main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Further & Higher Education students celebrating their achievements and standing for a group photo at the Student Awards 2024

Cynhaliwyd digwyddiadau ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch (AB ac AU) a Dysgu yn y Gwaith (DyyG) a Dysgu Oedolion a’r Gymuned (ACL) yn safle Iâl y coleg yn Wrecsam yr wythnos hon.

Llywyddwyd y seremonïau gan y Prif Weithredwr Yana Williams a Cath Sullivan, Dirprwy Brif Weithredwr Pobl, Profiadau a Diwylliant dros ddwy noson.

“Llongyfarchiadau i bawb ar eich llwyddiant yn y flwyddyn ddiwetha,” meddai Ms Williams.

“Hefyd, diolch yn fawr iawn i’ch teuluoedd, ffrindiau a’r rhai a’ch cefnogodd chi ar eich teithiau.

“Rydych chi’n glod i Goleg Cambria, ac rydyn ni mor blês ac yn falch o allu dathlu eich cyflawniadau ar draws ystod eang o raglenni.

“O brentisiaethau a chyrsiau dysgu yn y gwaith i Safon Uwch a rhagor, beth bynnag fydd eich camau nesaf, byddwn ni bob amser yma i chi ac yn dymuno pob lwc i chi ar gyfer y dyfodol.”

Y gwesteion arbennig oedd yr entrepreneur, siaradwr ac ymgynghorydd cychwyn busnes Emmanuel Anthony, sydd â chenhadaeth o “rymuso pobl i droi eu brwdfrydedd i’w proffesiwn trwy wytnwch, etheg waith ac entrepreneuriaeth”, a Matt Hall, Deiliad Record y Byd Guinness, entrepreneur cyfresol a gyrhaeddodd rownd derfynol amatur cryfhau’r corff a chyflwynydd y podlediad Success School yn siartiau uchaf Apple.

Mae gwobrau’r myfyrwyr yn dathlu cyflawniad ar draws holl safleoedd Cambria – Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi, Ffordd y Bers a Choleg Iâl yn Wrecsam.

Ymhlith yr enillwyr oedd:

Myfyriwr y Flwyddyn Chweched Glannau Dyfrdwy – Daniel Mayers-Jones

Myfyriwr y Flwyddyn Chweched Iâl – Zoe Bayley-Jones

Myfyriwr y Flwyddyn Y Gymraeg – Melody Griffiths

Prentis Cymraeg y Flwyddyn – Ruby Ballantyne

Myfyriwr y Flwyddyn Elusennau – Ben White

Myfyriwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch – Selma Souza Fernandes

Dysgwr y Flwyddyn Addysg Uwch – Matthew Jones

Myfyriwr y Flwyddyn Cwrs i’r Niwroamrywiol – Natasha Royal

Myfyriwr y Flwyddyn Chwaraeon Elît – Carys Davies

Myfyriwr y Flwyddyn E-chwaraeon – Oliver Pearce

Myfyrwyr y Flwyddyn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Max Williams, Micah Hampton, Enrique Manzano.

Prentis y Flwyddyn Technolegau Digidol – Ashley Littlemore

Dysgwr y Flwyddyn sy’n Oedolyn – Anne Williams

Prentis Awyrennau’r Flwyddyn – Robert Jones

Prentis Cerbydau Modur y Flwyddyn – Hayley Brittle

Myfyriwr y Flwyddyn Cyrsiau’r Tir Llysfasi – Charlotte Bailey

Myfyriwr y Flwyddyn Astudiaethau Technegol Llaneurgain – Kai Dodd

Myfyriwr y Flwyddyn Gofal Plant DyyG  Gemma Young

Dysgwr y Flwyddyn Dysgu Saesneg – Deodato Barbosa De Carvalho 

Dysgwr y Flwyddyn Cymraeg i Oedolion – Kierion Lloyd

Myfyriwr y Flwyddyn Gwallt a Harddwch DyyG – Tia Arrowsmith

Roedd yna hefyd gydnabyddiaeth arbennig i’r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol WorldSkills UK a gynrychiolodd y coleg a’i bartneriaid diwydiant yn 2023/24

Am ragor o wybodaeth a’r rhestr lawn o enillwyr yn seremonïau AB/AU a Dyyg/ACL, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.

Gallwch hefyd weld rhagor o ymateb trwy ddefnyddio’r hashnod #cambriaawards24 ar y cyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost