Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o 19-22 Tachwedd yng ngholegau, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion ar draws Manceinion Fwyaf, gan gynnwys Bolton, Rochdale, Wigan a Leigh, ac Oldham.
Mae’r 17 o gynrychiolwyr o Cambria – sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain – a phartneriaid y diwydiant yn cynnwys:
Cynnal a Chadw Awyrennau – Aiden Williams, Kleo Pepa, James Prescott, Kieran O’ Loan, Hannah Back, Robert Jones (pob un yn Airbus UK/Coleg Cambria)
Melino CNC – Jamie Duncan (Magellan Aerospace), Tomas Ankers
Therapydd Harddwch – Darcy Watson, Lilia Jones
Menter Sgiliau Sylfaen – Stephen Jackson, Michael Lewis, Lewis Higgins
Gwneuthurwr Metel – Mark Wright (International Crusher Solutions), Jimmy Smith (Kendley Steel)
Technegydd Seilwaith Rhwydwaith – Bartosz Dobrzynski
Weldio – Zachariah Winn (Kendley Steel)
Bydd dros 400 o gystadleuwyr o bob cwr o’r DU yn cystadlu yn y rowndiau terfynol mewn 40 categori sgiliau, gan gynnwys Celf Gemau Digidol 3D, a Thirlunio, cyn i’r rhai sydd wedi ennill medalau gael eu cyhoeddi yn Neuadd Bridgewater ym Manceinion.
Mae Rheolwr Profiadau Dysgwyr a Mentergarwch Cambria, Rona Griffiths yn llongyfarch y tîm ar eu cyflawniadau a dywedodd: “Rydyn ni’n parhau i wneud ein gorau glas yn y gystadleuaeth yma, blwyddyn ar ôl blwyddyn yn anfon prentisiaid dawnus ac ymroddgar i gystadlu yn erbyn y goreuon.
“Mae cyrraedd y rownd derfynol yn golygu eu bod nhw ymhlith yr wyth gorau yn y DU yn eu sgil dewisol, sy’n hollol anhygoel, ac yn dyst i’w tiwtoriaid a’u cyflogwyr.
“Rydyn ni mor falch ohonyn nhw ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw.”
Ychwanegodd Ben Blackledge Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn ôl ym Manceinion Fwyaf ar gyfer ein Rowndiau Terfynol Cenedlaethol ym mis Tachwedd ac yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf a’n holl leoliadau sy’n cynnal y cystadlaethau.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr a phartneriaid o hyd a lled y DU i arddangos rhagoriaeth mewn sgiliau technegol a gyrru datblygiad sgiliau o’r radd flaenaf i’r holl bobl ifanc.”
Daw’r newyddion wrth i Rosie Boddy, cyn Brentis Awyrennau Airbus – sydd bellach yn Swyddog Hyfforddiant Technegol yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy – baratoi i gystadlu yn y categori Cynnal a Chadw Awyrennau yn WorldSkills 2024, yn Lyon, Ffrainc, fis Medi eleni.
Mae Rosie yn un o ddim ond 31 cyfranogwyr o’r DU ac mae hi’n edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r her o wynebu pobl ifanc 25 ac iau o dros 65 gwlad.
Ewch i www.worldskillsuk.org i weld rhagor am WorldSkills UK.
Am ragor o newyddion a gwybodaeth o Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.