Home > Ynghylch > Amdanom Ni > Tîm Arwain > Is-Gyfarwyddiaeth Pobl, Profiadau a Diwylliant
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Gwenda yw’r Rheolwr Prosiectau Adnoddau Dynol, sy’n darparu prosiectau penodol sy’n gysylltiedig â’r Strategaeth AD. Mae Gwenda wedi gweithio i’r Coleg ers mis Mawrth 2019, ar ôl gweithio ym maes llywodraeth leol a rheolaeth manwerthu yn flaenorol, gan ennill profiad sylweddol mewn prosesau AD allweddol. Mae Gwenda wedi cymhwyso gyda BA (Anrh) mewn Gweinyddu Busnes ac mae ganddi gymhwyster Lefel 7 CIPD. Mae Gwenda yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Ymunodd Lesley ym mis Tachwedd 2021 o Brifysgol Manceinion, lle roedd ei rolau’n cynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen Israddedig BSc Addysg a Chyfarwyddwr TAR Uwchradd. Cyn hynny bu Lesley yn addysgu ac yn arwain pynciau Busnes academaidd a galwedigaethol yng Ngholeg Loreto, a threuliodd ei gyrfa gynharach ym maes Adnoddau Dynol mewn sefydliadau Gwasanaethau Ariannol ar draws y Gogledd Orllewin. Mae cyfuniad o brofiadau Lesley o weithio ym myd Addysg ac Adnoddau Dynol yn ei chefnogi yn ei rôl fel Pennaeth Dysgu Proffesiynol yng Ngholeg Cambria.
Becky yw’r Rheolwr Gweithredol Adnoddau Dynol ac ymunodd â Choleg Cambria ym mis Awst 2020. Cyn hyn, bu Becky’n gweithio i’r GIG am dros 15 mlynedd, gan weithio mewn nifer o swyddi a chael profiad sylweddol mewn cysylltiadau gweithwyr, datblygu polisi, rheoli absenoldeb a datblygu rheolwyr. Mae gan Becky radd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol ac mae ganddi gymhwyster CIPD Lefel 7.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae Cath yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn sectorau amrywiol, gan gynnwys Iechyd, Llywodraeth Leol ac Addysg. Ymunodd â Cambria ym mis Medi 2020 ar ôl bod yn Is-Bennaeth (Pobl, Datblygiad Sefydliadol a Diwylliant) yng Ngholeg Hugh Baird yn Lerpwl. Mae Cath yn atebol am swyddogaethau Adnoddau Dynol, Marchnata, Derbyniadau a Digidol, Gwasanaethau Dysgwyr, a Chanolfannau Adnoddau Dysgu.
Ymunodd Tracy â’r Coleg ym mis Rhagfyr 2001 fel Cynorthwyydd Ewropeaidd yn yr Adran Ariannu Allanol. Ym mis Chwefror 2006, cafodd ei phenodi yn Gydlynydd Derbyniadau ac yn 2016 daeth yn Rheolwr Derbyniadau. Mae Tracy wedi gweithio’n agos gyda’r cwricwlwm, gwasanaethau cymorth a thimau rheoli i ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau derbyniadau’r Coleg. Mae Tracy hefyd yn rheoli’r tîm Derbyniadau.
Ymunodd Ceri â’r tîm Marchnata yn 2013, gan symud ymlaen i fod yn Rheolwr Marchnata, Cyfathrebu a Digwyddiadau yn 2016. Cyn hyn, bu’n gweithio i gwmni marchnata ymgynghori gan ennill profiad ochr yr asiantaeth a chael blas ar farchnata AB i gleientiaid. Mae gan Ceri radd mewn Marchnata a Rheoli Digwyddiadau ac mae’n gweithio tuag at Ddiploma Proffesiynol Lefel 6 CIM. Mae hi’n arwain ar ddarparu hysbysebu, cyfryngau cymdeithasol, digwyddiadau, deunyddiau marchnata a chynnwys, a rhaglen y cyn-fyfyrwyr.
Dewch i gyfarfod â’r uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am swyddogaeth addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Maria â’r coleg yn 2018 fel rhan o’r Tîm Cynhwysiant. Mae ganddi hanes hir o weithio gyda dysgwyr ag anghenion ychwanegol mewn lleoliadau addysg fel athrawes a Chydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig. Mae hi’n angerddol am alluogi pob dysgwr i nodi a chyflawni eu gwir botensial waeth beth fo’u hanghenion. Cyn gweithio yng Ngholeg Cambria bu’n gweithio mewn Awdurdod Lleol a bu’n rhan allweddol o gyflwyno diwygiadau AAA 2014.
Dechreuodd Seán gyda’r coleg yn 2019 fel Tiwtor Anghenion Dysgu Ychwanegol Arbenigol ac mae ganddo MAED mewn ADY sy’n canolbwyntio ar ddyslecsia. Mae gan Seán angerdd dros gynhwysiant, dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chefnogi anghenion pawb. Tra’n gweithio yn y coleg mae Seán wedi ymgysylltu â Rhaglen Darpar Arweinwyr Coleg Cambria. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau yn y coleg i gefnogi ymagwedd gyfannol at gynhwysiant, niwroamrywiaeth a dulliau sy’n ystyriol o drawma.