Home > Ynghylch > Amdanom Ni > Tîm Arwain > Is-gyfarwyddiaeth, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Prif Isadrannau
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Amanda â thîm Dysgu yn y Gwaith Cambria ym mis Gorffennaf 2017. Ers hynny mae wedi rheoli’r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr, Siop Swyddi a Phrofiad Gwaith yn llwyddiannus. Cyn hynny, roedd Amanda yn Rheolwr Datblygu Busnes awdurdod hyfforddi grwpiau, cwmni datblygu sefydliadol a threuliodd 13 mlynedd fel uwch reolwr recriwtio. Galluogodd y profiad hwn i Amanda ddod â chyfoeth o sgiliau cysylltiadau â chyflogwyr / rheoli prosiectau a sgiliau arwain a mentora, gyda hi i’w swydd bresennol.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ar ôl symud yn ôl i Ogledd Cymru, ymunodd Gemma â Choleg Cambria yn 2013 fel Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn 2014, symudodd Gemma i’r adran Mynediad i AU gan gyflwyno Cymdeithaseg a Gofal Iechyd. Llwyddodd Gemma i gael ei phenodi i swydd reoli ym mis Ionawr 2020. Mae hi’n gyn-fyfyriwr Safon Uwch yn y Coleg ac mae hi’n angerddol ynghylch rôl y Coleg i ddarparu addysg i’r ardal leol.
Ymunodd Donna â Choleg Cambria ym mis Ionawr 2004 gan weithio fel Rheolwr Gweinyddu tan 2018. Cyn hyn, bu Donna yn gweithio ym maes pensiynau, AD, gweithgynhyrchu a dosbarthu am 14 mlynedd. Oherwydd hynny, mae ganddi brofiad helaeth o arwain prosiectau cymhleth, llunio systemau a darparu gwasanaethau cymorth. Mae hi wedi gweithio yng Nghanolfan Brifysgol y Coleg ers 2018 gyda chyfrifoldeb am Lais y Myfyrwyr ac am sicrhau bod safonau ansawdd Canolfan y Brifysgol yn cael eu rhagori arnynt.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Rob â Choleg Cambria ym mis Awst 2016 fel darlithydd Daearyddiaeth. Cyn hynny, roedd yn Bennaeth Dyniaethau mewn ysgol fwydo am 10 mlynedd. Mae gan Rob dros 20 mlynedd o brofiad addysgu, ac mae wedi arwain ar ddatblygiadau a strategaethau cwricwlwm i wella addysgu a dysgu i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Mae Rob yn parhau i fod yn yr ystafell ddosbarth, wrth addysgu Safon Uwch mewn Daearyddiaeth.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Mel â Choleg Cambria ym mis Tachwedd 2010 fel darlithydd Busnes ar ôl symud yn ôl i Ogledd Cymru. Cyn hyn roedd Mel yn Uwch Reolwr yn y sector manwerthu. Ar ôl 4 blynedd fel Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Chweched Iâl, llwyddodd Mel i gael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cwricwlwm. Mae’n arbenigo mewn strategaethau addysgu a dysgu Safon Uwch a chyfoethogi myfyrwyr. Mae Mel yn angerddol am y rôl mae Chweched Iâl yn ei chwarae yn cefnogi a herio myfyrwyr i wireddu eu potensial.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Nick yw Cyfarwyddwr y Cwricwlwm Adeiladu yn Ffordd y Bers ac mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Nick yw Cyfarwyddwr y Cwricwlwm Adeiladu yn Ffordd y Bers ac mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Cyflawnodd Nick bob tasg y gellir ei dychmygu yn y broses adeiladu. Dechreuodd fel Arddangoswr Hyfforddwyr yn yr adran Plastro yn Ffordd y Bers ac yna gyda rhagor o ymglymiad ac ymroddiad, fe berffeithiodd ei sgiliau fel Darlithydd Plastro. Mae bellach yn defnyddio’i flynyddoedd o brofiad ymarferol i reoli’r Adran Adeiladu
Dechreuodd Carl ei swydd fel Cyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg ar safle Ffordd y Bers yn ystod haf 2020. Cyn hynny, bu Carl yn gweithio yn y sector addysg am 15 mlynedd. Cafodd ei fagu’n lleol a symudodd Carl ymlaen o fod brentis i fod yn Brif Dechnegydd cyn gweithio fel Darlithydd. Ei uchelgais yn y swydd honno oedd cael arwain tîm llwyddiannus, fel yr un y cafodd hyd iddo yn yr Adran Beirianneg Ffordd y Bers.
Dechreuodd taith Darren gyda chwrs Lefel 2 mewn Gwaith Saer yng Ngholeg Cambria yn 2011, gan sbarduno cariad dwys at adeiladu. Aeth ymlaen i ddilyn Gradd mewn Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol, gan ennill profiad hollbwysig mewn Cwmni Pensaernïol lleol. Gan ddychwelyd i Goleg Cambria yn 2016 fel Arddangoswr Hyfforddwr, datblygodd yn raddol i rôl darlithydd, gan arbenigo mewn Adeiladu Technegol AU. Wedi’i ddewis ar gyfer rhaglen Arweinwyr Ysbrydoledig Coleg Cambria, penllanw llwybr Darren oedd ei benodi’n Gyfarwyddwr Cwricwlwm yn 2022. Gan oresgyn heriau a oedd yn cael eu hachosi gan ddyslecsia, darparodd Coleg Cambria amgylchedd iddo ragori, gan drosoli ei gryfderau. Wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, mae Darren yn gweithio i sicrhau bod pob myfyriwr yn ffynnu.
Ymunodd Paul â Choleg Cambria ym mis Medi 2018, fel Darlithydd mewn Diwydiant ar gyfer technolegau cyfrifiadura. Mae ganddo 21 mlynedd o brofiad, ac mae wedi dysgu pynciau cyfrifiadura a busnes hyd at lefel Gradd Sylfaen. Mae Paul hefyd wedi rheoli TG a Thelathrebu o fewn diwydiant a rheoli prosiectau datblygu busnes, marchnata digidol ac ehangu corfforaethol. Mae gan Paul radd meistr mewn Rheolaeth a Busnes Digidol a gradd mewn Systemau Gwybodaeth Busnes.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Carl â’r Coleg ym mis Awst 2000 fel darlithydd yn yr adran Cerbydau Modur. Ym mis Awst 2015 daeth yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg ac Adeiladu. Mae Carl yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant ledled Gogledd Cymru a Lloegr i fodloni unrhyw anghenion hyfforddi. Mae’n ymfalchïo mewn darparu hyfforddiant cyfoes rhagorol ym mhob agwedd ar beirianneg ac adeiladu gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael y profiad gorau posibl yn ystod eu cyfnod yng Ngholeg Cambria.
Ymunodd Dan â Choleg Cambria yn 2020 fel Darlithydd Peirianneg Drydanol, cyn cael ei benodi fel Cyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg Uwch yn 2023. Mae Dan yn dod â chyfoeth o brofiad mewn peirianneg drydanol a rheoli, ar ôl ymuno â ni’n uniongyrchol o swydd rheoli peirianneg yn y sector gweithgynhyrchu diwydiannol. Yn gyn-filwr balch gyda dros 22 mlynedd o wasanaeth fel Peiriannydd Rheoli yn y sector Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol, mae Dan yn cael ei ysgogi i sicrhau bod dysgwyr o bob disgyblaeth peirianneg yn cael eu paratoi’n briodol gyda’r sgiliau technegol cadarn sydd eu hangen ar weithlu’r dyfodol.
Ymunodd Jamie â Choleg Cambria ym mis Awst 2016 fel Swyddog Hyfforddiant Technegol ar gyfer Peirianneg Awyrofod, cyn dod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Rhaglenni Prentisiaid yn 2019, ac yna’n Gyfarwyddwr Cwricwlwm yn 2020. Cwblhaodd ei brentisiaeth grefftau gydag Airbus a chafodd yrfa hirsefydlog yno cyn symud i Goleg Cambria. Mae ei yrfa wedi rhoi gwybodaeth helaeth iddo am y diwydiant awyrennol, prentisiaethau, rheoli timau mewn sefyllfaoedd gwasgedd uchel, ac yn bwysicaf oll moeseg tîm.
Dewch i gyfarfod â’r uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am swyddogaeth addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Dave â Choleg Cambria yn 2013 fel Technegydd yn cymysgu morter ar gyfer yr adran Gwaith Brics ar ôl cael swydd fel dysgwr aeddfed ac ar unwaith datblygodd unwaith angerdd am Addysg, yn benodol y dysgwyr lefel is. Mae Dave wedi bod yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm ers 6 blynedd ac mae’n rheoli’r holl raglenni Mynediad, Lefel 1 a Chyswllt Ysgolion yn Ffordd y Bers ac yn ddiweddar mae wedi cael swydd Cyfarwyddwr Cwricwlwm Twf Swyddi Cymru+, Wrecsam. Mae Dave yn awyddus i gyfoethogi holl raglenni Dysgu Sylfaen a Twf Swyddi Cymru+ trwy wreiddio cyfoethogi yn y Cwricwlwm wrth feithrin amgylchedd dysgu cynhwysol. Fe wnaeth profiad Dave drwy gydol ei fywyd ei hun ac addysgu’r dysgwyr lefel is, ei helpu i ddatblygu ei angerdd dros gefnogi dysgwyr heriol, difreintiedig ac wedi ymddieithrio i gyrraedd eu llawn botensial yng Ngholeg Cambria.
Mae gan Ceri dros 20 mlynedd o brofiad ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel ymarferydd, asesydd a hyfforddwr. Mae Ceri wedi gweithio yng Ngholeg Cambria am 6 blynedd fel Darlithydd ac fe’i penodwyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr dros dro Iechyd a Gofal ym mis Ionawr. Mae Ceri bellach wedi symud i weithio yn y maes Sgiliau Sylfaen fel Cyfarwyddwr Cwricwlwm, a’i hangerdd dros ddatblygiad myfyrwyr yw ei phrif flaenoriaeth i gynorthwyo gyda dilyniant.
Mae Jo wedi gweithio ar safle Llaneurgain y Coleg am dros 20 mlynedd ac mae ganddi gefndir helaeth o weithio gyda dysgwyr SBA a Sgiliau Sylfaen. Yn y 10 mlynedd diwethaf mae wedi datblygu cyrsiau’r tir Sylfaen, gan arbenigo mewn technegau rheoli ymddygiad i gynorthwyo pobl ifanc a meithrin potensial. Mae Jo wedi hyfforddi fel cymhorthydd cyntaf iechyd meddwl ar gyfer safle Llaneurgain hefyd.
Ymunodd Sonia â Choleg Cambria yn 2018 fel Hyfforddwr Cynnydd yn cefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed yn Wrecsam. Yna symudodd Sonia yn ôl i swydd ddarlithio yn gweithio gyda NEETs ar ein rhaglen Twf Swyddi Cymru+ a Sgiliau Sylfaen. Roedd cefndir Sonia yn y Celfyddydau Creadigol yn golygu ei bod yn gallu creu rhaglenni arloesol a oedd yn bodloni anghenion y dysgwyr oedd wedi ymddieithrio fwyaf. Yn 2021 daeth Sonia yn Arweinydd Cwricwlwm mewn Dysgu Sylfaen, yn Iâl, a chafodd ei dyrchafu’n gyflym i gyflawni swydd interim y Cyfarwyddwr Cwricwlwm. Yn 2022, daeth Sonia yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm llawn amser ar gyfer Dysgu Sylfaen yn Iâl lle mae bellach yn gallu trosglwyddo ei hangerdd i’w thîm am greu a chyflwyno cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae Jill wedi gweithio yn Cambria am dros 25 mlynedd ac mae ganddi brofiad galwedigaethol helaeth yn ogystal â darlithio am dros 16 mlynedd, yn y sector Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yn bennaf. Cafodd wobr Athrawes TAR y Flwyddyn yn 2011 ac enillodd ei gradd BA (Anrh) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yn 2015. Mae hi’n angerddol am Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a datblygu sgiliau sylfaenol a arweiniodd iddi gael swydd fel Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer y Tîm Sylfaen yn 2020. Mae wedi dangos dawn am ddatrys problemau ac arwain tîm hapus a chydlynol. Mae ganddi agwedd ‘gallu gwneud’ tuag at arwain, a gellir dadlau bod hyn wedi ei chefnogi wrth gael ei phenodi fel Cyfarwyddwr Cwricwlwm Sgiliau yng Nglannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi. Dywedodd Jill “Sgiliau Saesneg a Mathemateg ydi’r sgiliau bywyd mwyaf trosglwyddadwy…datblygwch nhw rŵan a byddan nhw’n ddefnyddiol iawn i chi yn y dyfodol”
Dechreuodd Roz gyda Cambria yn 2016 fel Asesydd Sgiliau Hanfodol Dysgu yn y Gwaith gan symud ymlaen i fod yn Ddarlithydd Sgiliau yn 2018.
Mae gan Roz dros 15 mlynedd o brofiad addysgu, ac yn ddiweddar mae hi wedi cael swydd fel Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Sgiliau. Mae hi wedi ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Rheoli Busnes Cymhwysol gydag Ysgol Fusnes Cambria a Phrifysgol Abertawe. Mae Roz wedi astudio Gradd Meistr mewn Rheoli gyda Phrifysgol Caer. Mae hi’n angerddol am y dysgwyr ac am wneud gwahaniaeth iddyn nhw a’i thîm.
Ymunodd Claire â’r coleg yn 2018 fel Asesydd Sgiliau Dysgu yn y Gwaith cyn dod yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Sgiliau Dysgu Oedolion a Dysgu yn y Gwaith ym mis Medi 2023. Graddiodd Claire gyda Gradd Meistr o Brifysgol Aberystwyth yn 2012. Mae hi’n angerddol am arwain ei thîm i gefnogi Oedolion/Prentisiaid i gael mynediad i addysg Sgiliau ar draws Wrecsam a Sir y Fflint.
Fe wnaeth Samantha ymuno â Choleg Cambria yn 2014 fel myfyriwr TAR pan wnaeth ddychwelyd i addysg ar ôl bod yn addysgu Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol am sawl blwyddyn. Enillodd Samantha ei chymhwyster TAR yn 2015 ac ar yr un pryd cafodd gyflogaeth yn adran Twf Swyddi Cymru+ y coleg. Fe wnaeth Samantha ddyrchafu ei haddysg a daeth yn Arweinydd IQA Twf Swyddi Cymru+ a Mentor ILM. Fe wnaeth y rôl hon arwain iddi gael ei chydnabod fel arweinydd a mentor yn y tîm. Yn 2021 daeth Samantha yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm Twf Swyddi Cymru+. Yn 2024 cafodd Samantha ei phenodi yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm ESOL.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Julie â’r Coleg yn 2011 fel Asesydd cyn dod yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Cwricwlwm yn 2012. Cyn hyn, roedd gan Julie ei busnesau gwallt a harddwch llwyddiannus ei hun am 6 blynedd ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi arwain. Mae ganddi brofiad helaeth mewn hyfforddi, rheoli ac arwain ac yn defnyddio ei harbenigedd masnachol i ddatblygu a chynllunio cwricwlwm effeithiol. Mae Julie hefyd yn Hyfforddwr Ymddygiad Hanfodol.
Ymunodd Sean â Choleg Cambria yn 2015 ar ôl treulio amser yn cynorthwyo’r coleg fel ymarferydd cyffuriau ac alcohol yn gweithio gyda’r gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Ar ôl cwblhau gradd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Caer, mae Sean wedi bod yn gweithio ym myd chwaraeon ers 2007 mewn swyddi amrywiol; hyfforddi pêl-droed academi yng Nghymru a Lloegr. Coleg Cambria wnaeth argyhoeddi Sean mai addysg oedd ei alwedigaeth, dros yrfa mewn pêl-droed, ac ers ymuno â’r coleg mae wedi gweithio ar draws safleoedd, ac wedi darparu ar gyfer rhwng Lefel Mynediad a Lefel 5. Mae Sean yn credu y gall AB gynnig ail gyfle i’r rhai sydd wedi colli cysylltiad ag addysg ac mae’n angerddol am dyfu darpariaeth sy’n cynnig profiadau bywyd go iawn, gan baratoi dysgwyr yn wirioneddol ar gyfer dyfodol cadarnhaol yn unol â’u dyheadau.
Dewch i gyfarfod â’r uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am swyddogaeth addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Natalie â’r Coleg (a Choleg Garddwriaeth Cymru) yn 2006 fel rheolwr iard Ceffyleg. Mae ei swydd yn ymwneud â rheoli tîm o staff iard a chynnal cystadlaethau Marchogaeth ac arholiadau proffesiynol a wnaeth helpu i sicrhau bod y coleg yn rhan fywiog o’r gymuned farchogaeth a chanolfan flaenllaw i unigolion sydd am astudio Ceffyleg.
Yn 2022, cafodd Natalie swydd fel Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Economi Ymwelwyr yn Iâl. Mae hon yn swydd gyffrous iddi ac mae’n ei mwynhau’n fawr. Y nod ar gyfer y maes yw defnyddio’r cyfleusterau gwych a datblygu’r ystod o gyrsiau sy’n cael eu cynnig i fodloni anghenion y diwydiant drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol cadarn ein dysgwyr.
Roedd gan y cyn-fyfyriwr Claire swydd reoli mewn meithrinfa ddydd cyn dychwelyd i Goleg Cambria i ymuno â’r tîm Gofal Plant Dysgu yn y Gwaith fel asesydd, mentor, IQA a thiwtor. Cyflawnodd Claire ei gradd BA Anrh a TAR tra bu’n cefnogi corff llywodraethu ysgol uwchradd leol. Trwy hynny, enillodd wybodaeth a phrofiadau ychwanegol i gynorthwyo gyda’i dilyniant i fod yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm.
Ymunodd Sally â Cambria yn 2016 ar ôl dysgu Addysg Gorfforol ac arwain y rhaglen fugeiliol mewn coleg AB arall. Mae gan Sally angerdd am chwaraeon, fel gwyliwr ac fel cystadleuydd. Hi hefyd sy’n rheoli rhaglen Chwaraeon Elît Cambria sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gynrychioli’r coleg mewn cynghreiriau rhanbarthol a digwyddiadau cenedlaethol. Mae Sally wedi cynrychioli Cymru mewn pêl-rwyd ac wedi helpu arwain tîm pêl-rwyd y coleg i ddod yn bencampwyr cenedlaethol.
Dyma ein uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Maent yn arwain y coleg gyda’i gilydd i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn tuag at rôl addysg, hyfforddi a sgiliau fel arweinwyr datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Mae gan Dewi radd Amaethyddiaeth a chymwysterau ôl-raddedig mewn Addysg ac Arwain a Rheoli. Yn dilyn cyfnod byr yn y sector ysgolion, mae Dewi wedi gweithio yn Llysfasi ers 1996, gan gyflawni swyddi Darlithydd, Pennaeth Cyrsiau’r Tir, Rheoli Busnes, TG a Pheirianneg, yn ogystal â’i swydd bresennol fel Rheolwr Fferm. Treuliodd Dewi 10 mlynedd hefyd fel Arolygydd Ychwanegol rhan amser ar gyfer Estyn ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd NFU Cymru Sir Clwyd.
Mae gan Joe gymhwyster ôl-raddedig mewn Addysg a gradd mewn Eigioneg Ddaearegol o Brifysgol Bangor. Cyn dechrau yng Ngholeg Cambria yn 2020, treuliodd 10 mlynedd yn y diwydiant yn dod i ddeall y gofynion sydd eu hangen i ddysgwyr fod yn llwyddiannus yn y diwydiant. Fel cyn Gynghorydd yn Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, mae Joe wedi arfer â pholisi’r tir y llywodraeth ac mae ganddo rwydwaith eang ledled y diwydiant amaethyddol. Mae hefyd wedi gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd ac wedi arwain ymatebion i bob math o ddigwyddiadau amgylcheddol megis llifogydd neu lygredd. Mae Joe hefyd yn ffermio cig eidion a defaid gartref gyda’i dad a’i chwaer.