Background Splash

Gan Alex Stockton

JGW2

Roedd cynllun Twf Swyddi Cymru+ yng Ngholeg Cambria yn cefnogi cannoedd o bobl ifanc 16 – 19 oed cyn argyfwng Covid-19 yn y Deyrnas Unedig.

Bellach o dan arweinyddiaeth y Cyfarwyddwyr Cwricwlwm David Garratt a Claire Howells, mae’r niferoedd yn codi unwaith eto a phartneriaethau newydd yn cael eu creu gyda chyflogwyr yng ngogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt.

“Rydyn ni bellach yn ôl i 70 o ddysgwyr yng Nglannau Dyfrdwy ac yn Wrecsam,” meddai David.

“Cafodd y rhaglen wedi ei heffeithio yn ystod y pandemig ac rydyn ni yma ar gyfer y bobl ifanc hynny sy’n anodd eu cyrraedd yn y rhanbarth – roedd ceisio cydlynu pethau o bell yn heriol iawn.

“Ond rŵan a ninnau’n gallu cyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb, rydyn ni’n gweld cynnydd mewn ymgysylltiad a diddordeb ac rydyn ni eisiau creu cymaint o gysylltiadau gyda’r gymuned a’r diwydiant ag sy’n bosib.”

Ychwanegodd Claire: “Rydyn ni eisiau clywed gan ragor o fusnesau a sefydliadau sy’n gallu cynnig lleoliadau a phrentisiaethau, gan roi cyfle i bobl ifanc ddilyn eu gyrfaoedd o ddewis.

“Mae’r cynllun yn ceisio darparu ar gyfer dysgwyr mewn diwydiant neu broffesiwn sydd o ddiddordeb iddynt yn hytrach na’u rhoi mewn rôl nad yw’n ystyrlon nac yn ddefnyddiol i’w dyfodol, sy’n hanfodol os ydyn ni am fod yn llwyddiannus.”

Mae Claire a David yn rhoi “bywyd newydd” i’r fenter, gan ddatblygu cysylltiadau ac yn ychwanegu cwmnïau a chysylltiadau i’r hyn sy’n bodoli’n barod er mwyn gallu cynnig lleoliadau mwy perthnasol ac i sicrhau fod Twf Swyddi Cymru+ yn ddewis amlwg i ddysgwyr sydd eisiau dechrau cyflogaeth.

“Rydyn ni’n gallu helpu i fagu eu hyder a’u gwytnwch, hogi sgiliau llythrennedd a rhifedd, a rhoi profiad iddyn nhw yn ysgrifennu CV, technegau cyfweliad, gwaith tîm a rhagor, pethau fydd yn hanfodol pan fyddan nhw’n dechrau yn y byd gwaith,” meddai David.

“Er mwyn gwneud hyn rydyn ni’n dilyn tair agwedd o Ymgysylltiad, Hyrwyddiad a Chyflogaeth. Rydyn ni’n gweithio’n benodol ar Ymgysylltiad gyda’r cam newydd hwn o’r rhaglen.”

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhan o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru – i helpu pobl ifanc yng Nghymru i gyrraedd eu potensial llawn, yn arbennig y rhai sydd wedi gadael yr ysgol neu’r coleg ac angen help llaw i ddechrau neu ddod o hyd i swydd.

Mae lwfans hyfforddiant wythnosol o hyd at £42-£60 ar gael, yn dibynnu ar gynllun dysgu a datblygu unigol y myfyriwr, a bydd mentora un i un rheolaidd ac adolygiadau misol.

“Y freuddwyd a’r nod i ni ydy troi’r lleoliadau gwaith hyn yn swyddi llawn amser fel eu bod yn ennill cyflog go iawn mewn swydd y maen nhw’n ei mwynhau,” meddai Claire.

“Rydyn ni’n edrych ar bob elfen o’r cyrsiau sydd ar gael gennym i wneud yn siŵr fod y dysgwyr yn cael y cyfle gorau o gyflawni drwy oresgyn unrhyw rwystrau a rhoi llwyfan hyblyg iddyn nhw ffynnu mewn amgylchedd diogel a chroesawgar – ni fu erioed amser gwell i ymuno â ni.”

Ychwanegodd David: “Wrth i’r rhaglen ehangu ac wrth i ni gyflwyno syniadau newydd – gydag adborth cyflogwyr a’r bobl ifanc eu hunain – bydd nifer y sianeli sydd ar gael i ni yn cynyddu, boed hynny’n ysgolion, sefydliadau trydydd sector, elusennau, busnesau bach, neu grwpiau cymunedol.

“Rydyn ni wedi symleiddio popeth i wneud Twf Swyddi Cymru+ mor syml a hygyrch â phosibl, sy’n bwysig wrth i ni symud ymlaen gyda’n gilydd.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost