Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Minister Visit

Cyfarfu Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, â’r Prif Weithredwr Yana Williams ac uwch arweinwyr ar safle Iâl Cambria yn Wrecsam.

Ymunwyd â hwy gan fyfyrwyr, staff a chynrychiolwyr Llais y Dysgwr a’r Bartneriaeth Gymdeithasol â nhw am drafodaeth ar faterion addysg lleol a chenedlaethol, cyn i’r Gweinidog agor cegin hyfforddi newydd flaengar, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Addysgol Savoy.

Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan yr Ymddiriedolaeth ac mae wedi’i leoli ochr yn ochr â Bwyty Iâl yn adeilad Hafod £21m y coleg.

Mae’r ‘gegin gynhwysol’ yn atgyfnerthu ymrwymiad Cambria i ddarparu cyfleoedd hygyrch a helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y sector lletygarwch.

Meddai’r Gweinidog: “Mae’n anrhydedd cael gwahoddiad i ddadorchuddio’r gegin hyfforddi newydd arloesol hon heddiw, ac rydw i wrth fy modd yn gweld yr holl gyfleusterau rhyfeddol sydd yma.

“Heb os, bydd y gegin hyfforddi yn creu cyfleoedd i ddysgwyr ffynnu. Ymrwymiad y coleg i ddysgu hygyrch yw’r union beth sydd angen i ni ei weld.

“Diolch i Goleg Cambria am fy ngwahodd i fod yn rhan o’r datblygiad cyffrous hwn.”

Ychwanegodd Ms Williams: “Mae wedi bod yn bleser croesawu’r Gweinidog a dangos iddi’r cynnydd a’r buddsoddiad a wnaed gan y coleg.

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddarparu addysg o’r radd flaenaf i fyfyrwyr mewn lleoliad modern, cyfoes, gan sicrhau bod yr amgylchedd y maen nhw’n dysgu ynddo yn gynnes, yn groesawgar, ac yn meithrin ymdeimlad o anogaeth a chefnogaeth.

“Mae’r gegin hyfforddi yn enwedig yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i wneud y mwyaf o gyfleoedd a darparu addysg hygyrch ar draws gwahanol lwybrau gyrfa, yn yr achos hwn, lletygarwch ac arlwyo, gan ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo yn y sector.”

Meddai Ms Williams am yr ymweliad yn gyffredinol: “Ynghyd â staff, myfyrwyr a chynrychiolwyr Llais y Dysgwr a’r Bartneriaeth Gymdeithasol fe wnaethon ni gynnal trafodaethau diddorol a sgyrsiau cadarnhaol ar yr effaith rydyn ni’n ei chael yma yng ngogledd ddwyrain Cymru.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio ar gyfer ein dysgwyr, ar gyfer diwydiant, a’n cymunedau.”

Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria. 

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost