Gyda mwy na £5.9 miliwn gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, mae Coleg Cambria yn trawsnewid ei safle astudiaethau’r tir yn Llysfasi, ger Rhuthun.
Yn dilyn agoriad ei ganolfan addysg amaethyddol gwerth £1.2 miliwn tair blynedd yn ôl, ar hyn o bryd mae cyfadeilad addysg carbon niwtral 1095 metr sgwâr o’r radd flaenaf yn cael ei adeiladu gan gwmni Read Construction sydd wedi’i leoli yn Wrecsam.
Bydd y cyfleusterau modern yn cynnwys ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd cyfarfod, siop goffi, canolfan AU, hwb llesiant a rhagor.
Dywedodd Elin Roberts Pennaeth Llysfasi: “Mae popeth ar y trywydd iawn i’r adeiladau gael eu gorffen ym mis Medi, yn barod at y flwyddyn academaidd nesaf.
“Mae’r buddsoddiad mae Coleg Cambria wedi’i wneud yn Llysfasi yn dangos ei ymrwymiad i academia a’n cymuned leol, yn ogystal â chefnogi’r sector amaethyddiaeth yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.”
Ychwanegodd hi: “Rydyn ni’n gyffrous iawn i weld y cynlluniau yma’n dod yn fyw, mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r coleg a’r diwydiant ffermio, ac mi fyddwn ni ar flaen hynny.”
Yn ogystal â’r adeilad newydd mae’r ailwampio yn Llysfasi yn cynnwys llwybrau coedwig a thirlunio, ac mi fydd yna ddigwyddiadau gwybodaeth a sesiynau cynghori dwyieithog i fentora ffermwyr lleol sydd am arallgyfeirio a datblygu eu prosesau masnachol eu hunain.
Mae hyd at 30 o weithwyr ar y safle, ac mi fydd y nifer hynny yn cynyddu dros yr wythnosau nesaf wrth iddyn nhw ddechrau gosod y to.
Mae’r Rheolwr Safle Paul Izzard yn falch gyda’r cynnydd ac mae’n fraint cael arwain y prosiect.
“Er gwaethaf yr heriau diweddar gyda’r stormydd a’r tywydd garw rydyn ni ar y trywydd i gwblhau’r adeilad ym mis Medi.” Meddai.
“Mae ein staff a’n isgontractwyr wedi gweithio’n galed dros y gaeaf y sicrhau bod hynny’n digwydd, ac mi fyddwn ni’n dod â rhagor o grefftau ym mis Gorffennaf i gadw’r momentwm i fynd.
“Rydyn ni wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth â’r coleg a bod yn rhan o gyfleuster addysg hollbwysig i fyfyrwyr a’r gymuned ffermio yma yn Nyffryn Clwyd.”
Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.
I weld rhagor am Read Construction, ewch i’r wefan: www.readconstruction.co.uk.