Bydd ail ddigwyddiad Olwynion Ffordd y Bers yn cael ei gynnal ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam o 10am tan 3pm ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf.
Bydd sawl sefydliad ceir, sgwteri, a beiciau modur blaenllaw y rhanbarth yn bresennol, yn ogystal â phobl sydd â diddordeb yn y maes a fydd yn arddangos eu cerbydau trawiadol eu hunain.
Dywedodd Karl Jackson, Is-bennaeth y Sefydliad Technoleg, “Roedd y llynedd yn llwyddiant mawr felly rydyn ni’n gobeithio bydd eleni yn hyd yn oed yn well gyda rhagor o bobl, rhagor o arddangosiadau, ac ystod eang o weithgareddau yn ystod y diwrnod.
“Yn ogystal â chasgliad o geir a beiciau anhygoel o ar hyd y degawdau, bydd gennym ni gerddoriaeth byw, adloniant, teithiau wedi’u harwain, stondinau masnach, artist gwawdluniau, bwyd a lluniaeth.
“Diolch i bawb sydd wedi cofrestru hyd yn hyn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi gyd ar 9 Gorffennaf – gobeithio bydd yr haul yn tywynu unwaith eto!”
Ymhlith y cerbydau a fydd yn cael eu harddangos bydd car ‘drag’ cyflym, MKII Cortina 1600 clasurol, car priodas Tesla unigryw, ceir cit a cheir TVR.
Ychwanegodd Karl: “Rydyn ni’n parhau i gadarnhau rhai gwesteion ond mae cymaint i’w gynnig yn barod, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd wrth eu boddau â cherbydau ac sydd eisiau gweld amrywiaeth o gerbydau, o hen ffefrynnau i geir speedster uchel-octan.
“Mae gennym ni lwyth o weithgareddau i blant a rhywbeth i ymwelwyr o bob oedran, felly rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at groesawu ymwelwyr ar y safle.”
Mae’r digwyddiad a pharcio am ddim.
Er mwyn arddangos eich cerbyd neu i gael stondin yn Nigwyddiad Olwynion Ffordd y Bers, anfonwch e-bost at karl.jackson@cambria.ac.uk neu terrica.smith@cambria.ac.uk. Fel arall, ffoniwch 01978 267809.
Os hoffech chi ddod i’r digwyddiad, cofrestrwch am ddim yma: www.cambria.ac.uk/brwheels.