Bydd pumed Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru yn cael ei chynnal yn Llysfasi, safle cyrsiau tir y coleg, dros ddeuddydd ar 1-2 Tachwedd.
Bydd yn cynnwys cyflwyniadau, sgyrsiau, gweithdau ac arddangosiadau byw gyda rhai o’r enwau mwyaf adnabyddus yn y ddau sector.
Bydd llety ar gael, a gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyflwyno sesiwn gysylltu â’r trefnwyr, yn enwedig sefydliadau llawr gwlad yn ardal gogledd ddwyrain Cymru.
Mynychwyd dathliad y llynedd yn Llanbedr Pont Steffan gan hyd at 300 o gynrychiolwyr, ac mae Jane Powell, Ysgrifennydd a Chydlynydd y Digwyddiad, yn gobeithio gweld y record honno’n cael ei thorri eleni.
“Rydyn ni’n falch iawn o gael dod â’r gynhadledd i Ogledd Cymru ac yn edrych ymlaen at groesawu pobl o bob cwr o’r rhanbarth a thu hwnt,” meddai.
“Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar bob agwedd ar fwyd a ffermio yng Nghymru, gan fynd i’r afael â materion pwysig ac edrych ar ffyrdd y gall pobl gydweithio, nodi cyfleoedd a rhannu arfer gorau ar adeg anodd i amaethyddiaeth yn y DU.
“Ni fu erioed gymaint o angen ysgogi cymdeithas i greu byd gwell, cefnogi ffermwyr a cheisio sicrhau diwylliant mwy cynaliadwy a ffafriol i’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac mae’r rhain yn bynciau y byddwn ni’n mynd i’r afael â nhw.”
Mae’r gynhadledd annibynnol yn cael ei threfnu gan dîm o wirfoddolwyr o amryw o sefydliadau perthnasol sy’n teimlo’n angerddol dros ddatblygu a chefnogi systemau ffermio a bwyd cynaliadwy, teg a gwydn.
“Rydyn ni’n credu y gall ffermio a bwyd fod yn dda i bobl, cymunedau a’r amgylchedd,” ychwanegodd Jane.
“Mae ‘na lawer o ddiddordeb mewn cynhyrchu bwyd lleol a’r gadwyn gyflenwi, felly rydyn ni hefyd yn gobeithio gweld pobl o’r meysydd hynny, yn ogystal â’r gwesteion sydd gennym ni’n barod.
“Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn siarad neu fynychu gysylltu â ni, yn ogystal ag awgrymu syniadau ynglŷn â beth yr hoffen nhw ei weld yn cael ei drafod a thynnu sylw ato fel rhan o’r rhaglen.”
Am ragor o wybodaeth neu i noddi’r gynhadledd, ewch i www.wrffc.wales/cynhadledd-2023-conference neu anfonwch e-bost at info@wrffc.wales.