Diolch!

Bryn Williams Academy Logo

Diolch am ymholi am Academi Bryn Williams yng Ngholeg Cambria.

Beth sy’n digwydd nesa’?

Mi fydd aelod o’n tîm cyfeillgar yn cysylltu â chi o fewn y tri i bum diwrnod gwaith nesaf ar ôl cael eich ymholiad.

Gallwch chi ddisgwyl clywed gennym ni naill ai dros y ffôn* neu e-bost.

Pan rydyn ni’n eich ffonio chi, mi fyddwn ni’n sgwrsio am yr Academi ac mi fyddwn ni wrth ein bodd yn clywed am eich profiadau blaenorol a’ch cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.

Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi – rydyn ni yma i helpu!

*O.N. Cadwch olwg am alwadau o rif 01978; ni fydd yn eich ffonio chi!

Ymholiad yn unig ydy hyn, dim cais

Erbyn hyn, rydych chi wedi gwneud ymholiad am yr Academi, ond dydych chi heb wneud cais swyddogol eto.

Mi fydd yr aelod o’r tîm a fydd yn cysylltu â chi yn esbonio sut i wneud cais a beth sy’n dod nesa’.

Beth os dydych chi ddim yn cael galwad gennym ni
Yn yr achos annhebygol dydych chi ddim yn clywed gan ein tîm o fewn tri i bum diwrnod gwaith, mae croeso i chi anfon e-bost atom ni ar brynwilliamsacademy@cambria.ac.uk. Cofiwch gynnwys eich enw llawn a dyddiad geni, ac mi wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted â phosib.
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at sgwrsio gyda chi’n fuan a dysgu rhagor am y daith gyffrous sydd o’ch blaenau chi.
www.cambria.ac.uk/brynwilliamsacademy/?lang=cy

0300 30 30 007