Bydd Anne Williams, tiwtor yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam, yn cymryd rhan yn Her Nofio epig Pen i Ben Aquasphere Chillswim Coniston yn ystod yr haf.
Bydd yr her 5.2 milltir yn cael ei chynnal yn Coniston water yn Ardal y Llynnoedd ddydd Sadwrn 22 Mehefin.
Mae Anne, o Gefn Mawr, yn gobeithio codi dros £250 ar gyfer sefydliad Level Water, sy’n darparu gwersi nofio un i un fforddiadwy ac arbenigol i blant sydd â namau corfforol, gweledol a chlyw.
Yn y gorffennol roedd Anne yn uwch awyrluyddwr yn y RAF, lle mi wnaeth hi nofio ar gyfer y fyddin cyn cystadlu mewn sawl ras nofio Meistr dros y blynyddoedd diweddar.
Mae hi wedi bod yn hyfforddi’n galed ar gyfer y digwyddiad yn llyn Hanmer, Parc y Gorffennol, yr Hôb, a llyn Alderford yn Whitchurch. Dywedodd Anne: “Roedd fy nhad yn y Llynges, ac roeddwn i yn y RAF am saith mlynedd cyn mynd i’r brifysgol a dod yn ddarlithydd, felly roeddwn i’n nofio iddyn nhw pan oeddwn i’n iau.
“Dwi wedi bod yn gyfforddus yn y dŵr ers erioed, yn enwedig yn yr awyr agored, ac er bod hyn yn dasg anferth dwi’n edrych ymlaen a dwi’n gobeithio bydd bobl yn cefnogi’r hyn dwi’n ei wneud.
“Dwi wrth fy modd yn nofio a dwi wrth fy modd gyda her! Mae hyfforddi mewn dŵr oer iawn dros y gaeaf wedi bod yn anodd ond mae wedi fy mharatoi ar gyfer yr hyn sydd i ddod.”
Ychwanegodd Anne: “Mae Level Water yn elusen arbennig sy’n cefnogi plant sydd ag anableddau i fwynhau a phrofi bywydau mwy annibynnol, felly byddwch yn hael.
“Mae’n rhaid i mi ddiolch i Alderford Lake Watersports ac Aqua Park sydd wedi rhoi caniatâd i mi hyfforddi yno am ddim – dwi’n gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn.”
I noddi Anne, ewch i’w thudalen JustGiving: justgiving.com
I ddarllen rhagor am yr her, ewch i: https://chillswim.com/chillswim-coniston-end-to-end/