Is-gyfarwyddiaeth, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Prif Isadrannau

Cyfarwyddiaeth y Sefydliad Technoleg

Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.

Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

David Kelly
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Adeiladu a Pheirianneg - Glannau Dyfrdwy

Dave Kelly

Mae Dave yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau yng Nglannau Dyfrdwy yn dilyn ei benodiad yn 2024. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu, gan gynnwys gweithredu ei fusnes saer ac adeiladu cyffredinol ei hun yn llwyddiannus, mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth ymarferol i’r rôl. Cyn ei benodiad presennol, roedd David yn gweithio fel Goruchwyliwr Gweithdy yng Ngrŵp Llandrillo Menai ac wedyn fel Darlithydd Gwaith Saer ac Asiedydd yng Ngholeg Cambria, Ffordd y Bers.

Dysgwch ragor

Salah Berdouk
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Peirianneg
Uwch

Salah Berdouk

Yn meddu ar radd Meistr mewn Peirianneg, dwi wedi gweithio mewn Diwydiant a Hyfforddiant yng Nghymru, Lloegr a thramor. Dwi’n angerddol am hyfforddi a grymuso pobl i gyflawni eu potensial llawn a’u cyflawniad proffesiynol. Gan weithio yn yr Adran Peirianneg Uwch yng Ngholeg Cambria, mae’n fraint cael gweithio ymhlith staff a dysgwyr talentog. Un o fy egwyddorion allweddol mewn bywyd ydi dysgu o bopeth rydych chi’n ei wneud a dathlu pob un fuddugoliaeth.

Dysgwch ragor

Jamie Mapp-Jones
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Prentisiaethau Llawn Amser

Jamie Mapp-Jones

Ymunodd Jamie â Choleg Cambria ym mis Awst 2016 fel Swyddog Hyfforddiant Technegol ar gyfer Peirianneg Awyrofod, cyn dod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Rhaglenni Prentisiaid yn 2019, ac yna’n Gyfarwyddwr Cwricwlwm yn 2020. Cwblhaodd ei brentisiaeth grefftau gydag Airbus a chafodd yrfa hirsefydlog yno cyn symud i Goleg Cambria. Mae ei yrfa wedi rhoi gwybodaeth helaeth iddo am y diwydiant awyrennol, prentisiaethau, rheoli timau mewn sefyllfaoedd gwasgedd uchel, ac yn bwysicaf oll moeseg tîm.

Dysgwch ragor

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools