Mae’r adeilad amaethyddiaeth ac addysg newydd gwerth £10 miliwn yng Ngholeg Cambria Llysfasi ar fin cael ei gwblhau.
Gyda chefnogaeth gwerth dros £5.9 miliwn gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, mae Read Construction, sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, yn adeiladu cyfleuster carbon niwtral, dwy lawr, 1,095 metr sgwâr.
Mae’r cyfleusterau arloesol yn cynnwys llyfrgell, ystafelloedd dosbarth, labordai, siop goffi, mannau cyfarfod, atriwm, hwb llesiant a chanolfan AU.
Dywedodd pennaeth Llysfasi, Elin Roberts, y bydd staff yn cynnal eu gwersi yn yr adeilad o ddiwedd mis Tachwedd.
Mae hi wrth ei bodd gyda’r cynnydd sydd wedi’i wneud gan ddweud: ”Mae’r adeilad newydd yn edrych yn anhygoel. Mae’r cwbl wedi dod at ei gilydd yn dda ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at pan fydd yr adeilad ar agor.
“Dyma’r buddsoddiad diweddaraf yn Llysfasi a bydd rhagor i ddod wrth inni barhau i arwain ar ddatblygiadau mewn amaethyddiaeth fanwl gywir ac addysg y tir.
“Mae’r cyfleusterau yn anhygoel, a dwi’n gwybod bod y dysgwyr a’r staff yn awyddus i gael mynd i’r adeilad newydd.
“Mae Read Construction wedi bod yn wych, ac mae’r gweithwyr wedi dod yn rhan o gymuned y coleg gan blannu coed, tirlunio a gosod capsiwl amser a gafodd ei greu gan y coleg ac Ysgol Pentrecelyn yn waliau’r strwythur – rydyn ni’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw.”
Dywedodd Rheolwr y Safle, Paul Izzard, bod y prosiect wedi llwyddo i gadw at yr amserlen er gwaetha’r heriau gyda’r tywydd gwael yn ystod yr wythnosau diwethaf ac yn gynharach yn y flwyddyn.
“Mae’r adeilad ar fin cael ei gwblhau ac mae’n edrych yn wych; mae ein tîm wedi gwneud gwaith anhygoel ac mae popeth ar y trywydd iawn i’w gwblhau er mwyn gallu agor ym mis Tachwedd.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r cyfleuster hwn i’r myfyrwyr, y staff a’r gymuned, ac mae’n fraint i ni allu cyflawni hyn iddyn nhw.”
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.
Am rhagor o wybodaeth am Read Construction, ewch i’r wefan: www.readconstruction.co.uk.