Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

NigelHolloway2 (1)

Bydd yr Arddangosfa Sgiliau Gweithgynhyrchu Digidol cyntaf yn cael ei chynnal yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy rhwng 9.30am a 4pm ddydd Mawrth 28 Mehefin.

Wedi’i drefnu mewn partneriaeth ag Arddangosfeydd a Digwyddiadau Nu-Tech, y Brifysgol Agored a Phrifysgol Bangor, bydd y digwyddiad di-dâl yn rhoi cyfle i fusnesau a myfyrwyr ddarganfod mwy am Ddiwydiant 4.0 – y pedwerydd chwyldro diwydiannol – a Thechnoleg Glyfar.

Gall ymwelwyr hefyd ddysgu mwy am yr ystod o gyrsiau a phrentisiaethau digidol sydd ar gael yn y coleg a rhyngweithio â detholiad o gwmnïau blaenllaw mewn arddangosfa cyflenwyr, gyda’r enwau sydd wedi’u cadarnhau yn cynnwys Universal Robots, Manchester Metrology, Alpha 3 Manufacturing, KUKA, Innovative Physics, Broetje Automation, RARUK Automation, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC Cymru), Croft Additive Manufacturing Ltd, WHM-Robotics, Omnia-NW Ltd, Mark 3D Ltd, V360 Group, Wittenstein, Measurement Solutions Ltd, ALRAD Instruments a Metlase Ltd.

Dywedodd Nigel Holloway, Cyfarwyddwr Datrysiadau Busnes Cambria: “Nod yr Arddangosfa Sgiliau Gweithgynhyrchu Digidol yw dangos y technegau sydd eu hangen yn y dyfodol i reoli a gwneud y gorau o bob agwedd ar brosesau gweithgynhyrchu a’r gadwyn gyflenwi.

“Yn ogystal â’r arddangosfa – sy’n cynnwys enwau amlwg o ddiwydiant – byddwn yn arddangos y cyfleusterau a’r offer anhygoel o’r radd flaenaf sydd gennym ni yma yn y Ffatri Sgiliau ac yn tynnu sylw at enghreifftiau o bob un o’r naw maes ffocws cydnabyddedig ar gyfer Diwydiant 4.0, o Seiberddiogelwch, a Rhyngrwyd Pethau, i Ddynwaredu, Data Mawr a Realiti Estynedig.

“Mae hwn yn llwyfan i ni ddod â darpar ddysgwyr, hoelion wyth o’r maes digidol a busnes a’r byd academaidd at ei gilydd am ddiwrnod o archwilio ac arloesi – gobeithiwn y gwelwn ni chi yno.”

Dywedodd Dr Daniel Roberts, Swyddog Cyswllt Medru ar gyfer Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor: “Bydd yr arddangosfa yn ffordd wych o dynnu sylw at yr hyn y gall y bartneriaeth Medru – y ffatri sgiliau ei gynnig i fusnesau o ran cyrsiau uwchsgilio, ond hefyd o ran yr amrywiaeth o offer sydd ar gael ar y farchnad nid yn unig i symleiddio prosesau gweithgynhyrchu, ond hefyd prosesau busnes fel eu bod yn barod ar gyfer Diwydiant 4.0.”

Cynhelir arddangosiadau a gweithdai byw ar draws y safle, yn ogystal â chyflwyniadau technegol, rhwydweithio a ‘throsglwyddo technoleg’.

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr Nu-Tech, Lisa Jones-Taylor: “Mi fydd ’na sefydliadau gwych yn arddangos a dim ond llefydd cyfyngedig sydd ar gael, felly os oes gan gwmnïau ddiddordeb mewn arddangos eu galluoedd Diwydiant 4.0, cysylltwch â ni yn fuan.

“I gwmnïau a dysgwyr sy’n edrych ymlaen at dechnolegau’r dyfodol a buddsoddi mewn sgiliau, mae hwn yn ddigwyddiad na ddylid ei golli.”

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer yr Arddangosfa Sgiliau Digidol rad ac am ddim, ewch i’r wefan: www.industry4techevents.com/digital-manufacturing-skills-expo.

Fel arall, ffoniwch 01946 695554 neu anfonwch e-bost at sales@nu-techassoc.co.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost