Is-gyfarwyddiaeth, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Prif Isadrannau

Cyfarwyddiaeth Astudiaethau Technegol

Dewch i gyfarfod â’r uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.

Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am swyddogaeth addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Natalie Cliffe
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - br> Celf a Dylyunio, Economi Ymwelwyr

Natalie Cliffe (3)

Ymunodd Natalie â’r Coleg (a Choleg Garddwriaeth Cymru) yn 2006 fel rheolwr iard Ceffyleg. Mae ei swydd yn ymwneud â rheoli tîm o staff iard a chynnal cystadlaethau Marchogaeth ac arholiadau proffesiynol a wnaeth helpu i sicrhau bod y coleg yn rhan fywiog o’r gymuned farchogaeth a chanolfan flaenllaw i unigolion sydd am astudio Ceffyleg.

Yn 2022, cafodd Natalie swydd fel Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Economi Ymwelwyr yn Iâl. Mae hon yn swydd gyffrous iddi ac mae’n ei mwynhau’n fawr. Y nod ar gyfer y maes yw defnyddio’r cyfleusterau gwych a datblygu’r ystod o gyrsiau sy’n cael eu cynnig i fodloni anghenion y diwydiant drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol cadarn ein dysgwyr.

Dysgwch ragor

Claire Williams
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Claire Williams

Roedd gan y cyn-fyfyriwr Claire swydd reoli mewn meithrinfa ddydd cyn dychwelyd i Goleg Cambria i ymuno â’r tîm Gofal Plant Dysgu yn y Gwaith fel asesydd, mentor, IQA a thiwtor. Cyflawnodd Claire ei gradd BA Anrh a TAR tra bu’n cefnogi corff llywodraethu ysgol uwchradd leol. Trwy hynny, enillodd wybodaeth a phrofiadau ychwanegol i gynorthwyo gyda’i dilyniant i fod yn Gyfarwyddwr Cwricwlwm.

Dysgwch ragor

Sally Jones
Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai, Chwaraeon, Celfyddydau Perfformio a Busnes - Iâl

Sally Jones

Ymunodd Sally â Cambria yn 2016 ar ôl dysgu Addysg Gorfforol ac arwain y rhaglen fugeiliol mewn coleg AB arall. Mae gan Sally angerdd am chwaraeon, fel gwyliwr ac fel cystadleuydd. Hi hefyd sy’n rheoli rhaglen Chwaraeon Elît Cambria sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gynrychioli’r coleg mewn cynghreiriau rhanbarthol a digwyddiadau cenedlaethol. Mae Sally wedi cynrychioli Cymru mewn pêl-rwyd ac wedi helpu arwain tîm pêl-rwyd y coleg i ddod yn bencampwyr cenedlaethol.

Dysgwch ragor

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools