Bydd rhaglenni Lefel 4 a Lefel 5 yn cael eu darparu gan Ysgol Fusnes Llaneurgain – rhan o Goleg Cambria – ac wedi’u hanelu at gyfarwyddwyr, uwch arweinwyr a gweithwyr AD a wynebodd yr her ddigynsail o newid gweithrediadau ar-lein yn ystod y cyfnod clo.
Cyn-Covid, roedd llai na 10% o weithlu’r DU yn gweithio o bell; erbyn hyn, mae hyd at draean o gwmnïau wedi cyflwyno systemau hybrid ar gyfer yr holl staff, sy’n golygu y bydd llawer yn treulio dau neu dri diwrnod gartref mewn ystafell sbâr neu swyddfa dros dro.
Dywed Jane Keys, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Ymgysylltu â Chyflogwyr yn yr Ysgol Fusnes, fod sefydliadau wedi ymdopi’n dda â heriau digynsail y ddwy flynedd ddiwethaf ond bod llawer yn dal i gael trafferth goruchwylio unigolion a thimau ar-lein.
“Nid oes unrhyw beth gwell na rheoli pobl wyneb yn wyneb, ond pan darodd y pandemig y DU newidiodd hynny’n gyflym, ychydig iawn o amser oedd i baratoi ar ei gyfer ac nid oedd cynsail ar gyfer beth i’w wneud nesaf,” meddai.
“I rai mae yna rwystrau o hyd i gyfathrebu rhithwir a cheisio gweithredu strategaethau, mynd i’r afael â materion AD bob dydd a mesur cynhyrchiant – mae wedi bod yn anodd iawn iddynt.
“Dyna pam, o ystyried y galw a’r adborth rydym wedi’i gael gan amrywiaeth o ddiwydiannau, gwnaethom ni benderfynu creu rhaglen bwrpasol a fydd yn ymdrin â llawer o’r themâu hyn, y gellir eu teilwra i wahanol sectorau.”
Yn ogystal â’r materion technegol a logistaidd sy’n codi wrth weithio gartref a gweithio hybrid, bydd yr agwedd seicolegol ar hunanynysu a chymhelliant hefyd yn cael ei thrafod.
Ymhlith y themâu eraill sy’n cael eu cynnwys mae diogelu data, cyfraith cyflogaeth, swyddogaethau a chyfrifoldebau, gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol, manteision ac anfanteision i’r unigolyn a’r cyflogwr, ac iechyd a diogelwch.
“Mae angen dull gwahanol o reoli ar weithlu o bell ond hyd yma mae llawer o bobl wedi bod yn ei fyw o ddydd i ddydd ac nid yn gweithredu polisïau hirdymor yn eu modelau busnes a’u strategaethau,” meddai Jane.
“Mae paratoi at y dyfodol yn hollbwysig – rydym wedi gweld pa mor bwysig yw hi i gael sefydliad gwydn – ac nid yw gweithio hybrid a gweithio gartref yn mynd i ddiflannu yn fuan, felly bydd dod i arfer gyda’r dull a sicrhau bod gan eich sefydliad y ddeddfwriaeth a’r hyfforddiant cywir ar waith yn rhan fawr o’r dysgu.
“Mae hefyd yn hanfodol bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu cyflogwyr yn ymddiried ynddynt, o ystyried yr ymreolaeth dan sylw.”
Ychwanegodd: “Rydym yma i gefnogi pobl sydd ag unrhyw gwestiynau ac yn edrych ymlaen at gyflwyno’r rhaglen a gweld sut mae’n esblygu dros y blynyddoedd i ddod i adlewyrchu dulliau gweithio modern.”
Bydd y cwrs Lefel 4 yn cael ei gyflwyno tan 3 tan Awst (11 sesiwn).
Bydd y cwrs Lefel 5 yn cael ei gyflwyno o 3 Mai i 1 Tachwedd (11 sesiwn).
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 006.
Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria.