cwrs newydd yn syth bìn.

Siaradwch â'r tîm

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

mail svg

E-bost

derbyniadau@cambria.ac.uk