Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

An image depicting the enterance to the reception at Coleg Cambria.

Byddant yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y safleoedd canlynol:

Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy – Nos Fercher 8 Mawrth – 5.30pm-7.30pm.

Llysfasi – Dydd Sadwrn 11 Mawrth – 10am-12pm.

Iâl a Chweched Iâl Wrecsam – Nos Fercher 15 Mawrth – 5.30pm-7.30pm.

Ffordd y Bers Wrecsam – Nos Fercher 15 Mawrth – 5.30pm-7.30pm.

Llaneurgain – Dydd Sadwrn 18 Mawrth – 10am-12pm.

Bydd sesiynau hygyrch yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy – Nos Iau 16 Mawrth – 5.30pm-6.30pm.

Llysfasi – Nos Fercher 29 Mawrth – 5.30pm-6.30pm. 

Iâl a Chweched Iâl Wrecsam – Nos Iau 23 Mawrth – 5.30pm-6.30pm.

Ffordd y Bers Wrecsam – Nos Fercher 22 Mawrth – 5.30pm-6.30pm.

Llaneurgain – Nos Iau 30 Mawrth – 5.30pm-6.30pm.

Bydd y digwyddiadau agored hyn yn rhoi cyfle i bobl archwilio’r ystod eang o raglenni sydd ar gael ar bum safle’r coleg yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Mae cyrsiau’n cynnwys detholiad o feysydd o Fusnes, Gwallt a Harddwch, Marchnata, ac Adeiladu, i Amaethyddiaeth, Peirianneg, Chwaraeon a mwy.

Bydd cyflogwyr blaenllaw’r ardal yno hefyd i drafod cyfleoedd prentisiaethau.

Gan edrych ymlaen at raglen y Gwanwyn, dywedodd Pennaeth Cambria Sue Price: “Rydyn ni’n falch iawn o gynnal digwyddiadau agored unwaith eto – gan gynnwys gweithgareddau mewn sesiwn synhwyraidd-gefnogol ar ein safleoedd yn Wrecsam, Llaneurgain a Glannau Dyfrdwy – ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu darpar fyfyrwyr a’u teuluoedd.

“Dyma’r ffordd berffaith o gael gwybod sut brofiad ydy astudio gyda ni, ond hefyd i archwilio ein partneriaethau gyda’r sector breifat a’r detholiad o gyrsiau a chymwysterau sydd gennym ni i ddysgwyr o bob oedran.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd a dangos y gorau o Goleg Cambria.”

Ychwanegodd Pennaeth Cynhwysiant Lizzie Stevens y bydd sesiynau hygyrch i bobl â gofynion ychwanegol yn eu galluogi i fwynhau cyfleusterau blaengar Cambria mewn amgylchedd cynnes, croesawgar heb dorfeydd mawr.

“Byddwn ni hefyd ar gael i roi rhagor o wybodaeth i chi am ein cyrsiau, ein cyfleusterau a gwasanaethau cynhwysiant a chymorth dysgu, felly bydd yn werthfawr i’r rheiny sy’n dod,” meddai Lizzie.

Ewch i www.cambria.ac.uk/openevents a www.cambria.ac.uk/accessibleopenevents i gael rhagor o wybodaeth a dilynwch Goleg Cambria ar Twitter @colegcambria. 

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost