Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

UPS Crossbow

Fel rhan o raglen a drefnwyd gan Heddlu Gogledd Cymru, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Chwnstabliaeth Swydd Gaer, fe wnaeth myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai (UPS) gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig ag ymgyrch ar y cyd Ymgyrch Crossbow, oedd yn canolbwyntio ar aflonyddu ar droseddeddoldeb trawsffiniol.

Dechreuodd y diwrnod gyda gosgordd o gerbydau gweithredol yr heddlu, a deithiodd o Gaer i safle Glannau Dyfrdwy Cambria.

Cyfarfu swyddogion o Ogledd Cymru gyda charfan Lefel 3 i roi briff iddynt ar eu cynlluniau ar gyfer y bore, gyda’r grŵp yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am weithrediadau dros y radio cyn cael PPE (Cyfarpar Diogelu Personol) a’u cludo i barciau ledled Sir y Fflint i helpu i gynnal chwiliadau cyllyll a sicrhau nad oedd arfau o gwmpas.

Ar ôl dychwelyd i’r coleg, fe’u dadfriffiwyd gan swyddogion a byddant yn adfyfyrio ar yr ymgyrch fel rhan o’u hastudiaethau arfaethedig.

Diolchodd y tiwtor UPS, Jason Ferguson, i’r ddau Heddlu, a dywedodd: “Roedd hwn yn brofiad anhygoel i’r myfyrwyr, cyfle unwaith mewn oes i fod yn rhan o ymgyrch amser real, bywyd go iawn.

“Roedd gallu cymryd rhan a chyfrannu at ymgyrch mor bwysig wrth galon ein cymuned yn anhygoel, gan roi blas i’r dysgwyr o’r hyn allai fod o’u blaenau yn y dyfodol os byddan nhw’n dilyn gyrfa yn y gwasanaethau brys.

“Rydyn ni mor ddiolchgar i Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Swydd Caer ac yn falch ein bod ni wedi gallu eu cefnogi yn y frwydr yn erbyn troseddau cyllyll ar ddwy ochr y ffin.”

Ychwanegodd Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Emma Parry: “Fe wnaeth myfyrwyr y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai waith ardderchog yn cynorthwyo swyddogion i gynnal chwiliadau cyllyll mewn tri pharc a mannau problemus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Sir y Fflint.

“Nod y prosiect oedd grymuso’r myfyrwyr i gymryd rhan mewn plismona cymunedol ac roedd yn rhan o’n hymgyrch lleihau troseddau, oedd yn rhan o Ymgyrch Crossbow.

“Cynhaliwyd y diwrnod gweithredu amlwg iawn rhwng Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Swydd Caer a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar draws Sir y Fflint, Wrecsam a Chaer i aflonyddu ar droseddoldeb trawsffiniol.

“Roedd y gweithgaredd yn gyfle i’r myfyrwyr wneud gwahaniaeth yn eu cymuned, helpu yn y frwydr yn erbyn troseddau cyllyll a rhoi blas iddyn nhw o yrfa ym maes plismona.

“Er na ddaethpwyd o hyd i unrhyw gyllyll, roedd y chwiliadau’n llwyddiant ysgubol, a arweiniodd at ddod o hyd i geriach cyffuriau a’i feddiannu i gefnogi cuddwybodaeth leol.”

Am ragor o wybodaeth am Ymgyrch Crossbow, ewch i’r wefan:

Ewch i www.cambria.ac.uk am y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost