Is-Gyfarwyddiaeth Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Pennaeth

Cyfarwyddiaeth Dysgu yn y Gwaith (DyyG) ac Ymgysylltu â Chyflogwyr

Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.

Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Katie Griffiths
Rheolwr DyyG - Iechyd

Work-based Learning Manager - Health, Katie Griffiths

Ymunodd Katie â’r coleg yn 2004 ac mae wedi gweithio ym maes hyfforddi a datblygu ers dros 20 mlynedd. Mae ganddi lawer iawn o brofiad ym maes dysgu yn y gwaith a daeth yn wreiddiol o gwmni sector preifat sy’n gweithio ym maes dysgu a datblygu ledled y DU.

Cymerodd Katie drosodd rheoli’r tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2016. Mae’n hyrwyddwr brwd o DPP ac yn cydnabod staff i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Dysgwch ragor

Kate Muddiman
Rheolwr DyyG - Gwasanaethau i Bobl

Work-based Learning Manager - Services to People

Ymunodd Kate â’r coleg yn 2009 a rŵan mae hi’n rheoli’r timau dysgu yn y gwaith yn y diwydiant bwyd, diwydiannau’r tir a gwasanaethau i gwsmeriaid.

Mae gan Kate brofiad helaeth o arwain a rheoli, ar ôl rheoli mewn busnesau
corfforaethol sy’n ymwneud â chwsmeriaid yn y gorffennol.

Mae Kate yn angerddol am gefnogi eraill a hyrwyddo iechyd meddwl staff a
dysgwyr ac arferion sy’n seiliedig ar drawma ledled y coleg. Mae hi wedi cyflawni
Tystysgrif Ôl-radd mewn Trawma, Ymlyniad ac Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ac
Oedolion, ac mae hi’n llysgennad y prosiect BurntChef sy’n cefnogi iechyd
meddwl staff y diwydiant lletygarwch.

Dysgwch ragor

Jon Shaw
Rheolwr DyyG – Gwasanaethau Busnes

Work-based Learning Manager

Ymunodd Jon â’r Coleg yn 2005 fel Asesydd Arlwyo a Lletygarwch. Yn 2016, cafodd Jon ei ddyrchafu i reoli’r ddarpariaeth Dysgu yn y Gwaith ar gyfer Gwasanaethau Busnes. Mae gan Jon brofiad helaeth o arwain a rheoli ar ôl rheoli gwestai a brigadau cegin yn ogystal â bod yn gyn-filwr. Mae Jon yn cefnogi ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda’i holl staff a chyflogwyr fel ei gilydd, sy’n darparu ymagwedd wedi’i theilwra o ansawdd uchel at gyrsiau a pherthnasoedd.

Dysgwch ragor

Jane Keys
Pennaeth Cynorthwyol - Ymgysylltu â Chyflogwyr

Assistant Principal - Employer Engagement, Jane Keys

Ymunodd Jane â Cambria yn 2020 ar ôl gweithio mewn nifer o swyddi arwain yn y sector Addysg Bellach (AB), gan gynnwys Cyfarwyddwr Prentisiaethau ac Ymgysylltu â Chyflogwyr ar gyfer grŵp coleg mawr yn y Gogledd Orllewin a chyn hynny fel Uwch Bennaeth Adran MIS a Phrentisiaeth ar gyfer coleg AB mawr yn y De Orllewin. Mae gan Jane brofiad o ddatblygu cyfrifon mawr, symleiddio cyfathrebu i gleientiaid a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn fewnol ac yn allanol.

Dysgwch ragor

Peter Jones
Rheolwr DyyG - Peirianneg

Work-based Learning Manager - Engineering, Peter Jones

Ymunodd Peter â’r Coleg ym mis Tachwedd 2001 yn uniongyrchol o ddiwydiant ac mae wedi gweithio mewn nifer o rolau darpariaeth seiliedig ar waith. Ers mis Tachwedd 2010 mae Peter wedi rheoli darpariaeth dysgu yn y gwaith ar gyfer Peirianneg a Gweithgynhyrchu sy’n cynnwys Prentisiaethau a chyflwyno NVQ. Mae gan Peter brofiad helaeth o ddatblygu a chyflwyno rhaglenni Prentisiaethau ynghyd â chyflwyno pwrpasol i fodloni gofynion cyflogwyr. Mae Peter yn ymroddedig i ddarparu cymorth ac arweiniad rhagorol i wella anghenion datblygu cyflogwyr.

Dangos Rhagor

Mark Breeze
Rheolwr DyyG - Adeiladu

Work-based Learning Manager - Construction, Mark Breeze

Ymunodd Mark â Choleg Cambria ym mis Gorffennaf 2016 fel Asesydd Gwaith Saer ac Asiedydd ac mae wedi symud ymlaen i’w swydd reoli bresennol. Cyn hyn, bu Mark yn gweithio mewn colegau eraill yn addysgu sgiliau gwaith saer ac asiedydd. Mae ganddo brofiad mewn amrywiol feysydd adeiladu a rheoli adeiladu. Mae gan Mark angerdd am hyfforddiant yn y diwydiant adeiladu ac am ddatblygu sgiliau prentisiaid a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.

Dangos Rhagor

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost