Safonau'r Gymraeg
Hawliau'r Gymraeg
Polisi'r Gymraeg
Mae Coleg Cambria yn falch o fod yn goleg dwyieithog. Mae gan y Gymraeg statws iaith swyddogol yng Nghymru, sy’n rhoi statws gyfartal i’r Gymraeg a Saesneg. Mae gennym restr o safonau a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae’r safonau hyn yn rhestr o ofynion cyfreithiol sydd â’r bwriad i wella’r gwasanaeth dwyieithog y disgwylir i bobl Cymru ei gael gan Goleg Cambria. Mae’r safonau’n nodi ein cyfrifoldebau’n glir o ran darparu gwasanaeth dwyieithog ac maent wedi’u rhannu i’r categorïau hyn: darpariaeth gwasanaeth, llunio polisi, gweithredol, cadw cofnodion.
Dogfennau
Ers mis Ebrill 2018, mae myfyrwyr wedi cael yr hawl i gael yr holl bethau isod yn Gymraeg:
Llythyrau
Gwneud cais am gyllid
Gwasanaethau cwnsela
Tystysgrifau
Cyfarfodydd
Llythyr croeso
Cyflwyno gwaith ysgrifenedig
Prosbectws
Ffurflenni
Rydym yn croesawu’r cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg yn weithredol a rhoi lle iddi ochr yn ochr â’r Saesneg yn unol â Safonau’r Gymraeg.
Mae’n chwarae rhan bwysig yn niwylliant, cymdeithas ac economi Cymru ac mae staff a myfyrwyr Coleg Cambria yn cael eu hannog i ddefnyddio’r adnoddau helaeth sydd ar gael. Gweler ein Polisi’r Gymraeg yn llawn isod.