Mae’r bartneriaeth rhwng Cambria a Table Tennis Wales wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda channoedd o chwaraewyr yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol dros y flwyddyn ddiwethaf.
A bydd hyn yn oed mwy o sesiynau iddyn nhw eu mwynhau eleni wrth i Swyddog Datblygu Rhanbarthol Gogledd Cymru, Aaron Beech, gyflwyno rhaglen o weithgareddau i’w cynnal ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam.
Yn ogystal â sesiynau hyfforddi ieuenctid a chymunedol bob dydd Mawrth, bydd cystadlaethau ysgol uwchradd ac ysgolion cynradd yn cael eu cynnal yn yr wythnosau i ddod.
“Mae gennym ni hefyd bartneriaeth newydd gyda Parkinson’s UK Cymru ac yn gwahodd unrhyw un sydd â’r cyflwr, a gwirfoddolwyr a gofalwyr, i’n cefnogi ni wrth i ni geisio cynnal sesiynau drwy gydol y flwyddyn,” meddai Aaron.
“Rydyn ni wedi ymgysylltu gyda staff a dysgwyr yn Cambria sydd eisoes yn helpu gyda hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth ac rydyn ni am weld hyd yn oed mwy o bobl yn cymryd rhan dros y misoedd nesaf o ystyried yr ymateb anhygoel rydyn ni wedi’i gael hyd yn hyn.
“Rydyn ni’n creu lle diogel i bobl chwarae’r gamp wrth gadw’n heini, cyfarfod pobl newydd – mae’r digwyddiadau ‘Ysbrydoli, Chwarae, Arwain’ i ferched yn unig yn enghraifft o hynny – ac iddyn nhw ddysgu a datblygu eu sgiliau hyfforddi unigol fel y gallan nhw gyflwyno’r sesiynau yma eu hunain yn y dyfodol.
“Byddwn ni’n parhau i adeiladu momentwm ymhlith disgyblion ysgol a’r nifer fawr o oedolion sydd wedi ymuno â ni ers cydweithio gyda’r coleg ac rydyn ni’n hyderus y bydd yr Academi yn parhau i fynd o nerth i nerth.”
Fe ddatgelodd Aaron fel rhan o’u “hwb perfformiad uchel” eu bod wedi buddsoddi mewn offer newydd – gan gynnwys 12 bordiau tennis bwrdd – ac mae hyfforddwyr cymwys wedi hyfforddi mwy na 1,500 o bobl o bob oed ers sefydlu’r cynllun yn 2023.
Dywedodd hefyd: “Rydyn ni wedi cael cefnogaeth gan chwaraewyr a hyfforddwyr llawr gwlad ac mae llawer o ewyllys da wedi bod tuag at y fenter yma,” meddai.
“Mae sgiliau a safonau cyfranogwyr yn dal i godi ac fel gwnaethom ni ragweld ar y dechrau, dwi’n siŵr un diwrnod y bydd Gogledd Cymru yn cynhyrchu ei bencampwr Olympaidd, y Byd neu’r Gymanwlad ei hun.”
Am ragor o wybodaeth a dyddiadau sesiynau a chystadlaethau sydd ar ddod, anfonwch e-bost at aaron.beech@tabletennis.wales neu ewch i www.tabletennis.wales.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.