Mae NexGen yn Barcelona yn cynllunio cynhadledd ac arddangosfa gemau a fydd yn cael ei gynnal yn y ddinas Sbaenaidd haf nesaf.
Aeth grŵp o ddysgwyr o Cambria – sydd â safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Llaneurgain, Wrecsam a Llysfasi – i ymweld â’r rhanbarth am bythefnos yn gynharach eleni, lle gwnaethon nhw gyfarfod gweithwyr diwydiant proffesiynol, dylunwyr a gwneuthurwyr gemau.
Dywedodd Lisa Radcliffe, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Astudiaethau Technegol yng Nglannau Dyfrdwy, bod yr ymweliad wedi “chwyddo eu dyheadau” a’u rhoi nhw ar y blaen mewn sector sy’n tyfu yn y DU a thramor.
“Mae E-Chwaraeon yn faes sy’n newid yn gyflym, felly roedd yn wych iddyn nhw fynd allan i gwrdd â rhai o’r enwau gorau yn y busnes,” ychwanegodd.
“Erbyn hyn maen nhw’n bwriadu ennill rhagor o brofiad trwy helpu i ddatblygu gŵyl ar gyfer dysgwyr E-Chwaraeon ar draws y byd, a fydd yn enfawr.
“Mae bod yn rhan o’r rhaglen yn Cambria wedi datblygu eu sgiliau cyfathrebu a’u hyder yn barod – bydd hyn yn mynd â nhw i’r lefel nesaf.”
Dywedodd Cecilia Nilsson, Cyfarwyddwr Rhaglen Nexgen Careers, y bydd y digwyddiad yn ceisio denu colegau o bob rhan o’r byd i Sbaen, gan ganolbwyntio ar drochi diwydiant a datblygu gyrfa.
“Bydd dysgwyr E-Chwaraeon o Goleg Cambria yn cael y cyfle i gymryd rhan a chael profiad rhyngwladol o’r ganolfan dechnoleg yn Barcelona,” meddai.
“Rydyn ni wedi gweld maes E-Chwaraeon yn tyfu’n eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu grŵp mawr o ddysgwyr, er mwyn caniatáu iddyn nhw archwilio’n rhagor i’r cyfleoedd diddiwedd sydd gan y maes i’w cynnig.
“Mae Nexgen Careers yn edrych ymlaen yn fawr at wireddu’r ŵyl hon ynghyd â cholegau ar draws y byd, gyda Choleg Cambria yn un ohonyn nhw.”
Mae rhaglen E-Chwaraeon Cambria yn dod yn fwyfwy poblogaidd ac mae wedi denu hyd at 50 o fyfyrwyr o ogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt i’w cyfleuster pwrpasol, o’r radd flaenaf yng Nglannau Dyfrdwy.
Yn ogystal â chwblhau modiwlau mewn meysydd megis Dylunio Gemau, Darlledu â Ffrwd Fyw, Cynhyrchu Brand E-Chwaraeon, a Chynhyrchu Fideo fel rhan o Ddiploma Lefel 2, mae Diploma Lefel 3 ychwanegol mewn E-Chwaraeon – Marchnata Digidol a Menter wedi’i ddatblygu.
Mae ganddyn nhw hyd yn oed eu carfan E-Chwaraeon eu hunain – Cambria Chimeras – ac mae chwaraewyr wedi cael eu sgowtio gan rai o sefydliadau gemau gorau’r byd a thimau proffesiynol, fel Excel Esports.
Dywedodd y darlithydd E-Chwaraeon, Lauren Crofts: “Mae E-Chwaraeon yn ddiwydiant mawr a dim ond mynd yn fwy ac yn fwy y bydd o, ac mae’r ffaith bod Cambria yn addysgu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr cystadleuol a gweithwyr mewn diwydiannau perthnasol – a all fod yn unrhyw beth o ddylunio a marchnata i fenter, seicoleg chwaraeon, rheoli digwyddiadau a TG – yn ein rhoi mewn sefyllfa gadarn iawn.”
I gael rhagor o wybodaeth am E-Chwaraeon yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk
Ewch i’r wefan www.nexgencareers.co i gael rhagor o newyddion a gwybodaeth gan NexGen.