Nod y Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth yw uwchsgilio ac ehangu’r gweithlu contractwyr yng Nghymru

Mae Coedwigaeth Tilhill a Foresight Sustainable Forestry Company (FSF) yn falch o gyhoeddi bod y Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth Gynaliadwy Foresight yn parhau yng Nghymru, gyda’r nod o baratoi contractwyr yn y rhanbarth yn well. Ar ôl rhaglen lwyddiannus y llynedd, mae Coedwigaeth Tilhill, sef prif gwmni cynaeafu coed a choedwigaeth y DU – ac […]
Mae dathliad o gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi uno cannoedd o fyfyrwyr yng Ngholeg Cambria unwaith eto.

Cafodd Gŵyl Cambria 2024 ei chynnal yng Nglannau Dyfrdwy a daeth dros 520 o ddysgwyr a staff, gan gynnwys rhai o safleoedd eraill y coleg yn Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgain. Dyma oedd yr ail waith i’r digwyddiad gael ei gynnal, ac roedd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, adloniant – gan gynnwys bwytäwr tân dewr – lluniaeth, […]
Prifysgol Wrecsam yn lansio Prentisiaethau Gradd Adeiladu yng Nghymru a ariennir yn llawn gyntaf

Lansiwyd y Prentisiaethau Gradd Adeiladu cyntaf yng Nghymru a ariennir yn llawn ym Mhrifysgol Wrecsam, mewn partneriaeth â Choleg Cambria. Cynhaliwyd digwyddiad arbennig ar gampws Plas Coch y Brifysgol yn Wrecsam yr wythnos hon i ddathlu cyflwyno’r Prentisiaethau Gradd Adeiladu cyntaf a ariennir gan Lywodraeth Cymru mewn Arolygu Adeiladau, Peirianneg Sifil, Rheoli Adeiladu ac […]
Mae Coleg Cambria yn darparu amgylchedd cynnes, croesawgar i bobl o bob oed.

Mae Coleg Cambria yn darparu amgylchedd cynnes, croesawgar i bobl o bob oed. A dyna oedd yr achos pan aeth mwy na 60 o unigolion hŷn ac wedi ymddeol i sesiynau celf a chrefft ar safleoedd y coleg yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy dros yr haf. Wedi’i drefnu gan dîm Llais Myfyrwyr Cambria, fe wnaethon […]
Mae garddwr arobryn yn ffynnu mewn gyrfa newydd ym maes addysg ac mae wedi cael ei
anrhydeddu â chlod mawreddog.

Mae Geraint Ellis, o Borthmadog, wedi ennill y Wobr Cwmni Lifrai ar gyfer dysgwyr a thiwtoriaid neilltuolsydd wedi cyflawni cymwysterau City & Guilds.Bellach yn Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith mewn Garddwriaeth, Cadwraeth Amgylcheddol a Choed aPhren yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy, cafodd ei ddewis gan Gwmni Anrhydeddus y Garddwyr idderbyn y teitl mewn seremoni a […]
Mae busnes logisteg blaenllaw yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr Coleg Cambria gyflawni lleoliadau gwaith hanfodol.

Mae Delta Fulfilment yn cynnig pedair wythnos o brofiad gwaith yn ei gyfleuster o’r radd flaenaf yn Ffordd Bedwell, Wrecsam i fyfyrwyr Peirianneg blwyddyn gyntaf. Mae’r cwmni, sy’n cynorthwyo cwmnïau eFasnach a’u cwsmeriaid, yn tyfu’n gyflym ac yn gobeithio y bydd ymgeiswyr yn dod yn eu holau yn y dyfodol, ar ôl iddynt orffen eu […]