Is-gyfarwyddiaeth, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Prif Isadrannau

Cyfarwyddiaeth y Sefydliad Technoleg

Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.

Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Nick Povey
Cyfarwyddwr Cwricwlwm Adeiladu

Curriculum Director Construction, Nick Povey

Nick yw Cyfarwyddwr y Cwricwlwm Adeiladu yn Ffordd y Bers ac mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Nick yw Cyfarwyddwr y Cwricwlwm Adeiladu yn Ffordd y Bers ac mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Cyflawnodd Nick bob tasg y gellir ei dychmygu yn y broses adeiladu. Dechreuodd fel Arddangoswr Hyfforddwyr yn yr adran Plastro yn Ffordd y Bers ac yna gyda rhagor o ymglymiad ac ymroddiad, fe berffeithiodd ei sgiliau fel Darlithydd Plastro. Mae bellach yn defnyddio’i flynyddoedd o brofiad ymarferol i reoli’r Adran Adeiladu

Dysgwch ragor

Carl Roberts
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Peirianneg

Curriculum Director - Engineering, Carl Roberts

Dechreuodd Carl ei swydd fel Cyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg ar safle Ffordd y Bers yn ystod haf 2020. Cyn hynny, bu Carl yn gweithio yn y sector addysg am 15 mlynedd. Cafodd ei fagu’n lleol a symudodd Carl ymlaen o fod brentis i fod yn Brif Dechnegydd cyn gweithio fel Darlithydd. Ei uchelgais yn y swydd honno oedd cael arwain tîm llwyddiannus, fel yr un y cafodd hyd iddo yn yr Adran Beirianneg Ffordd y Bers.

Dysgwch ragor

Darren Pleavin
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Adeiladu

Curriculum Director - Construction, Darren Pleavin

Dechreuodd taith Darren gyda chwrs Lefel 2 mewn Gwaith Saer yng Ngholeg Cambria yn 2011, gan sbarduno cariad dwys at adeiladu. Aeth ymlaen i ddilyn Gradd mewn Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol, gan ennill profiad hollbwysig mewn Cwmni Pensaernïol lleol. Gan ddychwelyd i Goleg Cambria yn 2016 fel Arddangoswr Hyfforddwr, datblygodd yn raddol i rôl darlithydd, gan arbenigo mewn Adeiladu Technegol AU. Wedi’i ddewis ar gyfer rhaglen Arweinwyr Ysbrydoledig Coleg Cambria, penllanw llwybr Darren oedd ei benodi’n Gyfarwyddwr Cwricwlwm yn 2022. Gan oresgyn heriau a oedd yn cael eu hachosi gan ddyslecsia, darparodd Coleg Cambria amgylchedd iddo ragori, gan drosoli ei gryfderau. Wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, mae Darren yn gweithio i sicrhau bod pob myfyriwr yn ffynnu.

Dysgwch ragor

Paul Hughes
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Technolegau Digidol (AU, AB a DSW)

Paul_Hughes (1)

Ymunodd Paul â Choleg Cambria ym mis Medi 2018, fel Darlithydd mewn Diwydiant ar gyfer technolegau cyfrifiadura. Mae ganddo 21 mlynedd o brofiad, ac mae wedi dysgu pynciau cyfrifiadura a busnes hyd at lefel Gradd Sylfaen. Mae Paul hefyd wedi rheoli TG a Thelathrebu o fewn diwydiant a rheoli prosiectau datblygu busnes, marchnata digidol ac ehangu corfforaethol. Mae gan Paul radd meistr mewn Rheolaeth a Busnes Digidol a gradd mewn Systemau Gwybodaeth Busnes.

Dangos Rhagor

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools