Is-gyfarwyddiaeth, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Prif Isadrannau

Dysgu Sylfaen ILS a Hyfforddeiaethau

Dewch i gyfarfod â’r uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.

Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am swyddogaeth addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

David Garratt
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Dysgu Sylfaen - Ffordd y Bers
a Thwf Swyddi Cymru+ -
Iâl

David Garrett

Ymunodd Dave â Choleg Cambria yn 2013 fel Technegydd yn cymysgu morter ar gyfer yr adran Gwaith Brics ar ôl cael swydd fel dysgwr aeddfed ac ar unwaith datblygodd unwaith angerdd am Addysg, yn benodol y dysgwyr lefel is. Mae Dave wedi bod yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm ers 6 blynedd ac mae’n rheoli’r holl raglenni Mynediad, Lefel 1 a Chyswllt Ysgolion yn Ffordd y Bers ac yn ddiweddar mae wedi cael swydd Cyfarwyddwr Cwricwlwm Twf Swyddi Cymru+, Wrecsam. Mae Dave yn awyddus i gyfoethogi holl raglenni Dysgu Sylfaen a Twf Swyddi Cymru+ trwy wreiddio cyfoethogi yn y Cwricwlwm wrth feithrin amgylchedd dysgu cynhwysol. Fe wnaeth profiad Dave drwy gydol ei fywyd ei hun ac addysgu’r dysgwyr lefel is, ei helpu i ddatblygu ei angerdd dros gefnogi dysgwyr heriol, difreintiedig ac wedi ymddieithrio i gyrraedd eu llawn botensial yng Ngholeg Cambria.

Dysgwch ragor

Ceri Noble
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Dysgu Sylfaen -
Glannau Dyfrdwy

Ceri Noble

Mae gan Ceri dros 20 mlynedd o brofiad ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel ymarferydd, asesydd a hyfforddwr. Mae Ceri wedi gweithio yng Ngholeg Cambria am 6 blynedd fel Darlithydd ac fe’i penodwyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr dros dro Iechyd a Gofal ym mis Ionawr. Mae Ceri bellach wedi symud i weithio yn y maes Sgiliau Sylfaen fel Cyfarwyddwr Cwricwlwm, a’i hangerdd dros ddatblygiad myfyrwyr yw ei phrif flaenoriaeth i gynorthwyo gyda dilyniant.

Dysgwch ragor

Jo Green
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Dysgu Sylfaen a SBA - Llaneurgain

Joanne Fisher

Mae Jo wedi gweithio ar safle Llaneurgain y Coleg am dros 20 mlynedd ac mae ganddi gefndir helaeth o weithio gyda dysgwyr SBA a Sgiliau Sylfaen. Yn y 10 mlynedd diwethaf mae wedi datblygu cyrsiau’r tir Sylfaen, gan arbenigo mewn technegau rheoli ymddygiad i gynorthwyo pobl ifanc a meithrin potensial. Mae Jo wedi hyfforddi fel cymhorthydd cyntaf iechyd meddwl ar gyfer safle Llaneurgain hefyd.

Dysgwch ragor

Sonia Cheetham Reeves
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Dysgu Sylfaen Iâl

Sonia Cheetham-Reeves (1)

Ymunodd Sonia â Choleg Cambria yn 2018 fel Hyfforddwr Cynnydd yn cefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed yn Wrecsam. Yna symudodd Sonia yn ôl i swydd ddarlithio yn gweithio gyda NEETs ar ein rhaglen Twf Swyddi Cymru+ a Sgiliau Sylfaen. Roedd cefndir Sonia yn y Celfyddydau Creadigol yn golygu ei bod yn gallu creu rhaglenni arloesol a oedd yn bodloni anghenion y dysgwyr oedd wedi ymddieithrio fwyaf. Yn 2021 daeth Sonia yn Arweinydd Cwricwlwm mewn Dysgu Sylfaen, yn Iâl, a chafodd ei dyrchafu’n gyflym i gyflawni swydd interim y Cyfarwyddwr Cwricwlwm. Yn 2022, daeth Sonia yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm llawn amser ar gyfer Dysgu Sylfaen yn Iâl lle mae bellach yn gallu trosglwyddo ei hangerdd i’w thîm am greu a chyflwyno cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.

Dysgwch ragor

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools