Ac mae 11 o’r rhai sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad – sydd i’w gynnal ar draws chwe lleoliad ym mis Tachwedd – o Goleg Cambria.
Byddant yn cystadlu yn y categorïau canlynol:
Cynnal a Chadw Awyrennau: Rosie Boddy (Airbus/Cambria), Jamie Harding (Airbus/Cambria) a Tymoteusz Rozanski
Therapydd Harddwch: Lucia Contento ac Abbie Smith
Ymarferydd Therapi Harddwch: Isabelle Bailey
Gwaith Metel Adeiladu: Rhys Stanhope
Her Tîm Gweithgynhyrchu: James Coyle, Benjamin Wynn a Kumnan Lipdo
Technegydd Seilwaith Rhwydweithio: Cameron Thompson
Wrth longyfarch y rhai a gafodd eu dewis, dywedodd y Rheolwr Menter a Phrofiad Dysgwyr Rona Griffiths: “Mae’r myfyrwyr a’r prentisiaid wedi gwneud y coleg a nhw eu hunain yn falch drwy gyrraedd y rhestr ar gyfer WorldSkills UK.
“Rydym yn creu’r ymgeiswyr mwyaf medrus ac anhygoel bob blwyddyn mewn ystod eang o feysydd – pob lwc i chi gyd.”
Mae Cymru wedi aros ar y brig o gael y nifer uchaf o gystadleuwyr o bob rhanbarth y DU ers 2015. Eleni, daw dros un o bob pedwar cystadleuydd o Gymru a gyda dau gategori arall i’w gyhoeddi, mae’n debygol y bydd y nifer yn cynyddu.
Mae WorldSkills yn cefnogi pobl ifanc ledled y byd i gymryd rhan mewn hyfforddiant a arweinir gan gystadlaethau, asesiad a meincnodi, gyda chynrychiolwyr o dimau cenedlaethol yn profi eu gallu i gyflawni safonau byd-eang mewn twrnamaint sgiliau Olympaidd.
Mae’r cystadlaethau’n herio dysgwyr mewn pum sector gwahanol i gael eu henwi orau yn eu sgil gan gynnwys Adeilad a Seilwaith, Peirianneg a Thechnoleg, Iechyd a Ffordd o fyw, TG a Menter a Chyfryngau a Chreadigol.
Dywedodd Paul Evans, Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru: “Mae’n gyflawniad gwych i Gymru gael cynrychiolaeth gadarn yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU, gyda nifer mwyaf eto o gystadleuwyr yn cymryd rhan fis Tachwedd eleni.
“Dwi’n hynod o falch ac yn eiddgar i weld sut hwyl gaiff ein cystadleuwyr – llongyfarchiadau a phob lwc i bawb yn y rownd derfynol!”
Dywedodd Ben Blackledge, Dirprwy Brif Weithredwr WorldSkills UK: “Rydw i eisiau llongyfarch pawb a wnaeth gofrestru eleni, yn enwedig y rhai sy’n mynd ymlaen i gystadlu yn rowndiau terfynol mis Tachwedd.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at ddechrau’r daith eto gyda’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal gan golegau ar draws y DU. Rydyn ni’n gobeithio y bydd gweld y rowndiau terfynol yn bersonol neu weld ein cynnwys ar-lein yn ysbrydoli rhagor o bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a rhoi cynnig ar un o’n cystadlaethau’r flwyddyn nesaf.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.worldskillsuk.org a www.inspiringskills.gov.wales.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Coleg Cambria.