Bydd y sesiynau hygyrch yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol ar y safleoedd hyn:
Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy – Dydd Mercher 6 Mawrth o 5pm-7pm.
Llysfasi – Dydd Sadwrn 9 Mawrth o 10am-12pm.
Iâl a Chweched Iâl Wrecsam – Dydd Mercher 13 Mawrth o 5pm-7pm.
Ffordd y Bers Wrecsam – Dydd Mercher 13 Mawrth o 5pm-7pm.
Llaneurgain – Dydd Sadwrn 16 Mawrth 16 o 10am-12pm.
Yn ogystal â gweithdai, cyflwyniadau, a sgyrsiau mewn person gyda thiwtoriaid a darlithwyr arbenigol, gall y rheini sy’n methu mynychu fewngofnodi i’r wefan a chael mynediad i deithiau 3D o amgylch pob safle.
Bydd staff wrth law i drafod amrywiaeth o bynciau, o brentisiaethau a llwybrau addysg uwch i gydraddoldeb ac amrywiaeth, cyllid, astudio rhan-amser, dysgu dwyieithog, a rhagor.
Dywedodd y Pennaeth Sue Price fod y coleg – sydd â mwy na 26,000 o fyfyrwyr llawn a rhan-amser, yn parhau i fynd o nerth i nerth.
“Mae llawer o bobl yn mynychu ein digwyddiadau agored bob amser ac maen nhw’n cynnig mewnwelediad nid yn unig i ddarpar ddysgwyr ond i’w teuluoedd hefyd,” meddai.
“Mae’n rhoi cyfle i ni ddangos faint o ddewisiadau sydd ar gael, ein cysylltiadau â diwydiant a’r rhan y mae Cambria yn ei chwarae wrth gefnogi myfyrwyr ar eu taith i’w gyrfa ddewisol.”
Ychwanegodd Mrs Price: “Rydyn ni’n annog pobl i gadw lle ymlaen llaw ac i ymweld â chymaint o lefydd ag y gallan nhw yn ystod eu hymweliad â’r coleg, i archwilio beth sydd ar gael a chael blas ar yr holl brofiad, o’r cyfleusterau modern o’r radd flaenaf i’r amrywiaeth o gymwysterau sydd ar gael – edrychwn ymlaen at eich gweld chi’n fuan.”
Am ragor o wybodaeth ac i wylio fideos gydag awgrymiadau da ar sut i wneud y mwyaf o ddigwyddiadau agored, ewch i’r wefan: https://www.cambria.ac.uk/ymgyrchoedd/digwyddiadau-agored/?lang=cy.
Fel arall, dilynwch Coleg Cambria ar y cyfryngau cymdeithasol, ffoniwch 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at studentservices@cambria.ac.uk.