Home > Ynghylch > Amdanom Ni > Tîm Arwain > Prif Swyddog Gweithredu’r Is-gyfarwyddiaeth > Is Gyfarwyddiaeth Ansawdd
Ymunodd Lee â’r Coleg yn gynnar yn 2011, fel un o sylfaenwyr y Tîm Gwella Busnes. Mae wedi ennill ystod o brofiad Gwella Busnes ar ôl gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau a busnesau yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae’r profiad hwn wedi chwarae rhan allweddol yn esblygiad y Coleg. Mae Lee hefyd wedi bod yn rhan o strategaethau arloesi a phrosiectau gweithredu tactegol ar draws y Coleg ac mae’n aelod gweithgar o Grwpiau Tasg STEM ac Arloesedd y Coleg.
Ymunodd Clwyd â’r Coleg yn Llysfasi am y tro cyntaf yn 1993. Mae ei rôl bresennol fel Rheolwr Cydymffurfiaeth a Sicrwydd Ansawdd yn sicrhau ei fod yn ymwneud â bron pob agwedd ar fywyd a darpariaeth y coleg. Mae Clwyd yn cynnig profiad amrywiol o waith gwirfoddol a lleol gyda sefydliadau amrywiol i’r coleg. Yn wreiddiol o Ddinbych, mae wedi bod yn byw yn Llangollen ers dros 30 mlynedd gan gynrychioli’r gymuned fel Maer o 1999 – 2001.