Is-gyfarwyddiaeth, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Prif Isadrannau

Sgiliau

Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.

Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Jill Price
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Sgiliau - Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi

Jill Price (no lanyard) (1)

Mae Jill wedi gweithio yn Cambria am dros 25 mlynedd ac mae ganddi brofiad galwedigaethol helaeth yn ogystal â darlithio am dros 16 mlynedd, yn y sector Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yn bennaf. Cafodd wobr Athrawes TAR y Flwyddyn yn 2011 ac enillodd ei gradd BA (Anrh) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yn 2015. Mae hi’n angerddol am Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a datblygu sgiliau sylfaenol a arweiniodd iddi gael swydd fel Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer y Tîm Sylfaen yn 2020. Mae wedi dangos dawn am ddatrys problemau ac arwain tîm hapus a chydlynol. Mae ganddi agwedd ‘gallu gwneud’ tuag at arwain, a gellir dadlau bod hyn wedi ei chefnogi wrth gael ei phenodi fel Cyfarwyddwr Cwricwlwm Sgiliau yng Nglannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi. Dywedodd Jill “Sgiliau Saesneg a Mathemateg ydi’r sgiliau bywyd mwyaf trosglwyddadwy…datblygwch nhw rŵan a byddan nhw’n ddefnyddiol iawn i chi yn y dyfodol”

Dysgwch ragor

Rosalyn Mort
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Sgiliau - Ffordd y Bers & Iâl

Ros Mort

Dechreuodd Roz gyda Cambria yn 2016 fel Asesydd Sgiliau Hanfodol Dysgu yn y Gwaith gan symud ymlaen i fod yn Ddarlithydd Sgiliau yn 2018.

Mae gan Roz dros 15 mlynedd o brofiad addysgu, ac yn ddiweddar mae hi wedi cael swydd fel Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Sgiliau. Mae hi wedi ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Rheoli Busnes Cymhwysol gydag Ysgol Fusnes Cambria a Phrifysgol Abertawe. Mae Roz wedi astudio Gradd Meistr mewn Rheoli gyda Phrifysgol Caer. Mae hi’n angerddol am y dysgwyr ac am wneud gwahaniaeth iddyn nhw a’i thîm.

Dysgwch ragor

Claire Howells
Cyfarwyddwr Cwricwlwm- Oedolion a Sgiliau Dysgu yn y Gwaith

Claire Howells

Ymunodd Claire â’r coleg yn 2018 fel Asesydd Sgiliau Dysgu yn y Gwaith cyn dod yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Sgiliau Dysgu Oedolion a Dysgu yn y Gwaith ym mis Medi 2023. Graddiodd Claire gyda Gradd Meistr o Brifysgol Aberystwyth yn 2012. Mae hi’n angerddol am arwain ei thîm i gefnogi Oedolion/Prentisiaid i gael mynediad i addysg Sgiliau ar draws Wrecsam a Sir y Fflint.

Dysgwch ragor

Samantha Moore
Cyfarwyddwr Cwricwlwm -
Dysgu Saesneg

Curriculum Director - Jobs Growth Wales+ - Deeside & Yale, Samantha Moore

Fe wnaeth Samantha ymuno â Choleg Cambria yn 2014 fel myfyriwr TAR pan wnaeth ddychwelyd i addysg ar ôl bod yn addysgu Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol am sawl blwyddyn. Enillodd Samantha ei chymhwyster TAR yn 2015 ac ar yr un pryd cafodd gyflogaeth yn adran Twf Swyddi Cymru+ y coleg. Fe wnaeth Samantha ddyrchafu ei haddysg a daeth yn Arweinydd IQA Twf Swyddi Cymru+ a Mentor ILM. Fe wnaeth y rôl hon arwain iddi gael ei chydnabod fel arweinydd a mentor yn y tîm. Yn 2021 daeth Samantha yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm Twf Swyddi Cymru+. Yn 2024 cafodd Samantha ei phenodi yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm ESOL.

Dysgu rhagor

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools