Mae Megan Kocker, Cadence Thompson a Joe Williams wedi cael cynnig lle ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Mae’r tri yn fyfyrwyr yng Ngholeg Cambria Iâl, maen nhw wrth eu boddau ac yn edrych ymlaen yn arw at ddechrau eu gradd ym mis Medi.
Mae Megan yn 18 oed, ac yn astudio Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, Mathemateg, Cymraeg Ail Iaith a Bagloriaeth Cymru ac yn mynd ymlaen i astudio’r gyfraith yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt.
Mae hi’n gyn-fyfyriwr Ysgol Bryn Alyn, a dywedodd: “Cyn i mi ddechrau fy TGAU doeddwn i ddim yn gwybod llawer am brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Doedd neb yn fy nheulu wedi bod i’r brifysgol, felly dim ond ar ôl i un o’m hathrawon awgrymu fod gen i botensial gwnes i benderfynu mynd amdani.
“Mi es i a fy rhieni i Gaergrawnt yn ystod yr haf llynedd ac roeddwn i wrth fy modd yno, felly roedd hi’n anhygoel cael cynnig lle a gallu rhoi gwybod i fy rhieni am y newyddion.”
Ychwanegodd Megan: “Dwi’n ddiolchgar i’r staff yn Cambria, sydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth fy helpu i lywio fy ffordd drwy’r broses ymgeisio heriol i Gaergrawnt.
“Mae fy nhiwtoriaid pwnc wedi bod yn anhygoel ac maen nhw bob amser wedi bod yn barod i wneud eu gorau glas i gynnig cymorth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, dwi wedi mwynhau fy nghyfnod yn y coleg oherwydd hynny.
“Fy uchelgais ydi ymarfer y gyfraith naill ai fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, felly dwi’n dechrau fy ngradd gyda meddwl agored am lle fydd y dyfodol yn mynd â mi a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y bennod nesaf yn fy mywyd.”
Mae Cadence yn astudio Safon Uwch mewn Saesneg Iaith, Saesneg Llenyddiaeth, a Ffilm, ac yn edrych ymlaen at fywyd ym Mhrifysgol Rhydychen, lle bydd hi’n dechrau gradd mewn Astudiaethau Japaneaidd.
Breuddwyd Cadence yw dod yn gyfieithydd ar y pryd neu weithio mewn swydd academaidd yn y Dwyrain Pell; mae hi’n diolch i’r tiwtoriaid am y “gefnogaeth anhygoel” y cafodd hi yn ystod ei hamser yn Cambria.
“Mae cael mynd i Brifysgol Rhydychen wedi teimlo fel breuddwyd pell i ffwrdd, doeddwn i byth yn meddwl buaswn i’n cael lle,” ychwanegodd hi.
“Pan ddaeth fy mreuddwyd o fod yno yn wir, roeddwn i wrth fy modd.”
Bydd Joe sy’n 18 oed, a aeth i Ysgol Maelor yn Llannerch Bannau, yn astudio Ieithyddiaeth yng Ngholeg Fitzwilliam, Caergrawnt, ar ôl cwblhau Safon Uwch mewn Ffrangeg, Saesneg Iaith a’r Cyfryngau, a Safon UG mewn Cymraeg Ail Iaith.
Mae’n gobeithio mynd ymlaen a dod yn ddarlithydd ac ymchwilydd mewn Ieithyddiaeth.
“Mae Coleg Cambria wedi bod mor gefnogol ers i mi gyrraedd, a dwi wedi cael cyngor ac anogaeth anhygoel yn ystod y prosesau ymgeisio a chyfweld,” meddai Joe.
“Gwnaeth y tîm i’r holl broses fod yn llawer llai brawychus i mi, dwi’n ddiolchgar iawn am hynny.”
Ychwanegodd: “Dwi wedi bod yn hoff o Gaergrawnt fel dinas ers erioed ond doeddwn i byth yn meddwl y buaswn i’n gweddu’r ddinas fel myfyriwr. Pan es i i’r ddinas, gwnes i sylweddoli ei fod yn fwy amrywiol a chyfeillgar yno nag oeddwn i wedi’i ddychmygu. Roedd hynny’n bwysig iawn wrth i mi benderfynu gwneud cais i fynd yno – dwi’n edrych ymlaen at ddechrau.”
Mae Simon Woodward, Pennaeth Cynorthwyol a Phennaeth Chweched Iâl yn llongyfarch Megan, Cadence a Joe ar eu llwyddiant ac yn dymuno’r gorau iddyn nhw yn y dyfodol.
“Mae’r tri ohonyn nhw’n ysbrydoliaeth ac wedi gweithio’n galed iawn i gyrraedd y pwynt yma,” meddai.
“Rydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw a’r tîm anhygoel yma yn Iâl sy’n gwneud popeth sy’n bosib i sicrhau bod y dysgwyr yn cael y cyfle gorau i ddilyn y llwybr gyrfa maen nhw’n dymuno ei ddilyn – diolch.”