Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A WELSH language centre of excellence and education will undergo a major revamp.

Mae Coleg Cambria am fod yn buddsoddi’n sylweddol yng nghyfleusterau, technoleg a chyfarpar ei adeilad Camu yn Wrecsam.

Mae’r gwaith ailddatblygu’n dechrau yn yr wythnosau nesaf, gan ganolbwyntio ar botensial yr hwb i gyflwyno cymwysterau Cymraeg i fyfyrwyr a’r gymuned ehangach trwy ei ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion.

Bydd adnewyddiad ac estyniad i’r tu mewn a’r ystafelloedd dosbarth ar safle Iâl yn cael ei ategu gan ragor o fannau dysgu, caffi, technoleg o’r radd flaenaf, ‘hwb gweithio’n ystwyth’ i staff a mynedfeydd newydd.

Dywedodd Llinos Roberts, Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a’r Gymraeg Cambria y bydd y trawsnewidiad yn cysoni Camu (sy’n cyfeirio at wella sgiliau ieithyddol) ag adeilad Hafod £20 miliwn gyfagos, a’r Ganolfan Iechyd a Llesiant £14 miliwn wnaeth agor fis diwethaf.

“Mae’r prosiect yn cefnogi gweledigaeth a strategaeth y coleg i ehangu addysg a hyfforddiant Cymraeg ym mhob sector yn yr ardal,” meddai Llinos.

“Mae hynny’n cyd-fynd â’r galw cynyddol am ragor o weithwyr Cymraeg – yn unol â nod Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 – ac mae’n cynnig cyfleuster i’r 200+ o ddysgwyr ar y safle sydd wedi bod mewn ysgolion Cymraeg ymarfer a pharhau gyda’u datblygiad iaith eu hunain.”

Dywedodd hefyd: “Mae cynyddu darpariaeth i oedolion ac yn y gymuned trwy’r Gymraeg yn flaenoriaeth i Goleg Cambria a Llywodraeth Cymru, felly mae’n hanfodol bod ein cyfleusterau yn cyd-fynd â’r targedau hynny.

“Bydd y ganolfan yn brofiad trochi i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr i Camu, gydag ardaloedd dysgu rhyngweithiol, a bydd y caffi yn lle cymdeithasol i siarad Cymraeg yn rhydd.

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu disgyblion 14-16 oed o ysgolion yr ardal fel eu bod nhw’n gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg ar y safle – sy’n newid mawr i addysg a’r Gymraeg yng ngogledd ddwyrain Cymru.”

Mae Camu yn cael ei ystyried yn esiampl o arfer gorau wrth ddatblygu’r Gymraeg yn y gweithle ac mae wedi arwain y ffordd o ran arloesi rhaglenni Cymraeg yn Wrecsam a safleoedd eraill y coleg yng Nglannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain.

Ychwanegodd Llinos: “Mae Camu yn parhau i ddarparu rhaglen o gyrsiau Cymraeg sydd wedi eu teilwra’n benodol ar gyfer y gweithle mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol sy’n dymuno gwella eu gwasanaethau dwyieithog, yn ogystal â rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol a’n cyrsiau Cymraeg i Oedolion, yma ac yn y gymuned.

“Rydym wedi ymrwymo i ddathlu a hyrwyddo proffil y Gymraeg fel sgil gwerthfawr ar gyfer cyflogaeth, ac mae’r buddsoddiad hwn yn profi hynny.”

Am ragor o wybodaeth am y Gymraeg yng Ngholeg Cambria, ewch i Y Gymraeg < Coleg Cambria a Cymraeg i Oedolion < Coleg Cambria.

Ewch i Dysgu Cymraeg am ragor o wybodaeth am ddysgu Cymraeg yng Ngholeg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost