Background Splash

Gan adrian

AmberLeigh2-1-2

Bydd Amber-Leigh Walker yn mynd i Ysgol Filfeddygol Harper a Keele o fis Medi ar ôl llwyddo Rhagoriaeth* mewn Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid yng Ngholeg Cambria Llysfasi, ger Rhuthun.

“Dwi mor hapus a cyffrous i fynd i Harper a Keele,” meddai’r cyn-ddisgybl Ysgol Bryn Elian sy’n byw yn Hen Golwyn gyda’i mam Kim a’r teulu.

“Pan fu farw dad yn ddim ond 42 oed, roeddwn i’n ansicr beth fyddai i’w ddod yn y dyfodol, ond roeddwn i’n benderfynol a dwi mor falch fy mod i wedi llwyddo.

“Dwi wedi wynebu cyfnod anodd dros y blynyddoedd diwethaf, ond roeddwn i’n benderfynol o beidio ag ildio, fedrai ddim dychmygu peidio â bod yn filfeddyg a gwneud dad yn falch.” Gwnaeth Amber-Leigh dyfu i fyny mewn tŷ a oedd yn llawn anifeiliaid anwes roi Amber-Leigh o flaen y gweddill mewn gofalu am greaduriaid o bob lliw a llun, o gŵn a chathod i foch cwta, bochdewion, a chnofilod.

“Roeddwn i’n gwybod yn ifanc iawn fy mod i eisiau gweithio gydag anifeiliaid,” meddai hi.

“Pan roeddwn i’n fach ac wedi dechrau deall bod angen iddyn nhw fynd at y ‘doctor’, roeddwn i’n benderfynol o wneud hynny rhyw ddydd, roeddwn i eisiau eu helpu nhw os oedden nhw’n sâl neu wedi brifo.

“Mae cael y cyfle i fynd i ysgol filfeddygol blaenllaw a bod ar y trywydd i wneud rhywbeth dwi wrth fy modd yn ei wneu fel gyrfa yn anhygoel, mae fy mreuddwyd wedi cael ei wireddu.

Am ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth eang o gyrsiau’r tir a’r cymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria Llysfasi, ewch i: www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost