Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Coleg Cambria will open its doors to prospective learners and their families at a series of open events in November

Bydd y digwyddiadau hyn yn cymryd lle ar y dyddiadau canlynol:

Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy – Dydd Mercher 6 Tachwedd 5pm-8pm.

Llysfasi – Dydd Sadwrn 9 Tachwedd 10am-1pm.

Iâl a Chweched Iâl Wrecsam – Dydd Mercher 13 Tachwedd 5pm-8pm.

Ffordd y Bers – Dydd Mercher 13 Tachwedd 13 5pm-8pm.

Llaneurgain – Dydd Sadwrn 16 Tachwedd 10am-1pm.

Dywedodd Sue Price, Pennaeth Cambria, y byddai’r sesiynau hyn yn rhoi profiad uniongyrchol i ymwelwyr o’r ystod o raglenni sydd ar gael yn y Coleg sy’n amrywio o Beirianneg, Chwaraeon, a Rheoli Anifeiliaid, i Amaethyddiaeth, Esports, Trin Gwallt a Harddwch, Busnes, Milfeddygaeth a rhagor.

Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at gynnal ein diwgyddiadau agored yr hydref unwaith eto. Mae’r rhain yn boblogaidd ac mae lefelau presenoldeb bob amser yn dda gan ddarpar fyfyrwyr sy’n edrych i’r dyfodol a’r flwyddyn academaidd nesaf,” meddai Mrs Price.

“Yn ogystal â chael golwg ar ein cyfleusterau modern, gan gynnwys yr adeilad iechyd newydd gwerth £14m yn Iâl a chanolfan addysg y tir gwerth £10m yn Llysfasi, mae cyfle i bobl ddysgu rhagor am ein cyrsiau AB ac AU, y cefnogaeth iechyd a llesiant rydyn ni’n ei gynnig a gwaith anhygoel y tîm Llais Myfyrwyr.

“Rydyn ni’n gobeithio eich gweld yn fuan, ac i’r rhai sy’n methu dod i’r digwyddiadau, cysylltwch â ni trwy’r wefan neu gyfryngau cymdeithasol i gael dysgu rhagor.”

Bydd y coleg hefyd yn cynnal digwyddiadau agored hygyrch, ar gyfer y rhai sydd eisiau astudio mewn lleoliad synhwyraidd-gefnogol. Bydd y rhain yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy – Dydd Iau 14 Tachwedd 5pm-6pm.

Llysfasi – Dydd Iau 28 Tachwedd 5pm-6pm.

Iâl a Chweched Iâl Wrecsam – Dydd Mercher 20 Tachwedd 5pm-6pm.

Ffordd y Bers – Dydd Iau 21 Tachwedd 5pm-6pm.

Llaneurgain – Dydd Mercher 27 Tachwedd 5pm-6pm.

Yn ystod pob un o’r digwyddiadau agored bydd cyfle i gwrdd â staff a darlithwyr i gael siarad â nhw, ymweld â’n cyfleusterau o’r radd flaenaf – gan gynnwys opsiwn 3D lle fydd cyfle i gerdder drwy bob safle gan ddefnyddio rhithrealiti – ac archwilio ystod eang o gyrsiau a chymwysterau llawn amser sydd ar gael, o gyrsiau Safon Uwch a TGAU i BTEC a Chymraeg i Oedolion.

Gallwch hefyd ddysgu rhagor am Ganolfan Prifysgol Cambria, astudio’n ddwyieithog, rhaglenni rhan amser a phrentisiaethau.

Am ragor o wybodaeth am ein digwyddiadau agored, ewch i: Digwyddiadau Agored < Coleg Cambria.

Bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gyfer ein digwyddiadau agored hygyrch. Ewch i: Digwyddiadau Agored Hygyrch< Coleg Cambria i gadw eich lle.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost